Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i Goleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau (COAH) ym mis Medi.

Amserlen: Wythnos Groeso

Mae’r Wythnos Groeso yn gyfle i chi gwrdd â’ch darlithwyr, a dysgu mwy am y ffordd y bydd eich cwrs yn cael ei addysgu a’r hyn y byddwch yn ei ddysgu dros y blynyddoedd nesaf. Bydd yn gyfle i ddod i adnabod pobl eraill ar eich cwrs, a dechrau meithrin cysylltiadau yn ein cymuned fywiog yn COAH. Hefyd byddwn eich hysbysu am yr holl gefnogaeth academaidd a lles sydd ar gael yn y Coleg, ac yn y Brifysgol ehangach.

Wrth i chi aros i ddechrau yma, edrychwch ar ein tudalen Instagram er mwyn dysgu rhagor am y ffordd y mae ein myfyrwyr wedi bod yn cyfranogi yn y Coleg dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys Dawns y Coleg, Diwrnodau Cymunedol, Symposia, a Chwis Tafarn rheolaidd ein Cymdeithas.

Cymdeithasau COAH

Mae ymaelodi â chymdeithas yn gallu bod yn ffordd wych i gyfranogi ym mywyd y myfyrwyr a chwrdd â phobl o’r un natur. Mae ystod o gymdeithasau yn Undeb Myfyrwyr Abertawe, mewn gwirionedd mae rhywbeth ar gyfer pawb! Mae gan ein hadrannau academaidd eu cymdeithasau eu hunain sydd wedi’u harwain gan fyfyrwyr ac sy’n cymryd rôl weithgar wrth drefnu gweithgareddau cymdeithasol yn y Coleg. Er mwyn gweld rhestr lawn o gymdeithasau y gallwch ymaelodi â nhw, a’u manylion cyswllt, edrychwch ar dudalen we cymdeithasau Undeb y Myfyrwyr!

Croeso, oddi wrth eich Cynrychiolydd yn y Coleg!

Fel Coleg rydym yn rhoi gwerth mawr ar adborth gan fyfyrwyr, ac yn gweithio mewn partneriaeth gyda chi ac Undeb y Myfyrwyr i wrando ar eich safbwyntiau, ac rydym yn gweithredu ar eich awgrymiadau er mwyn gwella’ch profiad fel myfyriwr yn barhaus. Emily yw un o’r Cynrychiolwyr Israddedig yng Ngholeg COAH ar gyfer 2020-21.

image of Emily Williams

"Emily ydw i ac rwyf mor gyffrous i weithredu fel eich Cynrychiolydd Israddedig ar gyfer Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau eleni! Rwy’n fyfyriwr BA mewn Eifftoleg yn fy 3edd flwyddyn sy’n breuddwydio am gloddio yn yr Aifft ryw ddydd a bod yn ddarlithydd mewn prifysgol. Mae Abertawe wedi bod yn brofiad anhygoel i mi. Rwyf wir yn gobeithio gallaf helpu myfyrwyr COAH eleni a myfyrwyr y Brifysgol i dderbyn gwybodaeth a chymryd rhan yn yr holl ddigwyddiadau a gweithgareddau sydd ar gael. Os oes gennych chi ymholiadau, problemau neu gwestiynau cyffredinol mae pob croeso i chi gysylltu â mi! Rwy’n ysu am gwrdd â chi!"