Ym Mhrifysgol Abertawe rydyn ni’n ymrwymedig i helpu’ch sefydliad i lwyddo yn yr hinsawdd economaidd fyd-eang bresennol. Rydyn ni eisiau eich cefnogi chi i ddod o hyd i’r dalent orau a chynnig porth i’n carfan o fwy na 20,000 o fyfyrwyr a graddedigion.

Er mwyn cyrraedd y nod, rydyn ni’n cynnig 50 o interniaethau am 6 wythnos sydd wedi’u hariannu’n llawn (neu’n gyfwerth ag amser llawn).

Mae ein hinterniaethau, y gellir eu cyflawni yn y fan a’r lle neu o hirbell, yn rhoi ichi’r manteision o wybodaeth arbenigol ein myfyrwyr ac yn caniatáu ichi weld cyflogeion posibl wrth eu gwaith cyn cyflogi.

Drwy ddarparu profiad gwaith, gall eich sefydliad fod o les hefyd i’n myfyrwyr drwy eu helpu i ddatblygu eu sgiliau yn y byd go iawn, gan fagu eu hyder yn y gweithle rhithwir newydd ac ymestyn eu rhwydwaith proffesiynol.

Felly sut mae’n gweithio?

1. Byddwn ni’n eich cefnogi chi i ddod o hyd i un o fyfyrwyr Prifysgol Abertawe ar gyfer eich rôl

Gallwn ni naill ai hysbysebu rolau ar ein bwrdd ar gyfer swyddi digidol, neu os oes gyda chi un o fyfyrwyr Prifysgol Abertawe mewn golwg eisoes, rhowch wybod inni.

2. Dilynwch eich proses Adnoddau Dynol arferol i gynefino eich cyflogai newydd

Gallwn ni eich cefnogi gyda’n pecyn interniaeth. Dylai’r contract ar gyfer gwaith dros dro fod ar gyfer isafswm o 210 awr sy’n cael eu talu o leiaf yn unol â chyfraddau cyflog y Living Wage Foundation (ar hyn o bryd £9.30 yr awr y tu allan i Lundain). Fel cyflogwr yr intern, eich cyfrifoldeb chi fydd treth arferol, yswiriant gwladol, gwyliau a rheoliadau ar dâl salwch.

3. Mynnwch eich grant o £2000

Unwaith eich bod chi, ein harbenigwyr cyflogadwyedd a’ch intern newydd wedi arwyddo’r pecyn interniaeth, gallwch chi ein hanfonebu ar gyfer y grant hwn sy’n ddidreth.

Am ragor o fanylion, e-bostiwch y tîm cyflogadwyedd neu ewch i'n gwefan i ddarganfod pa gyfleoedd lleoli eraill y gallwn eich helpu gyda nhw. Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich helpu i ddod o hyd i’ch recriwt newydd!

Rhannu'r stori