Mae BywydCampws yn croesawu, yn derbyn ac yn gwasanaethu pawb. Nid ydym yn gwahaniaethu ar unrhyw lefel.

Fel adran, rydym yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi bod gennym grŵp amrywiol o fyfyrwyr a staff ac rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth pawb.

Ein polisi yw bod yn gynhwysol ac ystyrlon o’r amrywiaeth hwn yn ein polisïau, ein hadnoddau, ein gwasanaethau a’n rhyngweithiadau â phobl eraill. Fel adran, rydym yn cydnabod pawb, ni waeth beth yw eu hoedran, eu diwylliant, eu hanableddau, eu tarddiad ethnig, eu rhywedd, eu hunaniaeth o ran rhywedd, eu statws priodasol, eu cenedligrwydd, eu hil, eu crefydd, eu rhywioldeb a’u statws economaidd-gymdeithasol.

Rydym yn credu y dylid deall, parchu, gwerthfawrogi a chydnabod amrywiaeth a gwahaniaethau unigol fel ffynhonnell cryfder. Rydym yn disgwyl y bydd myfyrwyr, gweinyddwyr a staff ym MywydCampws yn parchu gwahaniaethau ac yn dangos dyfalbarhad wrth ddeall sut y gall safbwyntiau, ymddygiadau a barn pobl eraill ar y byd fod yn wahanol i’w rhai nhw. 

Rydym yn ceisio cyfleoedd addysg ym mhob maes, gan obeithio y byddwn yn tyfu’n barhaus ac yn dysgu am rannau gwahanol ein poblogaeth amrywiol o fyfyrwyr a staff.

Os oes agweddau ar eich profiad o dderbyn cymorth gan FywydCampws sy’n mynd yn groes i’r datganiad cynwysoldeb, rhowch wybod i ni drwy gysylltu â BywydCampws gan ddefnyddio’r dulliau isod neu dewch i ymweld â ni.

Ceir ein cyfleusterau adborth ar-lein yma: https://www.swansea.ac.uk/campuslife/guidelines-feedback-and-complaints