20 Mai 2019

‘Re-greening’ the Americas’ First Saint: Santa Rosa de Lima (1586-1617)

image of Professor Stephen Hart

Yr Athro Stephen Hart (University College London)

Mae'r gwyrthiau a honnir ar ran santes gyntaf cyfandiroedd America, Santa Rosa de Lima (1586-1617) yn ei gwlad enedigol, Periw – gan gynnwys ei 'chytundeb' gyda mosgitos a gytunasant i beidio byth â'i phigo, yn ogystal â ei gallu i achosi i flodau dyfu, hyd yn oed yng nghanol y gaeaf – yn wahanol i'r rhai a awdurdodwyd gan y Babaeth (sef naw gwyrth yn seiliedig ar eu gallu i iacháu'r corff dynol yn ddisymwth). Drwy anwybyddu'r agwedd Dr Dolittle/bysedd gwyrdd ar hanes Santa Rosa o ganlyniad i benderfyniad y Babaeth, yr effaith oedd esgeuluso'r hyn y gallem ei alw'n 'amgylchedd ecolegol' ei gwyrthiau. Yn rhyfedd iawn, y cryd tridiau/cwartan oedd y clefyd lle cafodd Santa Rosa ei llwyddiant mwyaf yn ei iacháu - yn ôl y 119 o wyrthiau a gyflwynwyd i'r Babaeth - a malaria oedd y clefyd penodol hwn sy’n cael ei drosglwyddo gan fosgitos, fel y'i dangoswyd gan Charles Louis Alphonse Laveran ym 1880. Nid oedd y ffaith hon yn hysbys yn oes Santa Rosa ac, felly, gallem awgrymu bod y tacsonomeg benodol a ddefnyddiai'r Babaeth i ddilysu gwyrthiau wedi torri'r cwlwm gwyrdd annatod dirgel a gysylltai gallu Rosa i iacháu dioddefwyr malaria ar ôl ei marwolaeth â'i gallu i 'siarad' â mosgitos.

Cyflwyniad: Professor Derek Connon

Gair o ddiolch: Rachel Morgan


21 Mai 2018

Heather Dohollau and Franco-Welsh Poetry

image of Professor Patrick McGuiness

Yr Athro Patrick McGuiness, FLSW (St. Anne’s College, Oxford)

Ganwyd Heather Dohollau (1925-2013) yng Nghwm Rhondda ac fe’i magwyd ym Mhenarth. Symudodd i Ffrainc ar ôl colli ei mam yn ferch ifanc ar ôl y rhyfel, ac yn dilyn treulio rhai blynyddoedd ym Mharis a Llundain, ymgartrefodd ar ynys fach Lydewig, Bréhat.
Yn gyfaill agos i Pierre-Jean Jouve yng nghanol yr 1960au tan ei farwolaeth yn 1976, datblygodd sawl cyfeillgarwch llenyddol eraill o’r 1980au, pan ddechreuodd fynychu’r colociymau yn Cerisy-la-Salle, gydag Yves Bonnefoy, Jacques Derrida, Salah Stétié a Lorand Gaspar. Barddoniaeth (gan gynnwys barddoniaeth ryddiaith) oedd y rhan fwyaf o waith cyhoeddus Dohollau. 
Cyhoeddodd un nofel hefyd, La Réponse / Yr Ateb (1982), a ysbrydolwyd gan yr athronydd Jules Lequier, ac un gyfrol o draethodau llenyddol, Les Cinq jardins et autres textes / Y Pum Gardd a Thestunau Eraill (1996), a oedd yn canolbwyntio’n bennaf ar nofel Rilke The Notebooks of Malte Laurids Brigge

Cyflwyniad: Professor Derek Connon

Gair o ddiolch: Dr Kathryn Jones


1 Mawrth 2017

La dolce vita as news and gossip

image of Professor Richard Dyer

Yr Athro Richard Dyer (King’s College London) 

La dolce vita (cyfarwyddwyd gan Federico Fellini, 1960) yw un o'r ffilmiau enwocaf erioed - yn llwyddiant rhyngwladol, a weithiau'n dramgwyddus - a roddodd y term a'r syniad a grynhoir yn y teitl i'r byd, ac ar ben hynny y paparazzi. Mae'n ffilm am hel clecs a newyddion a oedd yn newyddion ei hun ar sail y storïau newyddion, pobl ffasiynol a ffasiynau gwirioneddol yr oes. Mae'r sgwrs hon yn edrych ar y broses gyfan, y delweddau go iawn a ffuglennol o Rufain y defnyddia La dolce vita, y ffordd y mae'n ymwneud â neo-realaeth drwy ei defnydd o bobl nad ydynt yn actorion, ffilmio ar leoliad a strwythurau episodaidd, a'r ffordd y mae'n eu trawsnewid i symbolau a golygfeydd. Mae gwreiddiau La dolce vita yn y byd go iawn, ond mae'n gwrthod cyflwyno'i hun fel realydd, gan fynnu ar y ffordd y caiff gwybodaeth o'r go iawn ei chyfryngu'n llythrennol bob amser.

Cyflwyniad: Professor Derek Connon

Gair o ddiolch: Dr Joanna Rydzewska


19 Mai 2016

The Changing Landscape of Modern Languages Research

Image of Professor-Catherine-Davies

Yr Athro Catherine Davies, Director of the Institute for Modern Languages Research, School of Advanced Study, University of London

Bydd y sgwrs hon yn gofyn: Beth yw ymchwil ieithoedd modern? Beth yw parth arbennig arbenigedd ymchwil ieithoedd modern? A allwn ddiffinio un ddisgyblaeth ieithoedd modern sengl?? I ba raddau y caiff ymchwil ieithoedd modern ei gyflunio mewn ymateb i flaenoriaethau ariannu a pholisïau'r llywodraeth, a pham ei bod yn bwysig ein bod yn diffinio arwyddocâd ymchwil ieithoedd modern yn amlwg? Dyma rai yn unig o'r cwestiynau sy'n codi yn y sgwrs, a gobeithir eu datblygu i drafodaeth ehangach am ymchwil.

Cyflwyniad: PVC Martin Stringer

Gair o ddiolch: Professor Derek Connon