Croeso i'r Adran Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd

Rydym yn cynnig graddau israddedig, gan gwmpasu ystod o ieithoedd modern (Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg), ochr yn ochr â disgyblaethau cysylltiedig cyfieithu a chyfieithu ar y pryd, gyda chyfleoedd i astudio a gweithio dramor.

Mae ein rhaglenni ôl-raddedig a addysgir yn cwmpasu arbenigeddau ym maes cyfieithu, ac rydym hefyd yn cynnig y cyfle i ymgymryd ag ymchwil ôl-raddedig sy'n ymwneud ag ieithoedd modern neu gyfieithu.

I gefnogi eich astudiaethau, mae gennym labordai cyfrifiaduron gyda'r feddalwedd cyfieithu ddiweddaraf, ystafell a chyfarpar cyfieithu ar y pryd, meddalwedd dilyn symudiad y llygaid o’r radd flaenaf, ynghyd ag adnoddau llyfrgell a phrint ardderchog. Mae pob myfyriwr yn elwa o'n labordai iaith pwrpasol sy’n cynnig mynediad at sianeli iaith ac archif helaeth o ffilmiau ieithoedd tramor.

Mae dysgu ac addysgu ar ein graddau'n cael eu hatgyfnerthu gan weithgareddau allgyrsiol a drefnir gan gymdeithasau iaith dan arweiniad myfyrwyr Prifysgol Abertawe, caffis iaith wythnosol a digwyddiadau cymdeithasol eraill. Mae aelodau staff yn yr Adran yn cefnogi'r holl ddigwyddiadau hyn. Ni yw'r unig Brifysgol sy'n cynnig y cyfle i astudio sawl iaith Ewropeaidd drwy gyfrwng y Gymraeg.