Ar ôl Graddio
Archebu eich DVD
Ar dydd eich Cynulliad gallwch archebu a chasglu (saib o tua 15 muned) DVD neu ffon USB o'ch cynulliad a llun ohonoch yn ysgwyd llaw gyda'r Canghellor/Is-Ganghellor o Lyfrgell y Bae
Ar ôl eich dydd graddio gallwch archebu rhain wrth cysylltu a:
Cynnyrch | Pris | Postio |
---|---|---|
Ffoto wedi printio 10" x 8" (chi yn ysgwyd llaw gyda'r Canghellor/Is-Ganghellor ar y llwyfan) |
£20 |
£3 yn y DU £5 dramor
|
DVD (ffilm o'r holl gynulliad) |
£20 | |
Ffon USB (ffilm mewn diffiniad uchel o'r holl gynulliad) |
£25 | |
Pecyn Graddio (Ffoto wedi printio, Ffon USB gyda copi digidol o'r ffoto a'r holl cynulliad mewn diffiniad uchel) |
£40 |
Rhowch y gwybodaeth canlynol pan rydych yn archebu:
Enw a Rhif Myfyriwr
Amser a Dyddiad y Cynulliad
Cyfeiriad Post
Nifer o copïau
Archebu eich Lluniau
Gweler isod yr eitemau sydd ar gael a sut i'w harchebu:
Llun 10 x 8 wedi ei argraffu ohonoch ar y llwyfan gyda'r Canghellor/Is-Ganghellor. Mae hwn yn costio £20 a gellir prynu copi drwy gysylltu â gradsales@swansea.ac.uk
Lluniau cynulliad. Mae'r costau'n amrywio yn dibynnu ar y pecyn a ddewisir. Gweler y ddolen ganlynol am fwy o wybodaeth https://www.swansea.ac.uk/cy/astudio/graddio/paratoi-ar-gyfer-graddio/ Gellir prynu'r llun carfan gan Ede & Ravenscroft drwy gysylltu â photography@academic-services.co.uk / 0870 2421170
Llun swyddogol. Mae costau'n amrywio yn dibynnu ar y pecyn a ddewisir. Gweler y ddolen ganlynol am fwy o wybodaeth Ede and Ravenscroft Gellir prynu'r llun swyddogol gan Ede & Ravenscroft drwy gysylltu â photography@edeandravenscroft.com / 0870 2421170
Tystysgrif eich Dyfarniad
Tystysgrif eich Dyfarniad
Byddwch wedi derbyn eich Tystysgrif ar eich dydd Graddio neu trwy y bost.
Os oes angen Trawsgrifiad academaidd arnoch cysylltwch a myunihub@abertawe.ac.uk
Polisi Cyffuriau Anghyfreithlon
Cyn-fyfyrwyr
Cofiwch ar ôl i chi raddio, does dim rhaid ffarwelio ag Abertawe
Fel graddedigion o Brifysgol Abertawe, rydych yn ymaelodi yn awtomatig i'r Gymdeithas Cyn-fyfyrwyr, rhwydwaith eang o fwy na 120,000 cyn-fyfyrwyr sydd yn tyfu yn barhaol a all gynnig cymorth broffesiynol a chymdeithasol i chi.
Mae bod yn aelod o Gymdeithas Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe yn dod â nifer o fuddion a byddwn yn eich cadw chi i fyny gyda cylchlythyron rheolaidd a gwahoddiadau i ddigwyddiadau ac aduniadau.
Peidiwch ag anghofio, pan ydych yn graddio, bydd eich e-bost Abertawe yn terfynu. Rhowch wybod i ni am eich manylion cyswllt cyfredol er mwyn i ni allu cadw mewn cysylltiad.
Bydd tîm Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr yn bresennol yn eich seremoni graddio er mwyn ateb unrhyw gwestiynau. Yn lle hynny, ymwelwch â ni yn Abaty Singleton, e-bostiwch ni ar alumni@abertawe.ac.uk neu ffoniwch +44 (0)1792 602706
Academi Cyflogadwyedd Abertawe
Academi Cyflogadwyedd Abertawe
Gall Academi Cyflogadwyedd Abertawe roi cymorth a chyngor i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe am hyd at bum mlynedd ar ôl graddio, gan gynnwys:
- Apwyntiadau unigol gydag Ymgynghorydd Gyrfaoedd
- Cyngor drwy e-bost neu ar y ffôn
- Cyngor ar astudiaethau ôl-raddedig ac ariannu
- Gwybodaeth am chwilio am swydd
Gweler ein hadnoddau gwybodaeth yn https://www.swansea.ac.uk/cy/astudio/cyflogadwyedd/
Mae ein graddau yn agor drysau, helpwch ni i brofi hynny!
Gofynnir i chi gwblhau arolwg dienw byr sy’n gofyn a ydych yn gweithio, yn astudio, yn gwirfoddoli neu’n gwneud rhywbeth arall.
Mae’r ystadegau swyddogol hyn am Ddeiliannau Graddedigion yn cael eu defnyddio mewn tablau cynghrair a chanllawiau. Os bydd Abertawe’n gwneud yn dda eto, mae’n adlewyrchu’n dda ar ein graddedigion, sef chi eich hun.
Mae’r data hefyd yn ein helpu i ddeall y farchnad swyddi, felly byddwch yn helpu’r myfyrwyr sy’n dilyn olion eich traed.