Logo

Y nod sy’n sail i brosiect BioHYB Cynhyrchion Naturiol yw cael effaith gadarnhaol ar fywyd trigolion Abertawe a'r cyffiniau drwy:

  • Hyrwyddo cydweithio rhwng busnesau, diwydiant a'r byd academaidd, i ddatblygu cynnyrch naturiol newydd ac arloesol a mynd i'r afael â materion amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol, yn lleol ac yn fyd-eang.
  • Ehangu diwydiant Cynnyrch Naturiol sydd ar dwf yn ein rhanbarth, drwy gefnogi busnesau newydd a rhai sydd eisoes yn bodoli.
  • Creu mwy o gyfleoedd gwaith a hyfforddiant i bobl leol, er mwyn darparu gweithlu medrus i gwmnïau sy'n gweithio yn y sector cynnyrch naturiol.
  • Datblygu mwy o ymwybyddiaeth o gynnyrch naturiol, a'u potensial.
  • Cyfrannu at ddyfodol gwyrddach, drwy gefnogi busnes ecogyfeillgar a chynaliadwy.
  • Helpu i ddiogelu bioamrywiaeth ac ecosystem unigryw ein rhanbarth.
UN Sustainable development goal
UN Sustainable development goal
UN Sustainable Development Goal 11
UN Sustainable Development Goal 13

Ein Cenhadaeth

Mae cydweithio â'r gymuned yn hanfodol i brosiect BioHYB Cynhyrchion Naturiol ac rydym wrthi'n ymgysylltu â grwpiau cymunedol a rhanddeiliaid.

Mae gennym berthynas hirsefydlog â'r cyhoedd a nod ein Cenhadaeth Ddinesig yw sicrhau bod ymchwil yn gwella iechyd a lles y rhanbarth yn uniongyrchol ac yn sbarduno twf economaidd.

Mae llawer o brosiectau, gan gynnwys menter BioHYB Cynhyrchion Naturiol, yn cyfrannu'n weithredol at lwyddiant Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig, gan gyfrannu at Iechyd a Lles, Ynni Fforddiadwy a Glân, Diwydiant, Arloesi a Seilwaith, Dinasoedd a Chymunedau Mwy Cynaliadwy a Newid yn yr Hinsawdd.

Allgymorth Ysgolion, Colegau a Chymunedol Mae Partneriaeth Ymestyn yn Ehangach De-orllewin Cymru yn meithrin perthynas â'n cymuned leol ymhellach. Rydym yn dod â'n hymchwil gwyddonol i'r gymuned drwy gynlluniau a digwyddiadau amrywiol, megis Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe.

Ymgysylltu â'r Gymuned

Delwedd o eicon o bobl yn dal dwylo i gynrychioli'r gymuned

Rydym eisoes wedi dechrau ymgysylltu ac ymgynghori â nifer o grwpiau a phrosiectau cymunedol i archwilio ffyrdd y gall y BioHYB gefnogi eu gweithgareddau. Mae'r rhain yn cynnwys:

Pam annog defnydd ehangach o Gynnyrch Naturiol?

Mae manteision eang i gynnyrch naturiol ac mae’n cael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles pawb, yn ogystal â'r amgylchedd.

  • Fe'i defnyddir i drin ac atal clefydau: mae 75% o wrthfiotigau heddiw yn deillio o gynnyrch naturiol, ac maent yn cynnig potensial enfawr ar gyfer datblygu cyffuriau gwrthfiotig newydd.
  • Darparu dewis arall yn lle cemegau – a all fod yn wenwynig i bobl ac anifeiliaid a chael effaith andwyol ar ein hamgylchedd.
  • Cefnogi amaethyddiaeth sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd.
  • Yn adnodd cynaliadwy sy'n hawdd ei gyrraedd.

 

Newyddion a Digwyddiadau

ecion loudhaler

Cysylltu â thîm y prosiect am ragor o wybodaeth

Email symbol Rheolwr y Prosiect: Dr Farooq Shah

biohub@swansea.ac.uk

 

Partneriaid y Prosiect

Mewn Partneriaeth â Chyngor Abertawe a Llywodraeth y DU