Er mwyn hwyluso twf sefydliadol yn ne-orllewin Cymru a’r tu hwnt, lansiwyd rhwydwaith ymgysylltu newydd yn 2018: LINC. A hithau’n gyfrifol am drefnu cyfres amrywiol o ddigwyddiadau rhwydweithio addysgiadol a dosbarthu deunyddiau cyfathrebu, mae’r fenter hon eisoes wedi creu cryn gyfleoedd i gydweithio ac mae’n mynd o nerth i nerth. Yma mae James Pack, yn achub ar y cyfle i fyfyrio ar LINC blwyddyn yn ddiweddarach.

"Flwyddyn yn ôl, lansiodd yr Athro Hilary Lappin-Scott OBE LINC: Prifysgol Abertawe yn swyddogol, sef rhwydwaith cydweithredol i gefnogi twf sefydliadol.

"Fel y mae hi'n aml wrth ddathlu pen-blwyddi, mae hyn wedi rhoi cyfle i ni fyfyrio ar rai o lwyddiannau'r rhwydwaith, a rhannu rhywfaint o'r gwersi a ddysgwyd gennym ar hyd y ffordd...felly dyma ni!

"Yn gryno: Mae LINC: Prifysgol Abertawe yn rhoi'r cyfle i aelodau fanteisio ar wybodaeth am gyllid, cyfleoedd i rwydweithio, graddedigion a myfyrwyr dawnus, cymorth ymchwil a datblygu o safon fyd-eang, cyfleusterau a chyfarpar o'r radd flaenaf, hyfforddiant a datblygiad sgiliau proffesiynol.'

"Mae dros 700 o gynadleddwyr wedi cofrestru i gymryd rhan yn y 10 o ddigwyddiadau sydd wedi'u cynnal hyd yn hyn. Mae'r rhain yn cynnwys unigolion o BBaChau lleol, cwmnïau amlwladol, buddsoddwyr, awdurdodau lleol, llywodraeth genedlaethol, addysg uwch ac addysg bellach, a rhai o'n myfyrwyr mwyaf mentrus.

"Mae rhai siaradwyr gwirioneddol wych wedi ymuno â ni yn y digwyddiadau, gan rannu eu gwybodaeth ac arbenigedd am amrywiaeth eang o bynciau sy'n amrywio o arloesedd plastig a dŵr i ddatblygu arweinyddiaeth a dathlu menywod eithriadol. Mae'r sgyrsiau wedi bod yn agored, yn onest, yn ysbrydoledig ac yn hynod ysgogol ar adegau.

"Yn ogystal â chynnal digwyddiadau ym Mhrifysgol Abertawe, rydym wedi ceisio defnyddio'r rhwydwaith i daflu goleuni ar rai o'r lleoliadau a'r cyfleusterau ardderchog sydd ar gael ar draws y rhanbarth mewn partneriaeth â TechHub AbertaweOriel Gelf Glynn Vivian, y Ganolfan Ddinesig ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

"Wrth ddarparu gweithgareddau LINC: Prifysgol Abertawe, rydym wedi cysylltu â sefydliadau gan gynnwys Academi MorganAthena SWANBUCANIERBEACONCALINION LeadershipLlywodraeth Cymru ac Innovate UK i hyrwyddo'r digwyddiadau a'u hapêl i'r eithaf. Mae'n galonogol gweld bod rhanddeiliaid ar draws y rhanbarth yn awyddus i weithio gyda'i gilydd, a heb os nac oni bai, mae'n amlwg ein bod ni'n cyflawni llawer mwy drwy gydweithio.

"I'r 326 o unigolion sydd wedi cofrestru i ddod yn aelodau llawn o'n rhwydwaith 'rhad ac am ddim sy'n agored i bawb,' rydym wedi ceisio cadw mewn cysylltiad yn gyson, cynnal digwyddiadau rheolaidd ac anfon negeseuon byr sy'n cynnwys newyddion, astudiaethau achos, yr wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau a gwybodaeth am gyllid.

Felly...a yw'r gweithgarwch hwn wedi cyflawni rhywbeth? A yw'r holl waith caled wedi bod yn werth chweil?

"Gan edrych ar gofnodion y flwyddyn ddiwethaf, mae tîm LINC wedi prosesu 526 o ymholiadau. Dyna 526 o gyfleoedd i gyrraedd ein prif nod – i hwyluso twf sefydliadau yn un o ranbarthau mwyaf difreintiedig y DU. I hwyluso'r broses o wella sgiliau gweithluoedd lleol, helpu i roi myfyrwyr medrus a graddedigion mewn  swyddi sy'n bodoli eisoes a rhai sydd newydd eu creu yn yr economi leol, a rhoi arbenigedd, technoleg a chyfleusterau o'r radd flaenaf i sefydliadau a all eu helpu i fod yn gyfartal â rhai o'r sefydliadau mwyaf datblygedig yn y byd. I helpu i wneud gwahaniaeth go iawn.

"Rydym eisoes yn dechrau gweld rhai o'r ymholiadau hyn yn dwyn ffrwyth, ar ôl gweithio gyda sefydliadau i ddatblygu nifer o gynigion am gyllid i gefnogi cydweithrediadau ymchwil, datblygu ac arloesi. Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe wedi dilyn ymholiadau sy'n ymwneud â lleoliadau gwaith i fyfyrwyr a recriwtio ein graddedigion uchelgeisiol a dawnus, ac mae ein tîm digwyddiadau a chynadleddau wedi dilyn y diddordeb ynghylch defnyddio cyfleusterau ac adnoddau'r Brifysgol. Mae cyfleoedd i gefnogi sefydliadau drwy nifer o'r prosiectau a ariennir yn y Brifysgol a sefydlwyd i gefnogi datblygiad economaidd a chymdeithasol rhanbarthol hefyd wedi'u creu.

"Mae adborth hyd yn hyn gan gynadleddwyr wedi nodi bod LINC: Prifysgol Abertawe yn cael ei chroesawu'n gyffredinol, ac roedd sylwadau cadarnhaol a gwerthfawr am ein gweithgareddau:

  • "roedd y pynciau a drafodwyd yn ysbrydoledig ac yn ysgogol"
  • "amrywiaeth hyfryd o siaradwyr. Rhai wynebau gwahanol!"
  • "digwyddiad proffesiynol a llyfn ar y cyfan"
  • "wedi'i drefnu'n dda, roedd y lleoliad yn hyfryd"
  • "Arddangosfa ddiddorol cyn cyfres o sgyrsiau diddorol llawn gwybodaeth"
  • "cydbwysedd da rhwng gwrando a rhwydweithio"
  • "hoffwn fwy o ddigwyddiadau fel hyn, dydw i ddim yn gallu meddwl am unrhyw beth nad oeddwn i’n hapus ag ef"
  • "rwyf wedi osgoi ymuno â rhwydweithiau am 19 mlynedd, rwy'n credu mai dyma'r amser cywir"

"Ar ôl gweithio ar ystod o ddigwyddiadau dros y blynyddoedd, rwyf wedi gweld na allwch fyth drefnu digwyddiad perffaith. Wel, dydw i ddim wedi llwyddo gwneud hynny ta beth! Ni waeth pa mor fanwl yw eich rhestr wirio, pa mor drefnus neu barod ydych chi, pa mor fanwl rydych wedi gweithio drwy'r manylion bychain, mae rhywbeth i'w ddysgu bob amser o bob digwyddiad.

"Rhywbeth bach aeth o'i le nad oeddem yn ei ddisgwyl yn y digwyddiad ym mis Mawrth, oedd bod angen i bob un yn yr adeilad adael ar ôl larwm tân annisgwyl (profiad newydd i ni!) Yn dilyn sawl 'damo,' rydym yn addasu mor dda â phosibl i'r heriau wrth i ni eu hwynebu, rydym yn dysgu, yn datblygu ac yn y bôn ein nod yw gwella'n barhaus.

"Byddai'n deg dweud nad ydym wedi llwyddo i gael pob dim yn iawn ar gyfer pob gwestai ym mhob digwyddiad LINC: Prifysgol Abertawe. Mae'r tîm wedi bod yn adolygu adborth a gyflwynwyd drwy ein harolwg ar-lein yn rheolaidd, gan gynnwys y sylwadau adeiladol isod i sicrhau ein bod yn adeiladu ar ba mor werthfawr yw'r rhwydwaith hwn i aelodau.

  • "gormod o siaradwyr ar yr agenda"
  • "angen mwy o amser i'r gynulleidfa holi cwestiynau"
  • "roedd cynllun y lleoliad yn rhyfedd"
  • "archebwch fwy o fwyd, roedd mor flasus!"
  • "I fod yn rhwydwaith go iawn, yna aelodau'r rhwydwaith (h.y. cwmnïau) ddylai fod yn siarad..."

"Yn ein digwyddiad 'Cynulleidfaoedd y Dyfodol' ym mis Ebrill, gwnaethom gymryd camau gweithredu ar y pwynt olaf a chynnig y cyfle i'r holl gynadleddwyr godi a chyflwyno eu hunain a'u sefydliadau. Un unigolyn yn unig wnaeth fanteisio ar y cyfle hwn, er inni annog pobl wrth y ddesg gofrestru. Roeddem yn ofni ein bod wedi gwneud camgymeriad o ran y galw, a chafwyd bwlch lletchwith dilynol yn ein hagenda.

"Ar ôl cyflwyno'n huawdl ac eistedd, cododd gynadleddwr arall yn y gynulleidfa ei fraich. Roedd y cynadleddwr wedi penderfynu ei fod bellach yn dymuno dweud ychydig o eiriau, ac yna cododd mwy a mwy o freichiau a chyn pen dim roedd yr amser ar ben. Ar ôl hyn, roedd cynadleddwyr mor frwdfrydig wrth rwydweithio (h.y. nid oedd modd eu cael nhw i ddod â'u trafodaethau i ben!) y gwnaethom ail-amserlennu'r gweithdy terfynol i roi mwy o amser iddynt drafod cyfleoedd unigol i gydweithio. Yn bendant, dyma fformat y byddwn yn ei ystyried ar gyfer digwyddiadau sydd ar ddod.

"Felly i gloi, mae wedi bod yn flwyddyn gyffrous i LINC: Prifysgol Abertawe, yn y Gwasanaethau Ymchwil, Ymgysylltu ac Arloesi. Rydym wedi cwrdd â rhai unigolion a sefydliadau gwych sy'n gwneud pethau gwych ac sydd â chynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol.

"Rydym yn gyson wedi gweld parodrwydd i gydweithio, a thrwy LINC: Prifysgol Abertawe, mae bellach nifer o gyfleoedd ar y gweill i gefnogi twf sefydliadol a datblygiad rhanbarthol. I weithio gyda'n gilydd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol

"Hoffwn i, James Pack a'm cydweithwyr, ddiolch i'r rhai hynny sydd wedi cefnogi LINC: Prifysgol Abertawe: Jess Hughes, Kelly Jordan, Beverley Guess, Emma Dunbar a Ceri D. Jones."

 i gofrestru i fod yn aelod o LINC: Prifysgol Abertawe heddiw ac i ganfod mwy am y digwyddiadau sydd ar ddod. Neu, os hoffech wybod mwy am sut gallwn helpu eich sefydliad, .

Rhannu'r stori