Gan Rinal Gudhka - Ebrill 2020

Gall mynd i’r brifysgol fod yn brofiad cyffrous i lawer o bobl! Ond yn aml mae cyrraedd diwedd y daith yn golygu proses hir, o’r ymchwil gychwynnol, cwblhau cais, weithiau mynd i gyfweliad ac wedyn cael eich derbyn gan eich dewis prifysgol.

“Mae’r brifysgol fel math o fyd bach,  swigen amser sydd ar wahân i bopeth a ddaeth o’i blaen a phopeth a ddaw ar ei hôl” – Mhairi McFarlane

Ac felly, wrth ddewis y brifysgol berffaith, mae nifer o bethau i’w hystyried.  Dyma pam rwy’n cyflwyno i chi y rhesymau pam mai Abertawe yw’r lle gorau...

Rinal Gudhka yng nghefn gwlad

1. Lleoliad Gwych

Pa mor bwysig yw lleoliad i chi? Mae Prifysgol Abertawe’n ticio’r holl focsys arferol ond mae’n ticio rhai ychwanegol yn bendant! Mae gan y brifysgol ddau gampws, Parc Singleton a’r Bae. Y peth gorau yw bod y ddau gampws hyn yn agos iawn at y traeth.

delwedd o Fae Abertawe a champws Singleton o Barc Singleton

Ie, Y TRAETH ddwedais i! Mae gan Gampws y Bae ei draeth preifat ei hun, felly os ydych yn astudio ac yn byw ar Gampws y Bae, mae fel bod mewn paradwys. Mae Campws Singleton yn daith gerdded fer o’r traeth, dwy funud yn unig. Mae’r golygfeydd o loriau uchaf y llety myfyrwyr ar Gampws Singleton yr un mor wefreiddiol.

Nid y traeth yw ei unig nodwedd unigryw. Mae ei lleoliad agos at ganol Abertawe’n wych hefyd. Mae hyn yn golygu y gallwch gymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol ac ymweld â llawer o atyniadau, beth bynnag yw eich diddordebau, mewn ychydig amser. Mae’n golygu hefyd ei bod hi’n hawdd cerdded ar nosweithiau allan neu gael tacsi am bris rhesymol. Mae campfeydd, siopau, canolfannau hamdden, amgueddfeydd, caffis a bwytai i gyd yn agos.

Mae Campws Singleton hefyd yn agos iawn at barc mwyaf y ddinas sy’n adnabyddus am ei erddi botaneg hyfryd.  Ar ochr arall y campws ceir parc Brynmill sy’n cynnwys llyn, ardal chwarae i blant, canolfan cadwraeth bywyd gwyllt a lawnt bowls.

Os yw’r uchod yn apelio atoch, Abertawe yw’r lle i chi.

2. Prifysgol y Flwyddyn Cymru

Mae’r Brifysgol wedi tyfu dros y blynyddoedd. Eleni, mae’n dathlu ei chanmlwyddiant a rheswm arall i ddathlu yn bendant yw ei llwyddiant wrth ennill teitl Prifysgol y Flwyddyn Cymru ers 2016. Mae’r Times Good University Guide wedi dyfarnu’r teitl hwn i Brifysgol Abertawe am yr eildro yn y tair blynedd diwethaf.

“Mae’r cyflawniad diweddaraf hwn yn adlewyrchu gwaith caled ac ymroddiad holl staff a myfyrwyr y Brifysgol, a byddwn yn ymdrechu i adeiladu ar y llwyddiant parhaus hwn” – Yr Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe.

Baner ar Gampws y Bae yn nodi clod Prifysgol y Flwyddyn Cymru gan y Good Univeristy Guide

3. Undeb y Myfyrwyr heb ei ail

Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn un o’r 10 undeb gorau yn y DU.

Mae’r statws hwn yn ffrwyth llawer o waith caled gan swyddogion amser llawn sy’n cael eu hethol bob blwyddyn. Yn ogystal â chynnal digwyddiad gwych, pythefnos o hyd, i’r glasfyfyrwyr, maen nhw hefyd yn trefnu rhai o’r digwyddiadau mwyaf fel dawns yr haf, Farsity Cymru a’r ddawns raddio ag enwi ychydig yn unig.

Mae Undeb y Myfyrwyr yn cynrychioli llais y myfyrwyr yn bennaf, ac mae wedi cynnig cefnogaeth aruthrol i’r gymuned LGBTQ drwy gymorth, llesiant ac ymgyrchoedd.  Cyflawniad gwych arall yw’r ymgyrch dathlu Mis Hanes Pobl Dduon bob mis Hydref.

Tîm Cynrychiolwyr Undeb y Myfyrwyr 2019-2020

Mae Undeb y Myfyrwyr yn lle da i gwrdd â phobl, cael diod neu noson wych mas yn y lleoliadau mae’n eu rheoli fel JCs a Thafarn Tawe (bariau myfyrwyr) a Rebound sy’n cynnal nosweithiau myfyrwyr ar nos Wener (TOOTERS).  Undeb y Myfyrwyr hefyd sy’n rheoli Costcutter, Root (siop bwyd iach), Fulton Outfitters (lle gallwch brynu dillad â logo Abertawe), meithrinfa’r campws a’r Ganolfan Cyngor a Chefnogaeth.  Felly, mae Undeb y Myfyrwyr yn rhoi cyfle i chi wneud mwy na mynd i’ch darlithoedd ac weithiau, gall eich helpu i gael swydd ran-amser hefyd.

Un o’i lwyddiannau eleni oedd agor siop dim gwastraff gyntaf Cymru, sef Root Zero.  Nod y siop hon yw lleihau pecynnu a gwastraff bwyd drwy weithredu ar sail ‘dewch â’ch cynhwysydd eich hun’ ac mae’n gwerthu amrywiaeth o gynhyrchion cynaliadwy ac eco-gyfeillgar.

myfyrwyr yn ail-lenwi yn y siop Root Zero newydd

4. Enw Da yn Rhyngwladol

Adlewyrchir ansawdd yr addysg o’r radd flaenaf ym Mhrifysgol Abertawe gan ei safle yn y tablau o brifysgolion gorau.  Mae 8 o’i phynciau ar y rhestr o’r 10 gorau ac mae 10 arall ar y rhestr o’r 20 gorau yn ôl y Times Good University Guide 2020.

Mae’n ymddangos mewn 22 pwnc yn yr Academic Ranking of World Universities ac mae yn y 200 o brifysgolion gorau ar gyfer 10 pwnc (Peirianneg Gemegol, Meddygaeth Glinigol, Cyfrifiadureg a Pheirianneg, Ecoleg, Lletygarwch a Rheoli Twristiaeth, Peirianneg Fecanyddol, Nyrsio, Cefnforeg, Iechyd Cyhoeddus ac Adnoddau Dŵr).

5. Iechyd a Lles

Mae’n ffaith hysbys bod ymdeimlad o les yn bwysig i iechyd cyffredinol unigolyn. Mae Prifysgol Abertawe’n blaenoriaethu iechyd a lles y gymuned – y staff a’r myfyrwyr – o ddydd i ddydd. Mae’n ddealladwy y gall fod yn anodd addasu i amgylcheddau newydd a ffyrdd newydd o fyw, wrth ymdopi â straen ychwanegol gwaith y Brifysgol ar yr un pryd. Felly, mae Prifysgol Abertawe’n cynnig cymorth lles drwy amrywiaeth o wasanaethau. Mae’r rhain yn cynnig cymorth ar gyfer problemau iechyd meddwl/anabledd, caledi ariannol, sioc ddiwylliannol, cyflyrau meddygol arbennig. Mae gwasanaethau gwrando a phrofedigaeth ar gael hefyd.  Felly, ydy, mae Prifysgol Abertawe’n chwarae rôl bwysig wrth ofalu am iechyd a lles staff a myfyrwyr.

Myfyrwyr yn gwneud ioga ar y traeth

6. Gwasanaethau Gwych Bywyd Campws

Mae Prifysgol Abertawe’n gwneud pob ymdrech bosib i gefnogi ei myfyrwyr.  Mae’r cymorth sydd ar gael gan staff cyfeillgar a chroesawgar BywydCampws, ar y safle ac ar-lein, yn rhagorol.  Maen nhw’n gallu cynnig cymorth a chyngor arbenigol ym meysydd Ffydd, y Gymuned, Myfyrwyr Rhyngwladol, Arian a Llesiant.

Mae’r adran hon yn trefnu digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn academaidd i sicrhau bod pawb yn teimlo’n rhan o’r gymuned ac i gyfoethogi eu profiad yn y brifysgol. Hoffech chi fynd ar daith i archwilio ardal arall yn y DU yn ystod eich amser yma?  Does dim angen chwilio ymhellach! Eu nod yw trefnu gwibdeithiau sy’n addas i bocedi myfyrwyr ac mae’n ddiwrnod llawn hwyl yn bendant. Ar ben hyn, maen nhw’n trefnu digwyddiadau ‘Sgiliau am Oes’ sy’n cynnwys sesiynau o gymorth cyntaf a choginio i ffilm, ffotograffiaeth a darllen map a chwmpawd. Mae’r sgiliau ymarferol hyn yn rhoi hwb i’ch hyder a’ch hunan-barch ac yn gwella eich gwytnwch. Byddwch yn gwneud ffrindiau newydd hefyd! Mae ganddyn nhw broffil gwych yn y cyfryngau cymdeithasol – dilynwch nhw yn yr holl gyfryngau a fyddwch chi ddim yn colli digwyddiad.

Myfyrwyr yn ymlacio ar y traeth o amgylch tan, mae un ohonyn nhw'n chwarae gitâr

7. Statws Prifysgol Werdd a Chynaliadwyedd

Gan ddilyn olion troed ymgyrchwyr amgylcheddol amrywiol i fynd i’r afael â’r heriau mae’r amgylchedd yn eu hwynebu, megis newid yn yr hinsawdd ac effaith fyd-eang, mae’r Brifysgol wedi gwneud yn rhagorol drwy ennill statws Prifysgol Werdd, yr un gyntaf yng Nghymru i wneud hynny a’r nawfed yn y DU o 154 o sefydliadau addysgol.  Felly, os ydych yn chwilio am sefydliad cynaliadwy, does dim angen chwilio ymhellach.

Mae llawer o gyfleoedd i fyfyrwyr a staff gyfrannu at yr arferion cynaliadwy sy’n gwella’n barhaus yn y Brifysgol drwy SWell – rhaglen cyfranogiad staff a gwobr cynaliadwyedd – rhaglen cyfranogiad myfyrwyr.

Mae digwyddiadau a drefnwyd yn y gorffennol yn cynnwys grwpiau glanhau’r traeth ar ddydd Mercher cyntaf pob mis, gweithdy gwobr cynaliadwyedd myfyrwyr, Wythnos Byddwch yn Wyrdd, taith gerdded ystlumod gyda’r hwyr ac Awr y Ddaear. Gallwch gyfrannu at y gymuned drwy’r rhain a thrwy brosiectau amrywiol i hyrwyddo ffyrdd gwyrddach o fyw a chynaliadwyedd.

Prifysgol Abertawe oedd y cyflogwr CYNTAF yng Nghymru i ennill Safon Aur am fod yn Ystyriol o Feicwyr! Gallwch hefyd logi beiciau i deithio o amgylch y ddinas, neu o gampws i gampws, drwy gynllun Beiciau Santander.  Hoffech chi fynd am dro ar gefn beic ar hyd y llwybr arfordirol?

Logo People and Planet University Green League

8. Staff Cyfeillgar a Chefnogol

O’r adeg rydych yn cwrdd â chynrychiolydd yn un o ffeiriau’r Brifysgol neu’n trafod eich ymholiadau â rhywun drwy e-bost neu alwad ffôn, rydych yn rhan o’r teulu. Gall staff y brifysgol fod yn ddylanwad mawr ar eich profiad yn y Brifysgol – boed yn academaidd neu’n gymdeithasol.  Felly, gallwch ymlacio ar ôl penderfynu astudio ym Mhrifysgol Abertawe oherwydd bod y staff yma’n gyfeillgar, yn frwdfrydig ac yn gefnogol iawn. Os na allant eich helpu, byddant bob amser yn gallu eich cyfeirio at y lle iawn. Yn ogystal â chynnig cymorth, mae rhai yno am sgwrs a phaned hefyd.

9. Diwylliant

Mae Abertawe’n ganolfan fywiog ar gyfer y celfyddydau a diwylliant. Mae’n gartref i Ganolfan Celfyddydau Taliesin a’r Ganolfan Eifftaidd ar y campws ac orielau celf megis Oriel Glynn Vivian a’r Mission Gallery yng nghanol y ddinas. Ac, os nad yw hynny’n ddigon, gall y rhai sy’n dwlu ar lenyddiaeth ymweld â chartref yr arwr lleol, Dylan Thomas, hefyd. Mae’r Brifysgol, a’r ddinas ei hun, yn gefnogol iawn i amlddiwylliannaeth ac mae bob amser nifer o ddigwyddiadau amlddiwylliannol a rhyng-fydd yn cael eu cynnal.

Un o ddigwyddiadau mwyaf poblogaidd, lliwgar a bywiog y flwyddyn yw Gŵyl y Darlun Ehangach. Tîm BywydCampws sy’n trefnu’r digwyddiad wythnos o hyd hwn sy’n rhoi cyfle i ddiwylliannau gwahanol arddangos eu diwylliant i’r myfyrwyr eraill drwy weithgareddau difyr, cariad a llawenydd.  Eleni, buom yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Myfyrwyr hefyd gyda noson llawn hwyl, chwerthin, bwyd, dawnsio a chariad lle cafodd ein holl fyfyrwyr eu croesawu a chyfle i gynrychioli eu diwylliant!

Myfyrwyr yn dawnsio
Digwyddiad Bigger Picture
Myfyrwyr yn cael hwyl mewn digwyddiad diwylliannol

10. Rhagoriaeth Ymchwil Abertawe

Ystyrir bod 90% o ymchwil y Brifysgol yn arwain y ffordd yn fyd-eang neu’n rhagorol yn rhyngwladol a barnwyd bod Abertawe yn un o’r 30 o brifysgolion gorau yn y DU am bwyslais ar ymchwil. Mae ei hymchwil yn amrywio o ddatblygiadau ym  maes iechyd a thechnoleg i gyfiawnder, cydraddoldeb a diwylliant.  Mae’n cyfranogi’n llawn yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) ac mae’n gweithio gyda rhanddeiliaid allanol hefyd! Mae’n ymfalchïo’n fawr yn ei hymchwil amlddisgyblaethol o safon fyd-eang!

11. CYMDEITHASAU A CLYBIAU

Mae Undeb y Myfyrwyr yn cefnogi dros 150 o gymdeithasau. O’r celfyddydau gweledol i bocer, cwrw go iawn i ganu’r efengyl, mae rhywbeth at ddant pawb! Os nad oes rhywbeth sy’n apelio atoch chi, mae’n hawdd sefydlu cymdeithas.  Mae nifer helaeth y cymdeithasau a chlybiau’n cynnig ffordd wych o gwrdd â phobl o’r un meddylfryd, gwneud ffrindiau newydd a mwynhau eich amser rhydd yn y brifysgol.

Mae nifer mawr o gymdeithasau yn Abertawe yn ymroddedig i chwaraeon.  Pan feddyliwch am Chwaraeon, meddyliwch am Abertawe.  Gall pobl gymryd rhan mewn amrywiaeth helaeth o chwaraeon, am hwyl neu ar lefel gystadleuol.  Dangosodd y Brifysgol ei hymrwymiad i wella profiadau chwaraeon ar bob lefel drwy fuddsoddi £20 miliwn mewn Pentref Chwaraeon â chyfleusterau o’r radd flaenaf a ddefnyddiwyd gan athletwyr i baratoi ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain Haf 2012.  Hefyd, mae gan y Brifysgol gysylltiadau cryf â sefydliadau chwaraeon proffesiynol megis Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, y Gweilch a’r Scarlets. Mae cefnogwyr y timau hyn yn rhoi hwb mawr iddynt ac mae cefnogwyr Chwaraeon Abertawe’n bwysig iawn hefyd.  Bob nos Fercher, mae’r Fyddin Werdd a Gwyn allan yn llu, yn gweiddi dros ein timau!

Logo Sports Swansea

12. Farsity Cymru

Rydyn ni wedi sôn am ymrwymiad mawr y Brifysgol i chwaraeon drwy Undeb y Myfyrwyr ac mae hyn ar ei orau pan fydd Farsity yn agosáu. Hwn yw digwyddiad mwyaf y flwyddyn i fyfyrwyr, pan fydd Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe’n mynd benben â’i gilydd mewn chwaraeon amrywiol. Dyma’r digwyddiad mwyaf o’i fath yng Nghymru a’r ail ddigwyddiad chwaraeon myfyrwyr mwyaf ym Mhrydain ar ôl yr onest rhwng Rhydychen a Chaergrawnt. Mae rhai chwaraewyr yn llwyddo i sicrhau contractau gyda sefydliadau lled-broffesiynol a phroffesiynol yn seiliedig ar eu perfformiad.  Mae’n ddiwrnod llawn cyffro, hwyl a llawer o chwerthin gydag uchafbwynt y dydd, y gêm rygbi rhwng y ddwy brifysgol, yn denu miloedd o fyfyrwyr.

Logo farsity cymru

13. Gwobrau Dewis y Myfyrwyr

Rydym wedi gweld llwyddiant Prifysgol Abertawe mewn meysydd eraill, ond wyddech chi fod Prifysgol Abertawe’n adnabyddus hefyd am foddhad mawr ei myfyrwyr?  Yn 2019, enillodd Abertawe wobr Prifysgol y Flwyddyn sy’n cael ei dyfarnu gan Wobrau Dewis y Myfyrwyr What Uni. Cipiodd y wobr gyntaf yn y categori rhyngwladol ac roedd yn un o’r tri uchaf yn y categorïau ôl-raddedig, cwrs a darlithwyr.

Mae hefyd wedi cadw ei lle yn y rhestr o 10 prifysgol orau’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) am foddhad cyffredinol myfyrwyr!

logo Prifysgol Y Flwyddyn

14. Cymorth i Fyfyrwyr Rhyngwladol

Gan fy mod i’n fyfyriwr rhyngwladol o Kenya gallaf ddweud yn bendant fy mod i’n gwybod pa mor anodd yw symud milltiroedd oddi cartref i ymgartrefu mewn lle newydd, gwneud ffrindiau newydd ac addasu i ffordd newydd o fyw! Mae pobl yn gofyn i mi’n aml sut llwyddais i ymgartrefu mor dda! Fy ateb yw na fyddai hyn wedi bod yn bosib heb y cymorth gwych ges i gan dîm Myfyrwyr Rhyngwladol BywydCampws! Mae’r staff cyfeillgar yno i’ch helpu gyda phob math o faterion, o fewnfudo i les.

Ar ddechrau’r flwyddyn, maen nhw’n cynnal Diwrnod Croesawu Myfyrwyr Rhyngwladol sy’n rhoi cyfle i chi gwrdd â phobl o’ch gwlad a gwneud ffrindiau newydd!

Rinal yn dal fflag Kenya

Cyn i chi ddod i Abertawe, byddwch yn derbyn galwadau gan y myfyrwyr llysgennad rhyngwladol, sy’n ateb eich cwestiynau am fywyd myfyrwyr.  Mae hyn yn gwneud y broses ymgartrefu’n haws gan fod yr holl wybodaeth gyda chi ymlaen llaw. Felly, drwy gydol eich taith, o gyflwyno cais i raddio, mae digon o gymorth i fyfyrwyr rhyngwladol!

15. Ar gyfer pawb!

Mae Prifysgol Abertawe’n ymrwymedig i gynnwys y gymuned leol! Mae nifer o’r cyfleusterau ar y ddau gampws ar gael i’r cyhoedd hefyd, megis y llyfrgell ar Gampws Singleton, Canolfan Celfyddydau Taliesin sy’n cynnal nifer o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn i fyfyrwyr a’r cyhoedd, a’r Ganolfan Eifftaidd sydd ar agor i’r cyhoedd. Yn ogystal, mae’r Academi Iechyd a Llesiant yn cynnig gwasanaethau Clywedeg, Resbiradol, Cardioleg a Bydwreigiaeth, sydd i gyd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn creu rhwydwaith agos rhwng y gymuned a’r brifysgol.

Logo Academi Iechyd a Lles

16. Adloniant – Cerddoriaeth a gwyliau

Mae Cymru’n enwog fel ‘Gwlad y Gân’ ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn yr amrywiaeth o gerddoriaeth sydd i’w chlywed ledled y ddinas, gan gynnwys perfformiadau gan fandiau enwog megis y Stereophonics ac artistiaid megis Taylor Swift ac Ed Sheeran, mae Abertawe’n cynnal nifer o wyliau a digwyddiadau cerddorol drwy gydol y flwyddyn.

Digwyddiad enwog arall sy’n cael ei gynnal bob blwyddyn yn Abertawe yw Sioe Awyr Cymru ym Mae Abertawe, lle gellir gweld arddangosiadau awyrol gwefreiddiol, y dechnoleg filwrol ddiweddaraf a hen awyrennau o’r gorffennol! Mae’n cael ei chynnal yn ystod gwyliau’r haf felly mae’n gyfle da i gael barbeciw ar y traeth gyda’ch ffrindiau wrth i chi wylio’r sioe drwy gydol y dydd!

Myfyrwyr yn y student ball

17. Dinas fach. Personoliaeth fawr.

Gallwch archwilio dinas Abertawe’n gyflym ac yn hawdd! Ond rwy’n awgrymu cymryd eich amser i werthfawrogi ei holl harddwch. O’r Ardal Forwrol, canol y ddinas, Bae Abertawe ac Uplands i’r Mwmbwls cyfagos, mae’r ddinas hon yn llawn atyniadau annisgwyl a digon o swyn.

Mae popeth yma i chi! Y dref, y traeth, y ddau gampws, y parciau... a llawer mwy. Gyda gwasanaeth bws 24 awr y Brifysgol, gallwch archwilio pob cwr a mwynhau.

Bwytai yn Little Wind Street
City Gates
Castle Square
Adeilad ar y stryd fawr wedi'i paentio'n lliwgar

18. Antur

Rwy’n siŵr bod nifer ohonoch chi’n hoffi rhyw fath o antur awyr agored, boed hynny’n daith gerdded drwy’r coed, mynd am dro ar y traeth neu wibdaith i archwilio gwlad y sgydiau.  Mae popeth gan Abertawe.  Mae Penrhyn Gŵyr yn wledd i’r llygaid yn bendant! Hon oedd Ardal o Harddwch Eithriadol Naturiol gyntaf y DU a Bae’r Tri Chlogwyn a Rhosili yw’r atyniadau mwyaf adnabyddus, ond mae nifer di-rif o bethau eraill i’w harchwilio yma.

Mae Bannau Brycheiniog, sydd tua awr o daith mewn car, yn cynnig tirweddau syfrdanol ac mae’n hyfryd cerdded ar hyd y llwybr i’r sgydiau.  Mae dewis gwych o lwybrau cerdded drwy’r coetiroedd yma, felly yr unig beth mae’n rhaid i chi ei wneud yw dewis yr hyn sy’n apelio fwyaf atoch. Fel y dywedais i’n gynt, mae rhywbeth at ddant pawb yn Abertawe.

Llun o bae yn Gwyr

19. Dinas ddiogel a hapus

Wrth i chi ystyried lle i dreulio’r ychydig flynyddoedd nesaf, rwy’n siŵr y bydd diogelwch yn flaenoriaeth! Wel, does dim rhaid i chi boeni oherwydd bod Abertawe’n cael ei hystyried yn un o ddinasoedd mwyaf diogel Prydain.  Ar wahân i’r agwedd diogelwch, mae Abertawe’n llawn pobl gyfeillgar sy’n barod i gynnig help llaw pan fydd ei angen arnoch chi! Mae’n cael ei hystyried yn un o’r dinasoedd mwyaf croesawgar, cyfeillgar a gonest ac mae’n rhif 3 ar restr The Telegraph yn 2018.  Felly os dyna’r priodweddau rydych chi’n chwilio amdanynt, dylai Abertawe fod ar eich rhestr.

20. Rhwydwaith Rhagorol o Gyn-fyfyrwyr

Peidiwch â phoeni! Ni fydd eich taith gyda phawb yn dod i ben ar ôl i chi raddio. Drwy Gymdeithas Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe, gallwch gadw mewn cysylltiad â’ch sefydliad ar ôl graddio.  Byddwch yn rhan o rwydwaith â thros 60,000 o aelodau actif a byddwch yn gallu rhannu eich profiadau o’r brifysgol.  Dyma ychydig enghreifftiau o aelodau o wahanol sectorau: Syr Terry Matthews OBE (biliwnydd cyntaf Cymru) Jason Mohammad (cyflwynydd teledu a radio) a Liz Johnson (enillydd medal aur nofio yn y Gemau Paralympaidd).  Felly dewch i Brifysgol Abertawe i ymuno â’r gymuned hon!

myfyrwyr yn eistedd ar risiau o flaen Ty Fulton ar gampws Singleton.

Felly, i grynhoi pethau...

Mae Abertawe’n cynnig cymaint sy’n gallu gwneud eich profiad yma’n anhygoel. Gallwch sgwrsio â’n myfyrwyr llysgennad cyfeillgar ar-lein a gofyn eich holl gwestiynau am fyw ac astudio yn Abertawe.  Mae gennym broffil uchel yn y cyfryngau cymdeithasol, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn y gymuned ym mhob cyfrwng.  Mae Abertawe’n lle gwych i astudio a phrofi antur!