Un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu busnesau heddiw yw dod o hyd i ffyrdd o weithio'n fwy cynaliadwy yn unol â phryderon byd-eang. Mae Prifysgol Abertawe ar flaen y gad ym maes datblygu technolegau cynaliadwy sy'n gallu helpu’ch busnes i gael mantais dros y gystadleuaeth, gan arbed arian ac achub yr amgylchedd.

Mae Canolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC ym Mhrifysgol Abertawe wedi bod yn mabwysiadu technolegau sy'n lleihau allyriadau carbon, ac yn creu adeiladau sy'n gallu cynhyrchu, storio a rhyddhau eu gwres a'u trydan eu hunain o ynni solar. 

Mae Canolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC yn gonsortiwm academaidd a diwydiannol a arweinir gan Brifysgol Abertawe, ar y cyd  â’i phartneriaid strategol: Akzo Nobel, NSG Pilkington, Tata Steel a Phrifysgol Caerdydd. Caiff ei hariannu gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol, Innovate UK a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Mae Chris Bailey, Swyddog Gweithredol Datblygu Busnes yn SPECIFIC, yn dweud y byddai'r tîm yn croesawu ymholiadau gan fusnesau sy'n awyddus i arbed arian a gweithio'n fwy effeithlon: "Gall cwmnïau fanteisio ar ein hadeiladau, ein hadnoddau, ein cyfarpar a'n cyfleusterau arbenigol, ein staff a'u harbenigedd - yn rhad ac am ddim yn y rhan fwyaf o achosion.   Gallwn gefnogi busnesau ledled y DU, ond byddem yn croesawu ymholiadau’n arbennig gan gwmnïau yng ngorllewin Cymru a'r cymoedd oherwydd bod gennym gyllid ar gael i'r ardal hon."

Mae gweledigaeth Specific wedi'i hategu gan arbenigedd mewn amrywiaeth o feysydd technoleg, gan gynnwys caenau gweithredol, technoleg ffotofoltäig, technoleg storio ynni solar thermol, gwres a thrydan.

Mae’r cyfleusterau’n cynnwys:

Canolfan Adnoddau Gweithgynhyrchu Peilot  - llinell gynhyrchu rholyn i rolyn a llen i len ar raddfa fach - mae'n gallu creu prototeipiau a phrofi prosesau gweithgynhyrchu/argraffu ar arwynebau, caenau, caledu (is-goch agos neu arall), ystafell tymheredd wedi'i reoli ar gyfer profi dyfeisiau.

Nifer o arddangoswyr gweledol a gweithio - gwres solar, technolegau storio a thrin, ar raddfa ddomestig a diwydiannol/masnachol gyda'n harddangosydd ynni gwres solar.

Ystafell Ddosbarth/Swyddfa Ynni Weithredol - adeiladau ymarferol sy'n cynhyrchu mwy o ynni nag sy'n angenrheidiol i ddiwallu eu hanghenion - profwyd eu bod yn cynhyrchu 1.5 gwaith yr ynni maent yn ei ddefnyddio.

Ystafell Ddosbarth Weithredol Ynni Positif SPECIFIC yn ennill 'Gwobr Arloesi'

Cerbydlu trydan - mae gennym fynediad i amrywiaeth o gerbydau trydan a thechnolegau gwefru, gan gynnwys ceir, faniau, beiciau a datgarboneiddio cludiant.

Wrth i adeiladau arddangos SPECIFIC ddefnyddio technoleg graddfa lawn gyfredol i brofi cysyniad Adeiladau Ynni Gweithredol, mae eu timau ymchwil a thechnoleg yn gweithio i ddatblygu ac uwchraddio'r genhedlaeth nesaf o dechnolegau a fydd yn cyfrannu at ddiwydiant y dyfodol.

Beth gall SPECIFIC ei gynnig

  • Cyngor ar sut i uchafu effeithiolrwydd ynni solar sydd ar gael i'w ddefnyddio mewn adeiladau.
  • Arolwg thermol o adeiladau ac adroddiad i awgrymu meysydd gwella posib.
  • Modelu systemau ffotofoltäig solar ar gyfer adeiladau presennol neu newydd a chyngor ar y technolegau i'w defnyddio a'r cyflenwad ynni a allai fod ar gael.
  • Cyfle i dreialu dull gweithgynhyrchu gan ddefnyddio ein cyfarpar, megis caledu cyflym gan ddefnyddio ein gwresogydd isgoch neu gaenu arwynebau gan ddefnyddio ein cyfarpar dei slot.
  • Potensial i achub ar gyfleoedd i gydweithio â sefydliadau megis TATA Steel, NSG ac Akzo Nobel sy'n gweithio gyda SPECIFIC.
  • Cyfle i weithio mewn partneriaeth â SPECIFIC fel rhan o geisiadau am gyllid arloesi neu brosiect.
  • Arloesi ym maes cynnyrch/gwasanaeth gyda chyfle i ddefnyddio ein hadeiladau i arddangos.
  • Noddi ymchwil i bwnc penodol sydd o ddiddordeb i'ch busnes.
  • Llawer o gyfleoedd eraill i gydweithio a chefnogi - croesewir ymholiadau o bob math.

I gael rhagor o wybodaeth am SPECIFIC, ewch i www.specific-ikc.uk neu, i holi sut gallai SPECIFIC helpu eich sefydliad chi,

Rhannu'r stori