Delwedd yr ymchwilydd

Rhwydwaith Staff

Mae sefydlu Academi Cyflogadwyedd Abertawe (SEA) wedi helpu i gynyddu proffil a phwysigrwydd cyflogadwyedd, ar gyfer ein myfyrwyr yn sicr, ond hefyd ymhlith ein staff proffesiynol ac academaidd. Mae'r Academi wedi darparu presenoldeb gweladwy a hygyrch i'r myfyrwyr ymgysylltu ag ef. Er enghraifft, o ganlyniad i'r Map Taith Yrfa, porth lleoliadau gwaith, y ffair yrfaoedd, darlithoedd gyrfa, sgyrsiau gan gyflogwyr a chyflwyno Gwobr Cyflogadwyedd Abertawe, mae ein myfyrwyr yn derbyn neges ddi-dor ynghylch pwysigrwydd cyflogadwyedd i daith myfyriwr yma yn Abertawe.

Erbyn hyn, mae staff academaidd yn ystyried cyflogadwyedd fel elfen hanfodol o'n gwaith yn hytrach na rhywbeth ychwanegol, fel y gallai fod wedi cael ei ystyried cyn SEA. Cyflawnwyd hyn drwy'r strategaeth cyflogadwyedd mewn amrywiaeth o ffyrdd:

  • Mae Bwrdd Rheoli SEA yn weithredol yn yr holl Ysgolion a Cholegau, gan sicrhau bod mentrau cyflogadwyedd yn cael eu cydlynu a'u cyflawni a bod arfer gorau'n cael ei rannu.
  • Mae gan bob Coleg/Ysgol Gyfarwyddwr Cyflogadwyedd penodol o blith y staff academaidd (aelodau Bwrdd Rheoli'r Academi) sy'n gyfrifol am wreiddio a datblygu mentrau cyflogadwyedd, a'u gosod yn eu cyd-destun, ar draws yr holl feysydd pwnc.
  • Mae'r Academi wedi darparu fframwaith i'r Ysgolion a'r Colegau ymdrin â chyflogadwyedd ar lefelau rheoli uwch, drwy gyflwyno cytundebau lefel gwasanaeth a thrwy sefydlu pwyllgorau cyflogadwyedd yn y Colegau, a fynychir gan Gyfarwyddwyr Rhaglenni o bob maes pwnc. Mae hyn wedi helpu i wreiddio mentrau cyflogadwyedd ymhellach ym mhob un o'n modiwlau.
  • Mae cyflogadwyedd yn eitem sefydlog ar ein Pwyllgorau Dysgu ac Addysgu a'n Fforymau Staff a Myfyrwyr.
  • Datblygu lleoliadau sy'n rhan gynhenid o ragor o raglenni gradd, yn ogystal â gweithio gydag academyddion i ddefnyddio eu rhwydweithiau i greu cyfleoedd lleoliadau gwaith newydd i fyfyrwyr.
  • Mae'r Brifysgol wedi bod yn weithredol yn sicrhau bod Gwobr Cyflogadwyedd Abertawe yn rhan gynhenid o fodiwlau sy'n cynnig credydau. "Mae hyn yn pwysleisio ymhellach gwerth cyflogadwyedd i ni; heb SEA, ni fyddai hyn wedi bod yn bosib."  Stuart Toomey, Cyfarwyddwr Cyflogadwyedd, y Coleg Gwyddoniaeth

Mae SEA yn gweithio mewn partneriaeth â staff academaidd i ddarparu Gwobr Cyflogadwyedd Abertawe ar gyfer myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig. Mae'r Wobr yn helpu myfyrwyr i archwilio pwy ydynt, pa sgiliau a phrofiad y gall fod angen iddynt eu datblygu i'w helpu i lwyddo yn y gyrfaoedd maent wedi'u dewis - cofnodir y datblygiad proffesiynol hwn ar eu Hadroddiad Cyrhaeddiad Addysg Uwch (HEAR). Mae Gwobr Cyflogadwyedd Abertawe wedi gwneud gwahaniaeth i 1,772 o fyfyrwyr. Yn ôl dadansoddiad DLHE (Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch) o'n myfyrwyr Seicoleg, roedd pob myfyriwr graddedig ddwywaith mor debygol o fod yn gweithio a/neu'n astudio ar cwblhau lefel Efydd Gwobr Cyflogadwyedd Abertawe.