Ymchwil Lumpfish Yn CSAR

Cynhyrchu ieir môr brodorol ar gyfer diwydiant eogiaid y du

Llau môr parasitig yw'r bygythiad mwyaf i'r diwydiant eogiaid cynaliadwy byd-eang, gyda chost flynyddol i'r diwydiant o £500 miliwn. Mae defnyddio ieir môr fel pysgod glanhau yn cynnig dull deniadol o ddatrys y broblem yn hytrach na defnyddio cemegau neu foddion. Dechreuodd ymchwil i ieir môr yn y Ganolfan Ymchwil Dyfrol Cynaliadwy (CSAR) ym Mhrifysgol Abertawe yn 2014. Wedyn, datblygwyd prosiect ymchwil a datblygu ar y cyd â diwydiant (tua £1.2M) i ddatblygu'r rhywogaeth newydd hon er mwyn datrys y broblem mae llau môr yn ei chreu i'r diwydiant. Gyda rhwydwaith yn datblygu drwy ardal Gogledd yr Iwerydd, prosiect pedair blynedd newydd a ariennir gan WEFO (tua £2M) a dau gydweithrediad ymchwil a datblygu newydd yn y DU yn dechrau yn 2018 (tua £0.25M a £0.05M y flwyddyn), mae CSAR yn chwarae rôl fwyfwy pwysig ym maes ymchwil a datblygu ieir môr yn y DU ac yn rhyngwladol.

Mae'r prosiect ieir môr yn parhau i ddarparu cyfleoedd sylweddol i ehangu profiad y myfyrwyr a hyd yn hyn rydym wedi: datblygu tair ysgoloriaeth ôl-raddedig wedi'u hariannu (2 PhD, 1 MRres), dros 20 prosiect myfyrwyr israddedig ac ymchwil ôl-raddedig, tair rhaglen cyfnewid Erasmus, chwe lleoliad i interniaid ac mae dros 70 o fyfyrwyr israddedig wedi gweithio am hyd at chwe wythnos yn CSAR, gan ddysgu agweddau ar fagu ieir môr ac ysgrifennu adroddiad ymarferol ar faeth a lles.

Bydd cydweithrediad aml-wlad â'r cyflenwr mwyaf o bysgod glanhau yn y DU (Cleaner Fish Company Ltd), y cynhyrchydd mwyaf o ieir môr yn y DU (Ocean Matters Ltd) ac un o'r cynhyrchwyr eogiaid mwyaf (The Scottish Salmon Company) yn caniatáu i CSAR ddatblygu rhywogaeth newydd o ieir môr, wedi'i sgrinio am glefydau, i'w defnyddio yn y diwydiant eogiaid.

Lumpfish husbandry protocols

Oherwydd bod ieir môr yn rhywogaeth newydd i’r sector dyframaethu, prin iawn yw’r safonau ynghylch arferion hwsmonaeth. Mae dod o hyd i brotocolau yn gallu bod yn anodd, a rhennir llawer ohonynt rhwng cyfleusterau. Isod ceir sampl o’r Gweithdrefnau Gweithredu Safonau a ddatblygwyd yn CSAR ar gyfer gweithio gyda ieir môr.

  • Reception, Traceability and Screening of Lumpfish Broodstock
  • Lumpfish stripping and egg fertilisation
  • Sampling for pathogen screening
  • Lumpfish egg degumming
  • Treating Lumpfish eggs with Pyceze
  • Lumpfish Larvae Transport
  • Lumpfish milt extraction and storage
  • Traceability of Lumpfish - PIT tagging

Os hoffech ragor o wybodaeth am y gweithdrefnau hyn neu i’w gweld yn llawn, cysylltwch â Paul Howes.

Cyhoeddiadau

Powell A, Treasurer JW, Pooley CL, Keay AJ, Lloyd R, Imsland AK and Garcia de Leaniz C. 2018. Use of lumpfish for sea-lice control in salmon farming: challenges and opportunities. Reviews in Aquaculture 10, 683–702 https://onlinelibrary.wiley.com/doi/pdf/10.1111/raq.12194

Whittaker BA, Consuegra S, Garcia de Leaniz C. 2018. Genetic and phenotypic differentiation of lumpfish (Cyclopterus lumpus) across the North Atlantic: implications for conservation and aquaculture. PeerJ 6:e5974 http://doi.org/10.7717/peerj.5974

Pooley, C.L., Berwick, M.G., Garcia de Leaniz, C., (2019). Chemical degumming increases larvae size and facilitates the commercial production of Lumpfish (Cyclopterus lumpus) eggs. bioRxiv

Brooker, A.J., Papadopoulou, A., Gutierrez, C., Rey, S., Davie, A., Migaud, H., (2018). Sustainable production and use of cleaner fish for the biological control of sea lice: recent advances and current challenges. Veterinary Record 183, 383. doi: 10.1136/vr.104966

Powell A, Pooley C, Scolamacchia M, Garcia de Leaniz C. (2018b). Review of lumpfish biology In: Treasurer JW, editor. Cleaner Fish Biology and Aquaculture Applications. Sheffield: 5M Publishing Ltd.; pp. 98-121.

Treasurer J, Prickett R, Zietz M, Hempleman C, Garcia de Leaniz C. (2018). Cleaner fish rearing and deployment in the UK. In: Treasurer JW, editor. Cleaner Fish Biology and Aquaculture Applications. Sheffield: 5M Publishing Ltd.;  pp. 376-91.

Cleaner Fish Company logo
Ocean Matters logo
Scottish Salmon Company
CSAR logo