Mae'r Ganolfan dros Ymchwil Ddyfrol Gynaliadwy ym Mhrifysgol Abertawe yn datblygu'r Ganolfan Rhagoriaeth Dyframaethu gyntaf yng Nghymru ar hyn o bryd (Wales ACE) i fod yn sbardun technolegol ac enghraifft o ddyframaethu aml-drophig integredig (IMTA). Bydd yn cefnogi cynnydd mewn cynhyrchiad pysgod asgellog cynaliadwy a microalgâu o werth uchel yng Nghymru.

Mae IMTA yn targedu'r economi gylchol yn benodol, gan gynrychioli maes lle gall Cymru ehangu ei photensial dyframaethu a chynyddu ei diogelwch bwyd drwy arloesi a chydweithio.

Bydd Wales ACE yn datblygu protocolau magu ar gyfer pysgod asgellog, y rhai sy'n hidlo wrth fwydo a microalgâu a fydd yn bodloni gofynion penodol system IMTA yng Nghymru.

Yn Wales ACE, caiff pysgod eu magu mewn systemau dyframaethu ailgylchdroi lle caiff gwastraff y pysgod ei brosesu'n faetholion anffrwythlon tawdd, a bydd y rhain yn tyfu microalgâu mewn bioffensys yn eu tro. Yna, caiff y microalgâu eu prosesu i gynhyrchu bwyd i'r pysgod, gan greu llif maeth cylchol.

Bydd Wales ACE yn gweithredu o adeilad pwrpasol sy'n cynnwys dwy system dyframaeth ailgylchdroi ddynodedig, bioffensys algâu a pheiriannau prosesu maetholion. Bydd gan bob system y gallu i fagu pysgod yn nŵr croyw a hallt yn ogystal â magu rhywogaethau o hinsoddau oer i drofannol.

Logo
CSAR logo