Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Ganolfan Ymchwil i’r Economi Ddigidol ym Mhrifysgol Abertawe y Bartneriaeth hollbwysig gyda phartner ar draws y Sianel â Sefydliad Ymchwil Cyfrifiadureg ac Awtomeiddio Ffrainc (Inria), yn Grenoble, i hyrwyddo rhagoriaeth gwyddoniaeth ac arloesedd mewn technolegau sy’n canolbwyntio ar bobl.

Mae Canolfan Ymchwil i’r Economi Ddigidol cefnogi ymchwil sy’n canolbwyntio ar ddylunio blaengar a’r defnydd o dechnolegau digidol at ddibenion cymdeithas gynhwysol, arloesol ac economi iach.

Bydd y bartneriaeth yn cyflymu’r broses o ddatblygu ymchwil technoleg ddigidol at ddibenion gweddnewid cymdeithasol ac economaidd. Bydd yn creu cyfleoedd cyfnewid ymchwil, yn rhannu sgiliau a gwybodaeth, ac yn rhoi mynediad i gyfleusterau ymchwil uwch yn Abertawe a Grenoble.

Mae’r Bartneriaeth yn mwynhau cefnogaeth Rhwydwaith Gwyddoniaeth ac Arloesedd y DU a’r Adran dros Fasnach Ryngwladol, ac mae’n gweithio’n gyflym i drosglwyddo arloesi technolegol i ddiwydiant ar draws amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys amaethyddiaeth, sef blaenoriaeth ymchwil genedlaethol allweddol ar ddwy ochr y Sianel.

Meddai Isabelle Hurley, Pennaeth yr Adran dros Fasnach Ryngwladol yn y Llysgenhadaeth Brydeinig yn Lyon: “I ddathlu ein cynghrair, cynhelir digwyddiad “Tech for Good” yn y Llysgenhadaeth Brydeinig ym Mharis ym mis Chwefror 2020. Defnyddio technoleg er lles fydd y brif thema i ddathlu optimeiddio Ymchwil a Datblygu a phartneriaethau busnes sy’n seiliedig ar ffyniant ar y cyd, gan gynnwys siaradwyr gwadd sydd ar flaen y gad o ran creu byd gwell, a dathlu sut caiff technoleg ei defnyddio i sbarduno newid cymdeithasol.”

Mae gwaith cydweithredol sy’n deillio o’r Bartneriaeth eisoes wedi dangos ei botensial pwerus ar gyfer cynhyrchu prototeip cyffrous i dyddynwyr, sef offeryn amaethyddol Cobot at ddibenion trefnu a rheoli tasgau ar y tir. Mae’r system arloesol yn defnyddio sain fel dull cyfathrebu i wella ymddiriedaeth ddynol mewn systemau peiriannau ffermydd, a chyfoethogi rhyngweithio pobl â pheirannau mewn prosesau gwaith fferm a rennir.

Meddai Alan Dix, Cyfarwyddwr yn Ffowndri Gyfrifiadol Abertawe: “Mae’r bartneriaeth hon yn cyfuno ein synergeddau technegol, ein gweledigaeth a’n nodau a rennir, sydd wedi bod yn amlwg iawn yn ein cyfarfodydd. Mae’r ddwy ochr yn ymrwymedig i ymchwil sy’n trawsnewid bywyd pobl, cynhyrchiant diwydiant gan gyfoethogi’r amgylchedd yn ein gwledydd ninnau a’r tu hwnt.”

Bydd y digwyddiad Tech for Good ym Mharis yn helpu i amlygu Cymru fel arweinydd ym maes technoleg weddnewidiol yn gymdeithasol. Meddai Jay Doyle, Swyddog Ymchwil ac Ymgysylltu â Busnes yn y Ganolfan Ymchwil i’r Economi Ddigidol: “Mae ein gwaith ar y cyd ag Inria’n seiliedig ar ymrwymiad a rennir i fynd ymhellach na gwefr darganfyddiad gwyddonol, gan gymryd ymagwedd safbwynt dynol a chymdeithasol at ddatblygu technolegau a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar filoedd, os nad cannoedd ar filoedd, o fywydau yn y blynyddoedd i ddod. Dyna ein haddewid, ac rydym wrth ein boddau i gael cymorth mor gryf gan lywodraethu’r DU a Ffrainc i fynd gam ymhellach yn ein cydymdrechion. Mae hynny’n wych.

Mae Canolfan Ymchwil i’r Economi Ddigidol CHERISH yn awyddus i glywed gan unigolion a sefydliadau â diddordeb mewn cydweithio yn y maes hwn felly os hoffech chi siarad â ni, cysylltwchCysylltwch â'n tîm gwybodaeth busnes.

Rhannu'r stori