Mae’r datganiad hwn yn esbonio sut bydd y timau Datblygu ac Ymgysylltu a Marchnata, sy’n rhan o Adran Marchnata, Recriwtio a Rhyngwladol Prifysgol Abertawe, yn trin ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn ystod ein perthynas ac ar ôl iddi ddod i ben.
Rydym yn ymrwymedig i ddiogelu eich gwybodaeth ac i fod yn dryloyw am yr wybodaeth sydd gennym. Fodd bynnag, os hoffech ddarllen rhagor am ymrwymiad y Brifysgol i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol ac at fod yn dryloyw yn gyffredinol, ewch i Dudalennau gwe Diogelu Data’r Brifysgol.
Defnyddio eich Gwybodaeth Bersonol
Prifysgol Abertawe yw’r rheolydd data ac mae’n ymrwymedig i ddiogelu hawliau cleientiaid a phartneriaid, yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol newydd ar Ddiogelu Data (GDPR). Mae gan Brifysgol Abertawe Swyddog Diogelu Data a gellir cysylltu â’r unigolyn hwn drwy e-bostio dataprotection@abertawe.ac.uk
Pa wybodaeth byddwn yn ei chasglu amdanoch chi?
Byddwn yn casglu’r wybodaeth ganlynol gan unigolion sy’n cyflwyno cais i Gystadleuaeth ‘Prifysgol y Dyfodol’ y Brifysgol:
- Enw’r ymgeisydd
- Oedran yr ymgeisydd
- Enw rhiant/gwarcheidwad
- Ysgol yr ymgeisydd
- Cyfeiriad e-bost rhiant/gwarcheidwad
- Rhif ffôn rhiant/gwarcheidwad
Sut caiff eich gwybodaeth ei defnyddio?
Defnyddir enw, oedran, ysgol a chynnwys (llun, stori neu fideo) yr ymgeiswyr buddugol ar wefan Prifysgol Abertawe a’i sianelau yn y cyfryngau cymdeithasol. Byddwn yn darparu’r wybodaeth hon hefyd i ddau sefydliad trydydd parti, gan gynnwys y cwmni sy’n creu’r fideo animeiddiedig ynghyd â chwmni rheoli’r artist sy’n dyfarnu’r wobr.
Bydd enw, oedran ac ysgol yr ymgeiswyr buddugol yn ymddangos yn y ffilm derfynol ac mewn deunyddiau hyrwyddo’r gystadleuaeth ‘Prifysgol y Dyfodol’. Hysbysir ysgol yr ymgeisydd buddugol am hyn.
Bydd enw, oedran, ysgol a chynnwys (llun, stori neu fideo) ymgeiswyr sy’n derbyn clod uchel yn cael eu defnyddio ar wefan Prifysgol Abertawe i hyrwyddo ymgyrchoedd lle mae’r Brifysgol yn teimlo y byddai hyn yn fuddiol.
Mae’n bosib y bydd Prifysgol Abertawe am rannu data personol ymgeiswyr yn y cyfryngau cymdeithasol, yn amodol ar gydsyniad yr unigolion, a gofynnir am gydsyniad ysgrifenedig adeg dewis yr ymgeiswyr.
Defnyddir cyfeiriad e-bost y rhiant/gwarcheidwad i gadarnhau bod ceisiadau wedi’u derbyn/cyflwyno a hefyd i’w hysbysu bod eu plentyn/dibynnydd ar y rhestr fer/wedi ennill y gystadleuaeth.
Gellir defnyddio’r stori a’r fideos animeiddiedig terfynol i hyrwyddo ymgyrch Canmlwyddiant Prifysgol Abertawe mewn ffyrdd eraill, megis drwy ddigwyddiadau byw neu ar-lein. Cydnabyddir yr ymgeiswyr buddugol lle caiff eu gwaith ei ddefnyddio.
Ni fydd Prifysgol Abertawe’n defnyddio manylion eraill mewn unrhyw ffordd arall.
Pa sail gyfreithiol rydym yn ei defnyddio i brosesu data?
Mae angen i ni brosesu eich data at ddibenion buddiannau dilys y Brifysgol, er mwyn gweinyddu Cystadleuaeth ‘Prifysgol y Dyfodol’ y Brifysgol.
Lle’r ydym yn defnyddio eich gwybodaeth er mwyn ein buddiannau dilys, rydym yn sicrhau ein bod yn ystyried unrhyw effaith bosib arnoch chi a allai ddeillio o ddefnydd o’r fath. Nid yw ein buddiannau dilys ni yn trechu eich rhai chi’n awtomatig ac ni fyddwn yn defnyddio eich gwybodaeth os credwn y dylai eich buddiannau chi drechu ein rhai ni, oni bai fod gennym seiliau eraill dros wneud hynny (megis eich cydsyniad neu ddyletswydd gyfreithiol).
Pwy fydd yn derbyn eich gwybodaeth?
Cedwir gwybodaeth rydych yn ei darparu i ni gan Brifysgol Abertawe.
Caiff eich gwybodaeth bersonol ei storio ar ein systemau a’n cronfeydd data electronig diogel a byddant yn hygyrch i gydweithwyr yn y Brifysgol sydd â’r caniatâd priodol. Mae’r Brifysgol yn diogelu gwybodaeth bersonol ac ni fydd yn ei datgelu i sefydliadau trydydd parti heb gydsyniad penodol.
Bydd gwybodaeth ar gael i staff y mae angen iddynt gael mynediad ati, mewn amgylchiadau cyfyngedig ac am resymau a nodir uchod. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Staff gweinyddol, Datblygu ac Ymgysylltu a Marchnata’r Brifysgol
Sut caiff eich gwybodaeth bersonol ei storio?
Mae deddfwriaeth Diogelu Data yn gosod dyletswydd arnom i gadw eich gwybodaeth yn ddiogel. Mae hyn yn golygu y byddwn yn parchu eich cyfrinachedd ac yn cymryd pob cam priodol i atal mynediad a datgeliad anawdurdodedig.
Ni fydd neb ond staff y mae angen iddynt gael mynediad at rannau perthnasol o’ch gwybodaeth, neu eich gwybodaeth gyfan, yn cael caniatâd i wneud hynny. Bydd gwybodaeth amdanoch chi ar ffurf electronig yn cael ei diogelu gan gyfrinair a chyfyngiadau diogelwch eraill a’i chadw ar rwydweithiau diogel y brifysgol a chaiff ffeiliau papur eu storio mewn ardaloedd diogel lle rheolir mynediad.
Am faint o amser byddwn yn cadw eich gwybodaeth?
Byddwn yn cadw eich data personol am flwyddyn ar ôl dyddiad cau’r gystadleuaeth.
Eich cyfrifoldebau chi
Os nad ydych am i’ch manylion gael eu cyhoeddi, rhowch wybod i’r timau Datblygu ac Ymgysylltu a Marchnata drwy e-bostio centenary2020@abertawe.ac.uk a marketing@abertawe.ac.uk
Os ydych wedi rhoi cydsyniad i Brifysgol Abertawe brosesu unrhyw ran o’ch data, mae gennych hawl i dynnu’r cydsyniad hwnnw yn ôl a gofyn i’ch data personol gael ei ddileu.
Pa hawliau sydd gennych?
Mae gennych hawl i gael mynediad at eich gwybodaeth bersonol, i wrthwynebu i brosesu eich gwybodaeth bersonol, i gywiro, dileu a chyfyngu ar eich gwybodaeth bersonol a’i throsglwyddo (sylwer, fodd bynnag, fod hyn yn debygol o effeithio ar ein gallu i’ch cefnogi yn y ffordd fwyaf effeithiol, os o gwbl).
I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, ewch i Dudalennau Gwe Diogelu Data Prifysgol Abertawe.
Dylid cyflwyno ceisiadau neu wrthwynebiadau’n ysgrifenedig i Swyddog Diogelu Data’r Brifysgol:
Bev Buckley
Swyddog Cydymffurfiaeth y Brifysgol (Rhyddid Gwybodaeth/Diogelu Data)
Swyddfa’r Is-ganghellor
Prifysgol Abertawe
Parc Singleton
Abertawe
SA2 8PP
Os ydych yn anfodlon ar y ffordd mae eich gwybodaeth bersonol wedi cael ei phrosesu, gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data’r Brifysgol yn y lle cyntaf gan ddefnyddio’r manylion cyswllt uchod.
Os ydych yn anfodlon wedi hynny, mae gennych hawl i gysylltu’n uniongyrchol â’r Comisiynydd Gwybodaeth i ofyn am benderfyniad. Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
Newidiadau i’n Polisi Preifatrwydd
Bydd newidiadau a wneir i’n polisi preifatrwydd yn y dyfodol yn cael eu cyhoeddi ar y dudalen hon a, lle bo’n briodol, cewch eich hysbysu drwy e-bost.