Ydych chi’n gyflogwr? Oes gennych brosiect amser llawn neu ran-amser a allai gael ei reoli'n rhithwir? Os oes, gallai Prifysgol Abertawe eich helpu.

Mae Prifysgol Abertawe'n darparu mynediad at gronfa o dros 20,000 o fyfyrwyr a graddedigion dawnus iawn i lenwi swyddi rhan-amser, rolau i raddedigion a lleoliadau profiad gwaith.

Gan ystyried yr amgylchiadau presennol, rydym wedi dechrau datblygu interniaethau rhithwir yn ddiweddar.

Mae interniaethau rhithiwr yn cynnig nifer o fanteision:

  • Maent yn caniatáu i fyfyrwyr weithio'n hyblyg i gyd-fynd â'u hastudiaethau, gan roi i chi o'u hamser a'u galluoedd gorau.
  • Maent yn darparu cyfle i chi ddatblygu diwylliant ac arferion eich sefydliad, gan ymgorffori ffyrdd mwy ystwyth a chydweithredol o weithio gyda chymorth y dechnoleg newydd orau.
  • Gall interniaethau rhithwir eich rhoi mewn cysylltiad â myfyrwyr dawnus ledled y byd a byddem yn gallu argymell myfyrwyr i weithio i chi, lle bynnag mae eu lleoliad.
  • Os yw lle/adnoddau'n brin, mae interniaid o bell yn ddelfrydol ac mae hyn yn bodloni’r protocolau cadw pellter cymdeithasol presennol yn y gweithle.
  • Gall interniaethau rhithwir fod yn ateb creadigol ar gyfer amrywiaeth eang o brosiectau; er enghraifft, maent yn ddelfrydol ar gyfer ymgyrchoedd marchnata ac yn y cyfryngau cymdeithasol, neu ddefnyddio ieithoedd eraill i agor marchnadoedd newydd.

Mae ein hinterniaethau ni, boed ar eich safle neu’n rhithwir, yn eich galluogi i fanteisio ar wybodaeth arbenigol ein myfyrwyr ac yn rhoi cyfle i chi weld darpar aelodau staff wrth eu gwaith cyn penodi. Drwy ddarparu profiad gwaith, gall eich sefydliad gynorthwyo ein myfyrwyr, drwy eu helpu i ddatblygu eu sgiliau mewn amgylchedd gwaith, magu eu hyder ac ehangu eu rhwydwaith proffesiynol.

Mae ein rhaglenni profiad gwaith yn amrywio o brofiadau rhagflas byr i leoliadau blwyddyn mewn diwydiant ar sail pwnc penodol, ac mae grantiau ar gael i gefnogi cyflogwyr sy'n cyflogi myfyrwyr ar nifer o'n rhaglenni interniaeth.

Os ydych am ddatblygu dyfodol eich sefydliad, neu os oes gennych brosiect mae angen ei gwblhau, mae gennym raglen profiad gwaith i ddiwallu'ch anghenion.

Os ydych am ddatblygu dyfodol eich sefydliad, neu os oes gennych brosiect mae angen ei gwblhau, mae gennym raglen profiad gwaith i ddiwallu'ch anghenion. Am ragor o fanylion, ewch i'n gwefan neu cysylltwch â ni i drafod anghenion penodol eich sefydliad.

Astudiaeth Achos

Yn ystod yr haf eleni, bu'r Coleg Peirianneg, y Coleg Gwyddoniaeth a'r Ysgol Reolaeth yn gweithio gyda'r Tîm Mentergarwch yn y Brifysgol ar Her Sgiliau Diwydiant pan oedd myfyrwyr yn gweithio'n rhithwir am dair wythnos, mewn tîm amlddisgyblaethol, ar her a ddarparwyd gan ddiwydiant.

Y cwmni a ddarparodd yr her oedd Aspire2Be, cwmni technoleg ddysgu adnabyddus o Gymru sydd mewn partneriaethau datblygu proffesiynol ag Apple, Google a Microsoft, ac sy'n defnyddio methodoleg deallusrwydd artiffisial i greu atebion digidol ar y cyd ar gyfer cleientiaid mewn Addysg, Chwaraeon a Busnes.

Cymerodd nifer o fyfyrwyr o'r Brifysgol ran yn y broses ac roeddent i gyd yn cytuno ei fod yn brofiad hynod werthfawr:

"Roedd Aspire2Be yn gyfeillgar ac yn gymwynasgar iawn ac roedden nhw'n drefnus iawn ac yn angerddol am eu cwmni. Gwnaeth yr interniaeth hon fy herio mewn ffyrdd gwahanol. Roedd y pwyslais ar farchnata a rhoddodd hynny brofiadau newydd i mi ond ces i gyfle hefyd i ddefnyddio'r sgiliau ddysgais i ar fy ngradd peirianneg i fynd i'r afael â'r tasgau. Mae'n wych bod Prifysgol Abertawe wedi bod yn rhagweithiol wrth annog pobl i ymgymryd ag interniaethau a chyfleoedd eraill, sy'n hollbwysig mewn amgylchiadau mor anodd.” Alex Dobbins yn astudio peirianneg awyrofod yn yr ail flwyddyn

"Roedd yr her hon yn gyffrous iawn. Roeddwn i'n gweithio gyda'n gilydd mewn grwpiau o bedwar ar dasgau a oedd yn ymwneud â marchnata a dadansoddi data. Roeddwn ni'n cydlynu ein gwaith drwy e-byst oherwydd roedd ein holl gyfarfodydd yn rhai rhithwir.

Roedd tîm Aspire2Be yn arbennig. Rhoddon nhw lawer o wybodaeth a chymorth i ni a'r dolenni angenrheidiol i gronfeydd data/meddalwedd. Ces i gyfle i ddefnyddio fy ngwybodaeth o'm modiwl marchnata a strategaeth ar brosiect yn y byd go iawn. Ar y cyfan, roedd hwn yn brofiad dysgu ardderchog, yn enwedig cael fy mentora gan dîm gwych fel A2B." Weethy Kumar yn ei blwyddyn olaf o radd MSc mewn Rheoli

"Roeddwn i eisiau gwella fy CV drwy wneud rhywfaint o waith ffurfiol a sicrhau geirda i wneud ymgeisio am swydd ar gyfer fy mlwyddyn ar leoliad yn haws. Roedd gweithio gydag Aspire2Be yn her ond fe wnes i ei mwynhau hefyd. Roeddwn i'n ddiolchgar iawn am y cyfle hwn oherwydd roedd yn anodd sicrhau interniaeth o bell ar fy mhen fy hun. Ar y cyfan, roedd hwn yn brofiad gwobrwyol iawn ac yn gyfle i weithio gyda thîm gwych". Samuel Fuller, yn astudio am radd mewn Peirianneg Meddalwedd gyda Blwyddyn mewn Diwydiant

“Mae gweithio rhithwir yn cynnig manteision yn bendant ond mae'n gallu bod yn her hefyd. Fodd bynnag, cafodd heriau'r prosiect pedair wythnos hwn eu goresgyn drwy graffter y pedwar ymgeisydd llwyddiannus, drwy eu hymagwedd ragweithiol iawn ac wrth i bob un ohonynt ddangos ystod ardderchog o sgiliau i gefnogi Aspire2Be, yn enwedig y tîm marchnata, i hyrwyddo'r platfform dysgu ar-lein, AspirEd, i gynulleidfa lawer ehangach." Simon Pridham, Partner Addysg yn Aspire2Be

"Rydym yn clywed yn aml bod cwmnïau'n chwilio am syniadau newydd ac arloesol i ddatblygu eu model busnes a datrys problemau, yn enwedig mewn amserau mor ansicr.Rydym yn annog ein myfyrwyr i feithrin meddylfryd entrepreneuraidd drwy gynnig cyfleoedd fel hyn iddynt, lle maen nhw'n gweithio mewn grwpiau amlddisgyblaethol i ddatrys problemau mae cwmnïau yn eu hwynebu." Kelly Jordan, Swyddog Entrepreneuriaeth yn Prifysgol Abertawe

 

Rhannu'r stori