Mae Technolegau Gweithgynhyrchu i’r Dyfodol yn flaenoriaeth os yw’r sector gweithgynhyrchu i fod yn gystadleuol, ac mae hwn yn gyfnod hollbwysig ar gyfer canfod cyfleoedd a gwneud yn fawr ohonynt. Gyda hyn mewn golwg ASTUTE 2020, mae partneriaeth rhwng sawl prifysgol dan arweiniad Prifysgol Abertawe, yn gallu helpu gweithgynhyrchwyr yng Nghymru i roi hwb i’w harloesedd, eu gwaith ymchwil a’u llwyddiant.

Mae ASTUTE 2020 (Technolegau Gweithgynhyrchu Cynaliadwy Uwch) yn bartneriaeth rhwng pum prifysgol sy’n sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, ac mae’n cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, trwy Lywodraeth Cymru.

Nod y prosiect yw dileu’r risgiau sydd ynghlwm wrth ddefnyddio Technolegau Gweithgynhyrchu’r Dyfodol trwy ganiatáu lefelau uwch o arloesedd i fusnesau yn sgîl cydweithio rhwng diwydiant ac academia, gyda’r nod yn y pen draw o wella ffyniant y rhanbarth.

Ffocws Gweithgynhyrchu ASTUTE 2020:

  1. Technoleg Deunyddiau Uwch – Ymdrin â’r angen diwydiannol am wella gwybodaeth a dealltwriaeth o ddeunyddiau. Cyflwyno deunyddiau newydd i gynnyrch, gan fabwysiadu technegau mwy arloesol ar gyfer prosesu deunyddiau uwch
  2. Modelu Peirianneg Gyfrifiadurol – cynyddu’r ddealltwriaeth o brosesau cymhleth a chynnyrch ar gyfer cynhyrchedd a chystadleurwydd yn y dyfodol
  3. Peirianneg Systemau Gweithgynhyrchu – ecsbloetio adnoddau a chysylltedd mewn prosesau gweithgynhyrchu, gan roi sylw i’r egwyddorion gwaelodol sy’n dylanwadu ar ddulliau gweithredu diwydiannol cyfredol ym maes gweithgynhyrchu clyfar.

Cefnogi diwydiant

Mae’n hanfodol ein bod yn edrych i’r dyfodol, yn cofleidio gwaith ymchwil ac yn datblygu ac yn arloesi technolegau uwchMae cefnogaeth unigryw ASTUTE 2020 yn caniatáu cyfnewid gwybodaeth yng nghyswllt technolegau newydd, blaengar. 

Beth sydd gan ASTUTE 2020 i’w gynnig:

  • Hwyluso mabwysiadu technolegau uwch, gan gynyddu cystadleurwydd a gwydnwch i’r dyfodol
  • Darparu hyder i roi sylw i heriau gweithgynhyrchu ac addasu i newid
  • Cryfhau gwybodaeth ac arbenigedd i greu nwyddau a gwasanaethau gwerth uwch a gwella effeithlonrwydd, gyda’r nod o sbarduno cynhyrchiant a thwf
  • Ysgogi cydweithio rhwng diwydiant ac academia, gan greu gwerth ychwanegol a pherthnasoedd gwaith cryf
  • Galluogi mynediad at setiau amrywiol, unigryw o sgiliau arbenigwyr academaidd o’r radd flaenaf ar draws partneriaeth rhwng prifysgolion
  • Mynediad unigryw at y cyfleusterau a’r cyfarpar arbrofi blaengar diweddaraf  

Mae dros 350 o gwmnïau wedi ymgysylltu ag ASTUTE ers 2010.

Mae’r fideos sbotolau hyn yn dangos sut mae’r bartneriaeth wedi helpu gweithgynhyrchwyr i addasu i newid a sut gall ASTUTE 2020 helpu busnesau yng Nghymru i gadw ar y blaen. 

TWI LTD

Mae TWI Ltd., o Gastell-nedd/Port Talbot, sy’n arbenigo ar brofion NDT, yn amlygu’r trefniant cydweithio llwyddiannus gyda dwy o brifysgolion mwyaf blaenllaw Cymru, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

British Rototherm Company Ltd

Mae British Rototherm yn gweithgynhyrchu offeryniaeth manwl gywir sy’n mesur tymheredd, pwysedd, lefel a llif. Buon nhw’n cydweithio ag ASTUTE 2020 i hybu eu gwaith ymchwil ar sŵn sy’n deillio o blatiau cyfyngu ar agorfeydd.

I gael rhagor o wybodaeth am ASTUTE 2020 a darganfod sut gall y rhaglen gefnogi eich her gweithgynhyrchu chi, ewch i wefan y prosiect 

Rhannu'r stori