Wythnos Gofrestru 2019

Croeso cynnes iawn i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig newydd sy’n astudio Cymraeg, Iaith Saesneg a Dysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (TESOL), Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, Hanes, Y Clasuron, Hen Hanes ac Eifftoleg, Ieithoedd Modern, Y Cyfryngau, Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus ac Astudiaethau Gwleidyddol a Diwylliannol.

Yn ogystal â gweithgareddau swyddogol y mae angen ichi eu cwblhau gyda Phrifysgol Abertawe, trefnir hefyd weithgareddau sefydlu gan eich Adran. Mae’r rhain yn bwysig iawn gan eu bod yn rhoi cyfle i ddarganfod manylion ynglŷn â’r hyn y disgwylir ichi ei gyflawni yn ystod eich astudiaethau a beth yw’r adnoddau sydd ar gael ichi. Byddwch hefyd yn cyfarfod â myfyrwyr newydd eraill a’r bobl yn eich adran a fydd yn eich cefnogi tra byddwch chi yn y Coleg. Mae’n ofynnol i fyfyrwyr newydd fod yn bresennol yng ngweithgareddau sefydlu’r Adran.

Amserlen

Digwyddiad

Ystafell

Dyddiad

O

I

Sgwrs Croeso

Adeilad Keir Hardie Ystafell 429

Dydd Llun 23 Medi

 10.30yb

 3yp

Sgwrs Croeso

Keir Hardie Ystafell 302

Dydd Mawrth 24 Medi

10.30yb

 5yp

Sgwrs Croeso

Talbot Ystafell 224

Dydd Iau 26 Medi

10.30yb

 1yp