Rydym yn datblygu plaladdwyr heb gemegion i fynd i'r afael â difrod i gnydau âr

Corn field

Yr Her

Yn fyd-eang, mae plâu di-asgwrn-cefn (e.e. pryfed, gwiddon, nematodau) yn achosi difrod gwerth cannoedd o biliynau o bunnoedd i gnydau âr a choedwigoedd bob blwyddyn, gan effeithio ar ddiogelwch bwyd yn fyd-eang. Yn ogystal, mae rhai infertebratau megis trogod, mosgitos, gwybed mân a phryfed tywod yn fectorau clefydau sy'n peri risg i  iechyd dynol ac iechyd anifeiliaid.

Bydd hyn yn parhau i waethygu o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd ac ymwrthedd i blaladdwyr presennol. Gyda chyfyngiadau cynyddol ar blaladdwyr cemegol o ganlyniad i'w heffaith ar yr amgylchedd, mae bioblaladdwyr (sylweddau naturiol sy'n rheoli plâu) wedi dod i'r amlwg fel dewis amgen dichonadwy, ond bydd angen eu profi a'u cofrestru gydag awdurdodau rheoleiddiol.

Y Dull

Gwnaeth gwaith ymchwil gan yr Athro Tariq Butt a'i dîm ddarganfod bod y ffwng Metarhizium brunneum yn gyfrwng effeithiol ar gyfer bioreoli plâu megis thripsod a gwiddon sy’n effeithio’n ddifrifol ar blanhigion. Drwy brofion gwenwyndra helaeth yn y labordy a gwaith maes gyda phartneriaid diwydiannol ac academaidd, gwnaethant ganfod nad yw Metarhizium a'i fetabolion yn goroesi mewn pridd. Ar ben hynny, cynhyrchir swm isel iawn o'r metabolion sy'n annhebygol o gyrraedd y gadwyn fwyd, sy’n golygu ei bod hi'n ddiogel defnyddio'r ffwng ar gnydau.

Ymhlith y cynhyrchion sy'n cael eu datblygu mae ffyngau entomopathogenaidd megis Metarhizium brunneum, cynhyrchion botanegol a lled-gemegolion. Defnyddir cynhyrchion botanegol sy'n cynnwys priodweddau atynnu, gwrthyrru neu bryfleiddiol ar y cyd â'r ffyngau i greu strategaethau rheoli plâu arloesol a fydd yn "denu ac yn lladd", "yn achosi straen ac yn lladd" neu'n "drysu ac yn lladd" y pryfyn a dargedwyd.

Infected wireworms

Mae'r tîm hefyd yn canolbwyntio ar ystod o gynhyrchion naturiol sy'n manteisio ar gyfryngau neu eu sgil-gynhyrchion i'w defnyddio mewn biotechnolegau gwahanol sy'n cyfrannu at ddiogelu'r amgylchedd a'r genhedlaeth o therapiwteg newydd ar gyfer maes gofal iechyd.

Yr Effaith

Mae ymchwil yr Athro Butt wedi cynghori'r Comisiwn Ewropeaidd ynghylch diogelwch metabolion ffwngaidd Metarhizium a pharatoi'r ffordd ar gyfer cofrestru M. brummeun.

Mae Eiddo Deallusol wedi'i drwyddedu i fyd diwydiant ac mae gwybodaeth wedi'i chyfnewid rhwng ystod eang o sefydliadau gan gynnwys Rentokil Initial plc, Russell IPM Ltd, Agrifutur srl, Certis-Belchim, BioBest Group NV, Lallemand Inc a Razbio Ltd.

Wedi'i gydnabod yn arbenigwr o fri rhyngwladol ym maes bioreolaeth a chynhyrchion naturiol, mae'r Athro Tariq Butt a'r tîm wedi llwyddo i sicrhau cyllid trwy'r Gronfa Adfywio Cymunedol mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe ar gyfer y BioHyb Cynhyrchion Naturiol sef BioHYB amlddefnydd unigryw sy'n cefnogi ymchwilwyr a busnesau sy'n arbenigo mewn cynhyrchion bioreolaeth a naturiol. Mae'r BioHyb yn brosiect dichonoldeb a'i nod yw meithrin gweithgarwch deori busnesau (cymorth busnes, rhwydweithio, hyfforddiant staff a throsglwyddo gwybodaeth), safleoedd treialon (mynediad at dai gwydr/twnelau polythen a sgrinio cyfraddau prosesu uchel), cyfleusterau ymchwil a datblygu (mynediad at labordai ac arbenigedd ym Mhrifysgol Abertawe) pryfedfa (cyfleuster pwrpasol i fagu pryfed ar gyfer treialon ymchwil a datblygu, arddangosiadau), cyflymydd (cyfleusterau ehangu a chymorth ymchwil a datblygu ar gyfer busnesau sy'n tyfu) a llyfrgell cynhyrchion naturiol (cyfleuster cyntaf y Deyrnas Unedig sy'n cefnogi gwaith sgrinio a datblygu cynnyrch).

Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
UNSDG Zero Hunger
UNSDG Good Health
UNSDG Life on Land
Themâu ymchwil Prifysgol Abertawe