Cymorth i Ymadawyr Gofal

Mae'r syniad o fynd i'r brifysgol yn gyffrous, ond rydym ni'n deall y gall fod yn frawychus hefyd. Mae Cyfranogiad@BywydCampws yn darparu cyngor, cyfleoedd a gwybodaeth bwrpasol i ymadawyr gofal cymwys. Gallwn ni eich helpu chi i gael mynediad at wybodaeth ac arweiniad ar amrywiaeth o faterion gan gynnwys llety, cymorth academaidd a chyllid gan eich galluogi chi i wneud penderfyniadau cadarnhaol a gwybodus am eich astudiaethau a'ch profiad yn y brifysgol.

Mae’r wybodaeth isod yn amlinelli’r pecyn cymorth ar gyfer ymadawyr gofal cymwys. Os ydych chi’n meddu ar brofiad o ofal, wedi bod dan ofal gwarcheidiaeth, heb rieni fyw neu yn rhywun sy’n byw mewn llety â chymorth awdurdod lleol, cysylltwch â ni, er mwyn trafod eich amgylchiadau a’r cymorth sydd ar gael i chi.

Hysbysu’r Brifysgol am eich statws

Y ffordd orau o ddweud wrthym ni eich bod chi'n gadael gofal yw ticio'r blwch yn y cwestiwn gofal yn eich cais UCAS. Drwy dicio'r blwch hwn, byddwn ni'n gallu cysylltu â chi, amlinellu'r cymorth sydd ar gael i chi a chynnig help gyda chwestiynau sydd gennych chi cyn i chi gyrraedd  y Brifysgol. Peidiwch â phoeni os ydych chi'n anghofio ticio'r blwch ar eich cais UCAS. Gallwch chi neu’ch tîm yn y Gwasanaethau Cymdeithasol e-bostio i roi gwybod i ni am eich statws. 

Ni fydd nodi eich bod chi'n gadael gofal yn effeithio ar eich cais i'r Brifysgol mewn ffordd andwyol a bydd eich statws yn parhau i fod yn gyfrinachol. Drwy dicio'r blwch, bydd y Brifysgol dim ond yn defnyddio'r wybodaeth i sicrhau eich bod chi'n derbyn y cymorth priodol a chynnig is o ran graddau, os yw hynny'n briodol. Ni fydd eich statws fel rhywun sy'n gadael gofal yn cael ei drosglwyddo i'ch adran. 

Mae mynd i'r brifysgol yn bennod newydd i fyfyrwyr ac rydym ni'n deall efallai y byddwch chi am ymbellhau ychydig o'ch statws fel un sy'n gadael gofal. Bydd dweud wrthym ni eich bod chi'n gadael gofal yn ein helpu ni i roi gwybod i chi pa gymorth sydd ar gael. Fodd bynnag, eich penderfyniad chi'n llwyr yw cyrchu'r cymorth ai peidio. Os byddwch chi'n dewis i beidio â'i gyrchu, bydd ein drws bob amser ar agor i chi os byddwch chi'n newid eich meddwl. 

I roi cymorth i chi, ni fydd angen i ni wybod pam yr oeddech chi mewn gofal felly ni fyddwn ni byth yn gofyn am eich profiad o fod mewn gofal.

Sut ydw i'n gymwys am gymorth? Swyddog Mynediad

Pa gymorth sydd ar gael?

Pa gymorth sydd ar gael cyn i mi ddechrau yn y brifysgol?

Cymorth Ariannol i ddod i Gyfweliadau neu Ddiwrnodau Agored
Gall ein Swyddog Mynediad helpu i drefnu eich ymweliad a threfnu cwrdd â chi. Mae modd ad-dalu costau teithio (bydd hyn, fel arfer, yn cynnwys cost tocyn rheilffordd ail ddosbarth a chostau cludiant cyhoeddus eraill).

Cytundeb Compact i Ymadawyr Gofal
Os ydych yn 'Fyfyriwr Compact', byddwn yn gostwng y gofyniad o ran canlyniadau Safon Uwch (neu gyfwerth) a fydd yn lleihau ein gofynion graddau Safon Uwch  un radd (neu gyfwerth). Mae amodau a thelerau'n berthnasol.

Cyngor am Flaendaliadau Llety
Pan fyddwch yn derbyn cynnig am lety yn y brifysgol, bydd angen i chi dalu blaendal i gadw eich lle yn y llety. Os ydych yn poeni am y costau hyn, cysylltwch â ni i drafod eich opsiynau.  

Pa gymorth fydd ar gael i mi wrth astudio? Pa gymorth sydd ar gael cyn graddio?

Gwybodaeth i Weithwyr Cymdeithasol a Gweithwyr Proffesiynol

Os ydych chi'n gweithio gydag Ymadawr Gofal sy'n ystyried gwneud cais i Brifysgol Abertawe ac mae gennych chi gwestiynau am y broses gwneud cais, cyllid neu'r pecyn cymorth sydd ar gael, mae croeso i chi gysylltu â ni a gallwn helpu gyda unrhyw gwestiynau cyffredinol sydd gennych. Bydd angen cydsyniad yr unigolyn dan sylw i drafod amgylchiadau unigol.

Er mwyn gallu asesu cymhwysedd ymgeisydd / myfyriwr i dderbyn y cymorth ychwanegol a gynigir i ymadawyr gofal cymwys, mae angen llythyr gan ei gynghorydd personol neu weithiwr cymdeithasol sy'n cadarnhau statws Gadael Gofal y person ifanc. Bydd angen i'r llythyr fod ar bapur pennawd, wedi'i lofnodi a’i ddyddio ac ar ffurf PDF a dylai gynnwys enw'r person ifanc, ei ddyddiad geni, y dyddiadau pan oedd y person ifanc dan ofal yr awdurdod lleol a chadarnhad bod ei amser mewn gofal yn bodloni ein meini prawf cymhwyso.

Nid oes angen copïau o ddogfennau sensitif yn ymwneud â chyfnod person ifanc mewn gofal, nac adroddiadau proffesiynol nac achos gorchymyn llys, felly peidiwch â darparu'r rhain.  Os nad ydych yn siŵr pa dystiolaeth i'w darparu, cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.

Cyfrinachedd

Ymdrinnir â holl wybodaeth gan Cyfranogiad@BywydCampws yn gwbl gyfrinachol. Ar yr achlysuron y bydd angen i ni ymgynghori â staff o adran arall neu o sefydliad allanol gwneir hyn ar ôl derbyn caniatâd gennych chi yn gyntaf. 

Cysylltwch â Ni

Os hoffet ti gysylltu â ni, e-bostia participation.campuslife@abertawe.ac.uk 

Mae’n rhaid i fyfyrwyr presennol ddefnyddio eu cyfeiriad e-bost myfyriwr wrth gysylltu â Cyfranogiad@BywydCampws.