Rydw i'n arloeswr

Mae rhai pobl yn meddwl bod peirianwyr yn ddiflas, ond rydw i’n bell o fod yn ddiflas. Pan oeddwn i’n blentyn, doeddwn i byth yn gallu aros yn llonydd. Ces i fwy o hwyl wrth adeiladu’r tŷ chwarae nag wrth chwarae ynddo.

Fy mreuddwyd i yw cael fy adnabod fel peiriannydd pobl - rhywun sy’n newid bywydau drwy feddwl ychydig bach yn wahanol, efallai ym maes ynni adnewyddadwy.

Mae peirianneg yn ymwneud ag arloesi ond, oni bai fod gennych y gallu i gyfathrebu, gall syniadau fynd ar goll.

Yn ffodus, doeddwn i ddim mewn parchedig ofn pan gwrddais â Syr Terry Matthews, y biliwnydd telathrebu Cymreig, pan ddaeth i’r Brifysgol.

Enillais ei her Canada – y cyfle i weithio yn un o’i gwmnïau yn Ottawa am bedair wythnos gyda’r holl gostau wedi eu talu.

Roedd hynny’n gyfle anhygoel. Allwn i ddim fod wedi dychmygu’r math hwnnw o antur ychydig o flynyddoedd yn ôl.

Mae Prifysgol Abertawe yn enwog am ei Hadran Beirianneg ond mae hefyd wedi newid fy mywyd mewn ffyrdd eraill.

Cymerwch fy niddordeb newydd gwych, Ffrisbi Eithafol. Doeddwn i ddim yn gwybod ei fod yn bodoli nes i mi ddod yma.

Fel llysgennad myfyrwyr, hoffwn i ysbrydoli rhagor o fenywod i astudio peirianneg. Does dim rhaid i chi fod yn gryf, dim ond mwynhau gwneud pethau a pheidio ag ofni cael eich dwylo’n fudr.

Mwyaf amrywiol y tîm, y gorau fydd y syniadau. Mae menywod yn ymdrin â thasgau mewn ffyrdd gwahanol, felly pan fyddwn yn cyfrannu, gall roi mantais i’r tîm.

Roedd dewis astudio ym Mhrifysgol Abertawe yn un o benderfyniadau gorau fy mywyd. Roedd popeth roeddwn i’n chwilio amdano ar garreg fy nrws, ond mae eisoes wedi rhoi cyfle i mi deithio’r byd.”