Mae arddangosfa sy'n nodi Canmlwyddiant Prifysgol Abertawe yn cael ei chynnal yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau tan 14 Mawrth 2021.
Gan ddechrau gyda gosod y garreg sylfaen ar 19 Gorffennaf ym 1920, mae'r arddangosfa yn cynnig cipolwg ar hanes y Brifysgol dros y degawdau. Mae'n cynnwys lluniau, fideos a recordiadau o hanes llafar o archifau'r Brifysgol, ailgreu ystafell wely myfyriwr yn ystod y 1960au a model 3D rhyngweithiol gwych o Abaty Singleton. Bydd cyfres o arddangosfeydd dros dro drwy gydol oes yr arddangosfa yn amlygu amrywiaeth gwaith y Brifysgol a'i rôl yn y rhanbarth.
Sylwer: Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar agor am oriau cyfyngedig yn unig ar hyn o bryd a bydd yn rhaid i ymwelwyr archebu tocyn am ddim o flaen llaw. Ceir rhagor o fanylion yn: https://museum.wales/swansea/ymweld â ni/