Ers bron can mlynedd, mae Prifysgol Abertawe'n defnyddio'i harbenigedd academaidd yn y diwydiannau metel. Dyma gyfnod newydd ar gyfer dur ac mae'n hymchwil a'n mewnbwn yn bwysicach nag erioed. Rydym yn gweithio law yn llaw â sefydliadau allweddol gan gynnwys Tata Steel, i fynd i'r afael â heriau diwydiant heddiw a darganfod cyfleoedd newydd.

Arloesi dur yn Abertawe'n rhoi hwb i ddiwydiant - Prifysgol Abertawe

Sefydlwyd Prifysgol Abertawe i ddiwallu anghenion y diwydiannau metel yn ymfalchïo yn ei phartneriaethau hirdymor â busnesau.  Un o bartneriaethau mwyaf cryf a chadarn y Brifysgol yw ei phartneriaeth gyda Tata Steel. 

Mae'r berthynas rhwng Prifysgol Abertawe a Tata yn enghraifft o ganolfan rhagoriaeth ranbarthol a chlwstwr technoleg uchel sy’n cysylltu'r gadwyn gyflenwi leol drwy brosiectau ymchwil newydd, cyfleoedd masnachol, cyllid, hyfforddiant a chydweithrediadau pellach. 

Mae'r Brifysgol yn gysylltiedig â Tata Steel a sefydliadau eraill trwy nifer o brosiectau:

SPECIFIC
Dyluniwyd swyddfa ynni positif gyntaf y DU gan brosiect SPECIFIC a arweinir gan Brifysgol Abertawe.    Mae'r swyddfa yn creu mwy o ynni solar nag y mae'n ei ddefnyddio ac agorodd ym Mhrifysgol Abertawe ym mis Mehefin y llynedd.   Rydym eisoes wedi arddangos bod y cysyniad 'adeiladau fel gorsafoedd pŵer' yn effeithiol. Drws nesaf i'r Swyddfa Weithredol mae'r Ystafell Ddosbarth Weithredol, ystafell ddosbarth ynni positif gyntaf y DU.    A hithau wedi’i hadeiladu gan SPECIFIC hefyd, cafodd yr ystafell ddosbarth weithredol ei henwi'n Brosiect y Flwyddyn gan RICS Cymru.   Yn ystod blwyddyn gyntaf yr Ystafell Ddosbarth Weithredol, cynhyrchodd dros unwaith a hanner yr ynni a ddefnyddiodd.

Gwobr Cynaliadwyedd  y Sefydliad Dur a Metelau (SaMI)
Ym mis Chwefror y llynedd, cymerodd diogelu dyfodol dur yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig gam mawr ymlaen pan agorodd y Sefydliad Dur a Metelau newydd ym Mhrifysgol Abertawe.  Mae'r ganolfan ymchwil ac arloesi sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang yn cydweithio â diwydiant a chanolfannau rhagoriaeth eraill yn y Deyrnas Unedig a ledled y byd i ysgogi arloesedd mewn cynnyrch a pherfformiad.  Ym mis Mai'r llynedd, dyfarnodd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) £3 miliwn mewn cyllid cyfalaf i'r Sefydliad er mwyn cefnogi ei weledigaeth o greu diwydiant dur ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

Addysg, Hyfforddiant a Dysgu Deunyddiau a Gweithgynhyrchu (METaL)
Mae cynllun Addysg, Hyfforddiant a Dysgu Deunyddiau a Gweithgynhyrchu (METaL), a arweinir gan Goleg Peirianneg Prifysgol Abertawe, yn rhaglen dysgu yn y gweithle sy'n darparu hyfforddiant wedi'i ariannu ar gyfer y gweithlu deunyddiau a gweithgynhyrchu presennol yng Nghymru.                           

Ym mis Ebrill 2018, cyhoeddodd Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford, £1.4 miliwn ychwanegol o gyllid gan yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer METaL a fydd yn galluogi'r cynllun i helpu dros 400 o bobl i ennill sgiliau technegol mewn sectorau newydd a rhai sy'n datblygu, megis ynni a phŵer, gweithgynhyrchu craff, peirianneg ddeunyddiau, economi gylchol yn ogystal â thechnoleg cyrydu a chaenu.     Bydd hefyd yn cefnogi 60 o gwmnïau ychwanegol yng nghymoedd gogledd, gorllewin a de Cymru. 

Ffatri Rithwir
Ym mis Medi'r llynedd, cyhoeddodd y Brifysgol y bydd y broses o ddatblygu a phrofi'r aloiau dur newydd 100 waith yn gyflymach, gan ganiatáu i gynhyrchion newydd gyrraedd y farchnad yn gyflymach, diolch i gyllid gwerth £7 miliwn ar gyfer "ffatri rithwir" newydd sy'n cael ei datblygu gan Brifysgol Abertawe, mewn partneriaeth â Tata Steel ac WMG ym Mhrifysgol Warwick. 

Kubal-Wraith Ltd
Mae cwmni sy’n deillio o Brifysgol Abertawe, Kubal-Wraith Ltd, wrthi ar hyn o bryd yn datblygu technoleg newydd sy'n caniatáu i wneuthurwyr dur fonitro mewn amser real y tymheredd a'r cyfansoddiad cemegol mewn ffwrneisi metel tawdd, gan arbed hyd at £4.5 miliwn i bob ffatri ddur mewn blwyddyn.    Enillodd y dechnoleg newydd Wobr Menter Gwyddor Ddeunyddiau gwerth £25,000 a ddyfarnwyd gan Worshipful Company of Armourers and Brasiers.    Prifysgol Abertawe yw'r sefydliad cyntaf i ennill y wobr fawreddog hon ddwywaith, y ddau dro am ei gwaith arloesol ym maes dur.

SUSTAIN
Daw diwydiant doeth, gwyrdd a glân gam enfawr yn nes diolch i rwydwaith ymchwil newydd gwerth £35 miliwn, a gyhoeddwyd heddiw, a fydd yn gweld gwneuthurwyr dur ac arbenigwyr o’r brifysgol yn cydweithio ar raglen ymchwil saith mlynedd i drawsnewid sector dur y DU. Arweinir y rhwydwaith, a elwir yn SUSTAIN, gan Brifysgol Abertawe, mewn partneriaeth â Phrifysgolion Sheffield a Warwick, ac mae’n cynnwys dros ugain o bartneriaid ar draws diwydiant dur y DU: cwmnïoedd, cyrff masnachu, arbenigwyr academaidd a sefydliadau ymchwil. Fe’i cefnogir gan fuddsoddiad gwerth £10 miliwn gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol gan y bydd yn un o’u Canolfannau Ymchwil Gweithgynhyrchu yn y dyfodol.  

Sut y gallwn ni eich helpu chi

Heddiw rydym wrth wraidd arloesi dur yn ne Cymru a gallwn gynnig:

  • mynediad at 100 o arbenigwyr ymchwil dur;
  • lleoliad wrth wraidd y diwydiant;
  • offer o'r radd flaenaf ar gyfer profi, delweddu a dadansoddi;
  • cysylltiadau ag arbenigwyr ymchwil o brifysgolion eraill

Rydym yn gwrando ar anghenion busnes ac rydym wedi datblygu cydweithrediadau strategol ac effeithiol sy'n fuddiol i'r ddwy ochr. 

Gallwn gynorthwyo gydag arloesi cynhyrchion ym meysydd deunyddiau adnewyddadwy, tanwyddau a chemegion, meddygaeth, a gofal iechyd a chymdeithasol.  

Rydym hefyd yn gallu helpu i ddatblygu a gwella sgiliau arwain perchnogion, rheolwyr a llunwyr penderfyniadau allweddol busnesau, a gallwn helpu i wneud eich eiddo deallusol yn llwyddiant masnachol. 

Cysylltwch â ni heddiw ar 01792 606060business.enquiries@abertawe.ac.uk i ganfod mwy am sut y gallai Prifysgol Abertawe helpu'ch sefydliad.

 

Rhannu'r stori