I’n helpu i ddathlu ein pen-blwydd yn 100 oed, rydym yn gwahodd plant i gymryd rhan mewn cystadleuaeth arbennig iawn. Byddem wrth ein boddau pe gallech ein helpu i ddychmygu sut bydd ein Prifysgol yn edrych ymhen canrif arall, yn y flwyddyn 2120.
I wneud hyn, rydym yn eich gwahodd i anfon atom lun, stori, cerdd neu fideo yn seiliedig ar y syniad ‘Prifysgol y Dyfodol’.
Rydym wedi dyfeisio gweithgareddau sy’n berthnasol i Gyfnodau Allweddol gwahanol. Felly, beth bynnag yw eich oedran, mae dewis o ffyrdd difyr i chi gymryd rhan wrth ddylunio eich ‘Prifysgol y Dyfodol’ (gweler adran 1.1. i 1.3).
Bydd y ceisiadau buddugol yn cael eu harddangos fel rhan o raglen o ddigwyddiadau i ddathlu canmlwyddiant y Brifysgol yn 2020
Mae croeso i chi gyflwyno straeon yn Gymraeg neu Saesneg.
Bydd angen caniatâd gan riant neu warcheidwad cyfreithiol cyn y gellir derbyn ceisiadau.
1. Categorïau’r Gystadleuaeth:
1.1. Cyfnod Allweddol 1: tynnwch lun neu baentiwch lun o’ch syniad chi am y brifysgol lle gallai ein myfyrwyr fod yn astudio mewn 100 mlynedd.
1.1.1. Rhaid i fyfyrwyr fod yng Nghyfnod Allweddol 1
1.1.2. Gellir creu lluniau o unrhyw ddeunyddiau celf a chrefft
1.1.3. Bydd pob cais yn cael ei feirniadu am greadigrwydd, defnydd o ddeunyddiau a safon y llun (yn briodol i oedran yr ymgeisydd), a’i ddehongliad o thema’r stori, ‘Prifysgol y Dyfodol’.
1.2. Cyfnod Allweddol 2: Hoffem i chi greu stori fer neu gerdd sy’n disgrifio eich syniad am Brifysgol y Dyfodol..
1.2.1. Rhaid i fyfyrwyr fod yng Nghyfnod Allweddol 2
1.2.2. Uchafswm y geiriau ar gyfer pob cais yw 100, ac eithrio’r teitl. Nid oes isafswm geiriau.
1.2.3. Croesewir ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg
1.2.4. Nid oes gofynion penodol o ran fformatio – math o ffont neu ei faint, bwlch rhwng llinellau etc
1.2.5. Bydd pob cais yn cael ei feirniadu am ddefnydd iaith, gan gynnwys cywirdeb sillafu a gramadeg (yn briodol i oedran yr ymgeisydd), cryfder y stori a’i ddehongliad o thema’r stori, ‘Prifysgol y Dyfodol’.
1.3. Cyfnod Allweddol 3: Anfonwch fideo atom sy’n dangos eich trafodaethau â’ch teulu am sut gallai’r brifysgol edrych mewn canrif arall, neu gallech greu animeiddiad neu fodel ar eich cyfrifiadur a recordio sylwebaeth i ni.
1.3.1. Rhaid i fyfyrwyr fod yng Nghyfnod Allweddol 3 neu 4
1.3.2. Ni ddylai fideos bara mwy na 3 munud
1.3.3. Croesewir ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg
1.3.4. Bydd pob cais yn cael ei feirniadu am ddefnydd iaith (yn briodol i oedran yr ymgeisydd), creadigrwydd y syniadau a’i ddehongliad o thema’r stori, ‘Prifysgol y Dyfodol’.
2. Sut i gyflwyno cais
2.1 Bydd y gystadleuaeth yn para o 13 Gorffennaf tan 20 Tachwedd 2020
2.2. Rhaid i Brifysgol Abertawe dderbyn pob cais cyn 20 Tachwedd 2020. Ni chaiff ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn eu beirniadu.
2.3 Nid oes tâl i gyflwyno cais a rhaid gwneud hyn drwy gwblhau ein ffurflen gais syml ar-lein.
2.4 Caiff pob unigolyn gyflwyno hyd at uchafswm o ddau gais.
2.5 Bydd panel beirniadu, a fydd yn cynnwys grŵp dethol o staff y Brifysgol, yn dewis yr enillwyr ym mhob categori ac yn dyfarnu statws ‘clod uchel’.
2.6 Ni fydd y Brifysgol yn derbyn cyfrifoldeb am geisiadau i’r gystadleuaeth sy’n mynd ar goll am unrhyw reswm, sy’n cael eu difrodi neu eu hoedi, waeth beth yw’r achos, gan gynnwys, er enghraifft, o ganlyniad i ddiffyg cyfarpar, y rhyngrwyd, nam technegol, diffyg systemau, lloeren, rhwydwaith, gweinydd, caledwedd neu feddalwedd gyfrifiadurol o unrhyw fath.
3. Gwobrau
3.1. Prif Wobr
3.1.1. Cyfnod Allweddol 1: Bydd y cais buddugol yn cael ei droi’n animeiddiad a’i gynnwys mewn fideo animeiddiedig a gaiff ei greu o stori fuddugol Cyfnod Allweddol 2 a bydd personoliaeth adnabyddus yn adrodd y stori. Caiff y fideo ei ddangos am y tro cyntaf fel rhan o raglen o ddigwyddiadau i nodi canmlwyddiant y Brifysgol a gallai gynnwys digwyddiadau eraill Prifysgol Abertawe. Caiff y ffilm hon ei harddangos ar holl sianelau’r Brifysgol yn y cyfryngau cymdeithasol ac ar wefan Prifysgol Abertawe hefyd.
3.1.2. Cyfnod Allweddol 2: Bydd y cais buddugol yn cael ei droi’n ffilm animeiddiedig gyda phersonoliaeth adnabyddus yn adrodd y stori, fel rhan o raglen o ddigwyddiadau i nodi canmlwyddiant y Brifysgol. Caiff y ffilm hon ei harddangos ar holl sianelau’r Brifysgol yn y cyfryngau cymdeithasol ac ar wefan Prifysgol Abertawe hefyd.
3.1.3. Cyfnod Allweddol 3: Bydd y cais buddugol yn cael ei gyflwyno gan bersonoliaeth adnabyddus a’i arddangos fel rhan o raglen o ddigwyddiadau i nodi canmlwyddiant y Brifysgol. Caiff y ffilm hon ei harddangos ar holl sianelau’r Brifysgol yn y cyfryngau cymdeithasol ac ar wefan Prifysgol Abertawe hefyd.
3.2. Clod Uchel
3.2.1 Bydd ceisiadau sy’n derbyn clod uchel yn cael eu lanlwytho i dudalennau gwe Canmlwyddiant Prifysgol Abertawe am hyd at bum mlynedd. Gellir dileu’r tudalennau gwe yn gynt os bydd y Brifysgol yn penderfynu gwneud hynny.
4. Cyhoeddi’r Enillwyr
4.1 Bydd yr enillwyr a’r ymgeiswyr sy’n derbyn clod uchel ym mhob categori yn cael eu hysbysu erbyn 16 Rhagfyr 2020 fan bellaf a byddant yn derbyn cyfarwyddiadau pellach am ble i weld eu gwaith.
4.2 Mae penderfyniad y beirniaid yn derfynol ac ni fydd y Brifysgol yn cymryd rhan mewn gohebiaeth neu drafodaeth ynghylch eu penderfyniad.
5. Cyfyngiad ar Atebolrwydd
5.1 I’r graddau y mae’r gyfraith yn caniatáu hynny, ni fydd y Brifysgol a’r beirniaid mewn unrhyw amgylchiadau yn gyfrifol nac yn atebol am dalu iawndal i’r ddau enillydd nac yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled, difrod, anaf personol neu farwolaeth sy’n digwydd o ganlyniad i dderbyn y gwobrau ac eithrio lle bo hyn wedi’i beri gan esgeulustod y Brifysgol a’r beirniaid. Nid effeithir ar eich hawliau statudol.
6. Perchnogaeth ar y Ceisiadau a Hawliau Eiddo Deallusol
6.1 Fel y crëwr, byddwch yn cadw’r hawlfraint am eich cais. Mae pob enillydd ac ymgeisydd sy’n derbyn clod uchel yn cytuno i roi trwydded fyd-eang, nad yw’n gyfyngol, am bum mlynedd o’r Dyddiad Cyhoeddi i ddefnyddio eich cais cyfan neu ran ohono fel y disgrifir yn 6.2-6.4.
6.2 Rydych chi’n cytuno y caiff y Brifysgol gyhoeddi eich cais yn ei chyfathrebiadau digidol (e.e. gwefan, cyfryngau cymdeithasol, e-bost) neu ar gyfathrebiadau argraffedig (e.e. taflen digwyddiad) am bum mlynedd o’r Dyddiad Cyhoeddi. Bydd y Brifysgol yn eich cydnabod chi fel y crëwr bob tro mae’r Brifysgol yn defnyddio eich gwaith. Ni fydd y Brifysgol yn ceisio cyhoeddi eich gwaith yng nghyfryngau unrhyw drydydd parti (e.e. cylchgrawn, papur newydd neu wefan y cyfryngau) heb eich cydsyniad, ac eithrio fel yr amlinellir yn 6.3-6.4.
6.3 Rydych chi’n cytuno y gellir defnyddio cais buddugol gan y Brifysgol a chwmni cynhyrchu animeiddiadau allanol fel y disgrifir yn 3.1. Caiff y Brifysgol a’r cwmni cynhyrchu ddefnyddio’r animeiddiad yn rhydd ar eu gwefannau a’u sianelau yn y cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo’r fenter hon, am gyfnod o bum mlynedd.
6.4 Bydd yr enillwyr a’r awduron sy’n derbyn clod uchel yn derbyn ceisiadau rhesymol gan y Brifysgol i gymryd rhan mewn gweithgareddau hyrwyddo er mwyn creu cyhoeddusrwydd i’r gystadleuaeth.
6.5 Drwy gyflwyno’r stori rydych yn cytuno ac yn gwarantu nad oes dim yn eich cyflwyniad sy’n groes i unrhyw hawl o ran preifatrwydd, hawlfraint neu eiddo deallusol yng ngwaith rhywun arall.
6.6. Rydych chi’n cytuno, os bernir bod unrhyw ran o’ch cyflwyniad yn groes i 6.5, na fydd eich cais yn gymwys i dderbyn gwobr.
7. Diogelu Data
7.1 Ni fydd y Brifysgol yn prosesu eich gwybodaeth bersonol ac eithrio fel y nodir ym mholisi preifatrwydd y Brifysgol a geir yma.
8. Cyffredinol
8.1 Os cred y Brifysgol eich bod wedi torri unrhyw rai o’r amodau a thelerau hyn, bydd gan y Brifysgol, heb ymgynghori â neb, hawl i benderfynu eich gwahardd rhag cymryd rhan yn y gystadleuaeth.
8.2 Ni fydd y beirniaid yn gallu rhoi adborth ar eich cais.
8.3 Gall y Brifysgol ddiwygio’r amodau a thelerau unrhyw bryd.
8.4 Rheolir yr amodau a thelerau hyn gan gyfraith Cymru a Lloegr, ac mae’r partïon yn ymostwng i awdurdodaeth llysoedd Cymru a Lloegr ond heb fod yn gyfyngol i hyn.