Rydw i'n hyrwyddwr

Nawr, mwy nag erioed o’r blaen, yn wyneb galwadau llethol a thoriadau llym i gyllidebau, mae angen meddygon ag ysbryd brwydro ar y proffesiwn meddygol. Rhai a fydd yn ymladd dros eu cleifion a thros system sydd wedi ein cefnogi am ddegawdau. Dyma’r math o feddyg mae Prifysgol Abertawe’n fy hyfforddi i fod.

Efallai ei bod yn anodd, ond mae astudio meddygaeth yn wobrwyol tu hwnt. Mae gan bob claf ei stori unigryw ei hun. Ac fel eu meddyg, bydd gennych y fraint o’u tywys drwy ba brofiad bynnag newydd maent yn ei wynebu. I mi, cael effaith mor gadarnhaol ar bobl, ar adegau mwyaf diamddiffyn eu bywyd, yw’r fraint fwyaf bosib.

Mae’r hyfforddiant yn ddwys, wrth gwrs. A dwi mor ddiolchgar i’r tiwtoriaid ym Mhrifysgol Abertawe am gydnabod hyn, ac am fy annog i wneud rhywbeth i leddfu’r straen cyn iddo fynd yn ormod i mi. A dyna le mae fy hoff beth arall yn helpu – bocsio. Er nad yw’n gamp mae’r proffesiwn meddygol yn ei chymeradwyo’n llwyr, i mi mae’n ffordd wych o gael gwared ar densiwn.

Rwyf wedi dwlu ar focsio ers i mi fod yn fyfyriwr israddedig. Des i’n hyfforddwr yn ystod fy ail flwyddyn hyd yn oed a dwi’n awyddus iawn i fynd â hyn ymhellach, yn ystod fy hyfforddiant ac ar ôl i mi gymhwyso. Mae’r gamp yn rhan fawr o Gemau’r Prifysgolion hefyd, ac mae’n wefr go iawn cael cystadlu ar lefel mor uchel.

Dwi ddim yn meddwl y dylen ni rwystro pobl rhag bocsio – wedwn i fod gwir angen cynnwys meddygon yn y gamp, fel y gallwn sicrhau ei bod yn ddiogel. Allwn i ddim bod wedi creu cydbwysedd mor gryf rhwng bywyd a gwaith oni bai am anogaeth fy nhiwtoriaid. A dwi wir yn credu bod fy angerdd dros focsio yn fy helpu i gyflawni’r cydbwysedd hwn, ac y bydd yn fy helpu i wneud y gorau y gallaf, fel meddyg ac fel person.”