Gwelwch isod rhestr wirio i'ch helpu chi wybod popeth sydd angen i chi wneud cyn, yn ystod ac ar ôl eich cynulliad graddio. 

Rhif. Gweithgaredd Dyddiad Cau

Paratoi ar gyfer Graddio

1

Edrychwch ar yr Amserlen graddio i wybod pryd byddwch chi'n graddio. 

Cyn eich cynulliad 

2

Archebwch eich lle yn y cynulliad graddio trwy cwblhau y broses archebu ar-lein ar ôl derbyn e-bost i ddweud fod y broses archebu ar-lein ar agor. 

i'w gadarnhau

3

Gwnewch yn siwr fod eich enw swyddogol llawn yn gywir. 

Yn ystod archebu eich lle

4

 Rhowch wybod i ni os ydych chi neu eich gwesteion gydag unrhyw ofynion arbennig.  

Yn ystod archebu eich lle
5

Talwch unrhyw ddyledion i'r Brifysgol.

11 Tachwedd 2022 
6

Archebwch eich gwisg academaidd o Ede and Ravenscroft.

17 Hydref - 4 Tachwedd 2022  
Ar eich Dydd Graddio
7

Cyrraedd Arena Abertawe

O leiaf 1-1½ awr cyn dechrau eich cynulliad
8 Cofrestrwch a casglwch eith tocynnau gwesteion a eich tystysgrif o llawr gwaelod Y Coleg, Campws y Bae. Mae'r ardaloedd ciwio yn yr awyr agored ac nid o dan do.  Gwisgwch yn briodol i'r tywydd.

Cyrhaeddwch yn gynnar i osgoi aros 

9 Tynnwch eich lluniau swyddogol (Y Twyni)  Unrhyw bryd cyn neu ar ôl eich cynulliad
10 Rhowch yr awditoriwm a chymryd eich sedd Bydd drysau yn agor 30 munud cyn amser dechrau'r cynulliad 
11 Ar ôl eich cynulliad, archebwch eich USB a llun llwyfan o'r prif gyntedd yn Y Twyni Unrhyw bryd ar ôl eich cynulliad (saib tua 15 munud ar ôl archebu)
12 Dychwelwch eich gwisg academaidd (Cyntedd llawr gwaelod, Y Coleg)

 Ar ôl eich cynulliad

Ar ôl Graddio
13 Llongyfarchiadau, rydych chi nawr yn aelod awtomatig o Gymdeithas Cyn-fyfyrwyr.
14 Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe dal yma i'ch helpu chi gyda cham nesaf eich gyrfa.
15 Os oes angen tystysgrif newydd neu drawsgrifiad academaidd arall arnoch cysylltwch â myunihub@abertawe.ac.uk 
16 Gadewch i ni wybod unrhyw adborth sydd gennych am eich Dydd Graddio