Clywch farn ein staff ar Canvas!
Beverley Agard Owen
Darlithydd – Astudiaethau Busnes, Y Coleg
Gan nad ydw i’n arbenigwr technegol, roeddwn i’n teimlo’n nerfus iawn am ddefnyddio Canvas. Un o’r nodweddion dwi’n mwynhau eu defnyddio’n fawr yw’r nodwedd “sgwrsio”. Yn ogystal â chaniatáu i fyfyrwyr ofyn cwestiynau’n breifat, gallaf atodi ymarfer neu daflen waith y gall y myfyrwyr ei ddefnyddio ar unwaith. Mae hyn yn arbed amser a tharfu gan nad oes angen gofyn i’r myfyrwyr lawrlwytho’r gwaith papur perthnasol o Canvas, neu aros i mi e-bostio’r ddogfen.
Dave Ruckley
Technolegydd Dysgu, Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe
"Y peth cyntaf fy mod yn ei hoffi am Canvas yw sut mae hygyrchedd yn rhan allweddol ohono. Wrth ychwanegu cynnwys at dudalen mae’r gwirydd hygyrchedd wrth law yn y golygydd er mwyn sicrhau eich bod chi’n ei ddefnyddio. Nid oes angen mynd i’r holl drafferth o wirio hygyrchedd ac mae’n gwella eich cwrs yn syth gan ei wneud yn well ar gyfer myfyrwyr beth bynnag eu hanableddau neu eu pryderon ynghylch hygyrchedd."
"... Mae’r holl fanylebau Rhyngweithrededd Offer Dysgu (LTI) rwy wedi’u profi yn Canvas wedi cael eu dylunio a’u dyfeisio’n dda, ac mae’n amlwg bod Canvas wedi bwriadu’u defnyddio o’r cychwyn cyntaf er mwyn ehangu ar ymarferoldeb. Mae blaengynllunio o’r fath yn golygu bod defnyddio manylebau LTI yn rhwydd iawn. Yr hyn rwy’n ei hoffi fwyaf yw bod yr un ohonyn nhw’n peri ichi deimlo eich bod yn mynd i rywle arall, mae popeth yn cael ei asio at ei gilydd o fewn Canvas, yn cyfuno’n dda ac yn arwain at brofiad di-dor. Serch hynny, gallwch chi fanteisio ar offer a nodweddion nad ydyn nhw’n rhan gynhenid o Canvas."
Paul Davies
Uwch-ddarlithydd a Chyfarwyddwr Rhaglen, yr Ysgol Reolaeth
"Roeddwn i'n meddwl bod Canvas yn fawr, roedd yn llachar ac yn eithaf brawychus i ddechrau. Fel y gallwch ddychmygu, mae pob system newydd yn codi ofn i ddechrau. Wrth ddod yn gyfarwydd ag ef, daeth yn hwylus iawn. Mae'n gysylltiedig â'r holl bethau roeddwn i eisiau iddo gysylltu â nhw. Hefyd, roedd yn cynnig llawer o nodweddion ychwanegol nad oeddwn i'n gyfarwydd â nhw ar ôl defnyddio Blackboard am y pum mlynedd diwethaf."
"Roedd y ddadansoddeg yn eithaf defnyddiol. Mae'n dweud wrthych chi faint o fyfyrwyr sydd wedi gwylio eich darlith a/neu wedi mynd i'r afael â'ch deunydd seminar."
Joanna Chapman
Cydlynydd Cyn-sesiynol - Gwasanaethau Hyfforddiant Iaith Saesneg (ELTS)
"Roedd y cwisiau'n ffordd hynod ddefnyddiol i'r myfyrwyr allu gwirio cysyniad a gwirio ffeithiau'r wybodaeth honno. ... Rydyn ni wedi defnyddio Canvas i gael adborth gwerthfawr iawn drwy holiaduron canol tymor, fel bod y myfyrwyr yn gwybod ein bod ni'n meddwl yn gyson am sut rydyn ni'n cynllunio ein cyrsiau a sut gallwn wella. Maen nhw hefyd yn gwybod ein bod ni'n gwrando arnyn nhw er nad ydyn ni'n gallu bod gyda nhw. Rwyf wedi’i ddefnyddio hefyd i roi llawer o gefnogaeth barhaus ar gyfer eu hasesiadau a'u haseiniadau."
"Mae trafodaethau wedi bod yn ddefnyddiol iawn hefyd. Mae hyn wedi bod yn wych achos mae'n golygu bod y myfyrwyr wedi gallu ymgysylltu â’i gilydd heb ddibynnu arnom ni weithiau. Maen nhw wedi gallu gwneud hyn fel unigolion neu fel grŵp, ac mae wedi rhoi cyfle iddyn nhw baratoi am asesiadau neu aseiniadau neu ddarlithoedd cyn iddyn nhw gyrraedd. ... Hefyd, mae tiwtoriaid wedi bod yn rhoi sylwadau ar y trafodaethau, fel bod y myfyrwyr yn gwybod yn iawn ein bod ni’n cadw llygad ar yr hyn sy'n digwydd a'n bod yn cadw mewn cysylltiad a bod ganddynt lefel ychwanegol o anogaeth i ymrwymo i’w hastudiaethau."
Dr Wendy Harris
Adran y Biowyddorau, y Coleg Gwyddoniaeth
"Dwi wedi mwynhau defnyddio Canvas yn fawr, dysgu'r holl nodweddion gwahanol sydd ar gael. Un o'r pethau gorau am ei ddefnyddio yn fy mhrofiad i yw nifer y pethau gwahanol chi’n gallu eu gwneud mewn tudalen a’r nodweddion ychwanegol.”
Yr Athro Simon Bott
Yr Adran Gemeg, y Coleg Gwyddoniaeth
"Dwi wir yn meddwl bod Canvas yn ychwanegiad hollol wych at ein hoffer addysgu. ... Y ffordd y gallwn ni gyflwyno'r deunydd i'r myfyrwyr mewn modd sy'n llawer mwy hwylus iddyn nhw. Dim ond clicio unwaith, ac mae popeth mae angen iddyn nhw ei wneud yn ymddangos yn drefnus iawn."
Os hoffech chi rannu eich profiad o ddefnyddio Canvas neu unrhyw arfer gorau, e-bostiwch salt@abertawe.ac.uk