Y ddaear gyda thair saeth ailgylchu o'i chwmpas.

Wrth i’r byd symud tuag at ymagwedd fwy cynaliadwy i reoli adnoddau, cyfeirir yn aml at yr ‘economi gylchol’. Ond mae’r cysyniad yn meddwl pethau gwahanol i lawer o bobl felly yma Dr Gavin Bunting, Dirprwy Gyfarwyddwr Arloesi ac Ymgysylltu yn y Coleg Peirianneg, archwilio beth yw’r Economi Gylchol, beth yw rôl Prifysgol Abertawe wrth ddatblygu’r cysyniad yng Nghymru a sut gallwch roi egwyddorion yr Economi Gylchol ar waith yn eich sefydliad.

Mae’r DU yn cynhyrchu 200 miliwn o dunelli o wastraff bob blwyddyn a chaiff bron i chwarter ohono ei anfon i safleoedd tirlenwi, tra bod nifer o’r adnoddau angenrheidiol ar gyfer defnydd hanfodol megis cynhyrchu pŵer, cyfathrebu ac offer meddygol yn dod yn fwy prin.

Yn ogystal, mae’r rhan fwyaf ohonom wedi dod ar draws y sefyllfa lle y mae’n rhatach prynu argraffwr, peiriant golchi neu ffôn newydd ac ati yn hytrach na’u hatgyweirio neu eu diweddaru. Beth yw’r rheswm dros hyn?

Un ateb i fynd i’r afael â’r gormodedd o wastraff a’r darfodiad hwn yw trawsnewid yr economi i fod yn gylchol lle y caiff cynhyrchion eu dylunio i sicrhau:

  • Eu bod yn para’n hirach
  • Y gellir eu diweddaru, eu hatgyweirio a’u hailddefnyddio
  • Y gellir adfer ac ailgylchu’r deunyddiau cyfansoddol y maent yn eu cynnwys ar ddiwedd cyfnod y cynnyrch

Amcangyfrifwyd gan Sefydliad Ellen MacArthur a Rhaglen Gweithredu’r Cynllun Gwastraff y byddai’r manteision economaidd posibl o weithredu economi gylchol yng Nghymru yn creu £2bn y flwyddyn, ar gyfer y ddau sector canlynol: nwyddau cymhleth tymor canolig, e.e. ceir, offer electronig a pheiriannau; a nwyddau defnyddwyr a ddefnyddir yn aml, e.e. bwyd a diod, dillad a gofal personol.

Beth yw'r economi gylchol?

Mae’r Sefydliad Safonau Prydeinig yn disgrifio'r economi gylchol fel a ganlyn:

Mae'r 'economi gylchol' yn gysyniad sy'n herio sefydliadau i ailfeddwl sut caiff eu hadnoddau eu rheoli, i greu manteision ariannol, amgylcheddol a chymdeithasol.

Un o nodau allweddol yr economi gylchol yw cadw cynnyrch, cydrannau a deunyddiau ar eu gwerth a'u defnyddioldeb uchaf bob amser, gan gynnal mantra'r economi gylchol fel bod yn adferol ac yn adfywiol drwy ddyluniad.

Mae symud i economi gylchol yn gyfle gwych i fusnesau a sefydliadau; drwy gyfrannu at economi carbon isel sy'n effeithlon o ran adnoddau, a bydd costau a risgiau'r gadwyn gyflenwi'n lleihau.

Mae manteision eraill i fusnesau sy'n dewis rhoi egwyddorion yr economi gylchol ar waith yn cynnwys gwytnwch gwell, ffrydiau refeniw newydd ac enw da gwell am gynaliadwyedd corfforaethol.


Darganfyddwch fwy am yr Economi Gylchol ein digwyddiad LINC sydd i ddod ddydd Iau 27 Tachwedd

Datblygu'r Economi Gylchol yng Nghymru: Grŵp Ymchwil ac Arloesi'r Economi Gylchol (CERIG) 

Gan weithio gyda chydweithwyr yng Ngrŵp Addysg Uwch ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol, Cymru, mae Canolfan Ranbarthol Arbenigedd (RCE) Cymru a Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Abertawe wedi creu Grŵp Ymchwil ac Arloesi'r Economi Gylchol (CERIG) i Gymru.

Mae symud tuag at economi gylchol yn galw am ymagwedd amlddisgyblaethol, gan gynnwys ymchwil ac arloesi mewn meysydd megis: dylunio cynnyrch ar gyfer ailwampio ac ailddefnyddio; datblygu deunyddiau newydd ac echdynnu adnoddau defnyddiol o ddeunyddiau naturiol; datblygu modelau busnes newydd sy'n annog gweithgynhyrchwyr i ddylunio cynnyrch am hirhoedledd; datblygu safonau priodol a threfniadau llywodraethu; ac ymchwilio i sut gallwch gyfleu cyfleoedd a heriau'r economi gylchol.

Dim ond drwy gyfuno arbenigedd ar draws ystod eang o ddisgyblaethau, gallwn fynd i'r afael â'r newid i systemau y mae ei angen i wneud yr economi gylchol yn realiti.

Mae gennym lawer o arbenigedd ym Mhrifysgolion Cymru a thrwy gydweithio gallwn fynd i'r afael â heriau'r economi gylchol.

Nod arfaethedig y grŵp yw 'cysylltu arbenigedd cyflenwol a phrofiadau i hwyluso arloesedd ac ymchwil yr economi gylchol yng Nghymru.

Mae'r grŵp yn ceisio:

  • Darparu fforwm i rannu arfer da a hwyluso cyfnewid gwybodaeth rhwng y byd academaidd, busnesau a llunwyr polisi.
  • Drwy gydweithio, cynyddu gallu ymchwil yr economi gylchol mewn sefydliadau yng Nghymru.
  • Ymgysylltu â diwydiant i ddatblygu ymchwil a arweinir gan ddiwydiant.
  • Darparu tystiolaeth i gyfeirio polisïau a rhaglenni'r Llywodraeth.
  • Datblygu fforwm ar-lein i hwyluso cyfnewid arfer da, cyfleoedd ariannu, newyddion a digwyddiadau.
  • Arddangos allbynnau economi gylchol y rhwydwaith yn rhyngwladol, gan gefnogi datblygiad partneriaethau rhyngwladol.
  • Cydweithio ar ddatblygu'r cwricwlwm a hyfforddiant.
  • Gweithio gyda rhwydwaith y Ganolfan Ymchwil Rhanbarthol Fyd-eang (wedi'i gydnabod gan Brifysgol y Cenhedloedd Unedig) i rannu dysgu ac arfer da ar lefelau rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Mae CERIG yn galluogi busnesau i gael mynediad yn effeithiol ac yn effeithlon i arbenigedd a gwybodaeth berthnasol ledled byd academaidd Cymru.

Yn ogystal, mae CERIG yn gweithio'n agos gyda gweithrediadau eraill a ariennir gan WEFO megis ASTUTE, IMPACTMETaL ac M2A, gan sicrhau bod busnesau yn cael mynediad at arbenigedd academaidd drwy'r dulliau mwyaf priodol i ddiwallu eu hanghenion. 

Gallwch gael mwy o wybodaeth am sut y gallwch roi egwyddorion yr economi gylchol ar waith yn eich sefydliad

Mae British Standard for the ‘Circular Economy’ yn darparu gwybodaeth am sut gall eich sefydliad newid o weithred linol i gylchol. Gweithredu chwe egwyddor yr economi gylchol yn ymarferol - arloesedd; stiwardiaeth; cydweithio; gwerthfawrogi optimeiddiadau; tryloywder; ac mae "systemau meddwl" yn sail i'r safon, a rhoddir canllaw gam wrth gam ar sut gall sefydliad lywio drwy gamau gwahanol gweithredu.

Ymunwch â ni yn ein digwyddiad Economi Gylchol ar 27 Tachwedd

Os hoffech gael mwy o wybodaeth am yr economi gylchol, gwnewch yn siŵr eich bod yn dod i ddigwyddiad LINC nesaf Prifysgol Abertawe ddydd Iau 27 Tachwedd pan fydd Dr Gavin Bunting a llu o arbenigwyr eraill yn trafod sut gallwn gydweithio i leihau gwastraff a gwella ailddefnyddio ein hadnoddau. Mae tocynnau am ddim felly peidiwch â cholli'r cyfle ac archebwch eich lle nawr.

Os hoffech wybod sut gall eich sefydliad gymryd rhan gyda Grŵp Ymchwil ac Arloesi'r Economi Gylchol neu hoffent gael mwy o wybodaeth am ein digwyddiad sydd i ddod cysylltwch â'n Tîm Ymgysylltu â Busnesau.

Rhannu'r stori