Trosolwg o'r Prosiect

Rydym ni wedi bod yn defnyddio morwellt fel rhywogaeth model ar gyfer profi egwyddorion ecolegol a damcaniaeth yn y maes. Mae morwellt yn grŵp o blanhigion blodeuol morol sy'n hollbwysig i weithrediad a gwasanaethau'r ecosystem ac sydd hefyd o dan fygythiad yn fyd-eang. Yn y Deyrnas Unedig, mae'r brif rywogaeth, gwellt y gamlas (Zostera marina), yn tyfu fel sawl ungnwd tameidiog mewn ardaloedd arfordirol bas. Dros y tri degawd diwethaf, rydym ni wedi bod yn sefydlu safle gwaith maes hir dymor ar gyfer astudio morwellt yn y DU ar Ynysoedd Sili. Credwn mai ein monitro yn y dŵr yw'r arolwg blynyddol o forwellt hiraf yn y byd (1996 tan y presennol), ac ar hyn o bryd, rydym ni'n bodloni rhwymedigaeth ofynnol y DU o ran asesu'r rhywogaeth hon yn Ardal Cadwraeth Arbennig Ynysoedd Sili. Mae'r monitro'n sail i sawl prosiect cysylltiedig a ddatblygwyd gennym. Rydym wedi cefnogi dau brosiect PhD yn ddiweddar; un i ddatblygu ymagweddau arloesol i feintoli gwytnwch drwy ddefnyddio synhwyro o'r awyr o bell, ac un â'r nod o ddeall geneteg poblogaethau o wellt y gamlas yn ein safle astudio. Nod ein hymchwil nesaf fydd dod â'r ymagweddau cysylltiedig hyn ynghyd (monitro ecolegol hir dymor, modelu gofod a geneteg poblogaethau) i ddatblygu mewnwelediadau newydd i'r prosesau a'r mecanweithiau sy'n rheoli gwytnwch a sefydlogrwydd. Rydym hefyd yn gweithio gyda Natural England a Project Seagrass i ddefnyddio'r ymchwil ecolegol hon at ddibenion rheoli ecosystemau.