Oes gennych gwestiynau eraill? Gallwch ddod o hyd i'r Canllawiau i Canvas drwy'r ddolen hon - Canllawiau i Canvas
Cwestiynau Cyffredin Prosiect Canvas
- Academi Hywel Teifi
- Llety
- Derbyn Myfyrwyr
- Rhyngwladol
- Dyddiadau Semester a Thymor
- Bywyd Myfyriwr
- Clybiau a Chymdeithasau
- Tudalen Hafan Prosiect Canvas
- Cwpan y Byd FIFA 2022
- Diwrnod Rhyngwladol y Dynion
- Mis Hanes LHDT+ 2022
- Pride Abertawe 2022
- Cyfleusterau'r Campysau
- Adolygiadau Gan Fyfyrwyr
- Y 5 lle gorau yn Abertawe i’w cynnwys ar Instagram
- Iechyd a Lles
- Arlwyo i Fyfyrwyr
- Discovery
- Canolfan Iechyd
- Bywyd Cymdeithasol a Digwyddiadau Myfyrwyr
- Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe
- Parth Addysg
- Pam astudio yn Abertawe?
- Storïau Myfyrwyr
- Dewch i gwrdd â'n Llysgenhadon Digidol
- Canllaw Rhieni a Gwarcheidwaid I'r Brifysgol
- Graddio
- Ein Diwrnodau Agored - Rhithwir ac Ar y Campws
- Mynd Yn Fyd-Eang
- Academi Cyflogadwyedd Abertawe (SEA)
- Adran Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr
- Cofrestru a Sefydlu
- Ffurflen Gais am Brosbectws
- Sut y gallaf drosglwyddo i Brifysgol Abertawe?
- Pa mor bell yw Abertawe?
- Beth yw Gŵyl y Glas?
- Cadwch mewn cysylltiad
- Cyfres Gweminar Prifysgol Abertawe
Pam rydym yn symud i Canvas?
Gweledigaeth Prifysgol Abertawe yw darparu'r profiad dysgu, addysgu ac asesu gorau i fyfyrwyr drwy amrywiaeth eang o ddulliau ac ymagweddau addysgegol. Un o’r prif bethau sydd yn ein galluogi i wneud hyn yw platfform dysgu ar-lein modern sy'n gwella ein cysylltiadau ar draws y Brifysgol.
Wrth i'r cytundeb trwyddedu presennol gyda Blackboard ddirwyn i ben, cawsom gyfle i weithredu ar adborth staff a myfyrwyr, a lywiodd y gofynion i greu platfform i symud tuag at ein gweledigaeth.
Ar ôl proses dendro gynhwysfawr, penderfynwyd mai Canvas oedd y platfform gorau i gyflawni gweledigaeth a diwallu anghenion y Brifysgol. Y flwyddyn nesaf, bwriedir rhoi platfform Canvas ar waith drwy'r Brifysgol gyfan, gan gyflwyno manteision sylweddol i staff a myfyrwyr a gwella'r profiad dysgu, addysgu ac asesu cyffredinol i bawb.
Pryd bydd Canvas ar gael i mi ei ddefnyddio?
Staff - bwriedir rhoi mynediad i staff o fis Chwefror 2020 pan fydd yr hyfforddiant yn dechrau. Bydd rhai aelodau staff yn cymryd rhan mewn cyrsiau Arloeswr (mis Ionawr) a Mabwysiadwr Cynnar (mis Mawrth/Ebrill). Os felly, byddant yn cael eu hysbysu.
Myfyrwyr - pan fydd y cyfnod addysgu'n dechrau. I'r rhan fwyaf o fyfyrwyr, bydd hyn yn golygu dechrau blwyddyn academaidd 20/21, ond bydd rhai myfyrwyr yn cymryd rhan mewn cyrsiau Arloeswr (mis Ionawr) a Mabwysiadwr Cynnar (mis Mawrth/Ebrill). Os felly, byddant yn cael eu hysbysu.
Beth yw manteision Canvas?
Darllenwch ein tudalen “Pam Canvas?” i dderbyn rhestr lawn o’r buddion.
Pwy fydd y newid yn effeithio arnynt?
Gallai'r newid hwn effeithio ar bawb sy'n ymwneud â dysgu, addysgu ac asesu yn Abertawe. Bydd y newid yn effeithio fwyaf ar fyfyrwyr a staff addysgu, wrth gwrs, ond bydd angen i bawb sy'n cefnogi myfyrwyr gyda'u hastudiaethau ddod yn gyfarwydd â Canvas. Bydd hyn yn berthnasol hefyd i staff sy'n defnyddio'r system bresennol at ddibenion datblygu staff.
Beth mae angen i mi ei wneud?
Bod yn ymwybodol o Brosiect Canvas drwy'r amrywiaeth o weithgareddau cyfathrebu ac ymgysylltu dros y flwyddyn nesaf, edrych ar yr amserlen hyfforddi a defnyddio deunyddiau ac adnoddau hyfforddi Canvas pan gânt eu cyhoeddi ar ein gwefan a neilltuo amser i ddatblygu'ch cynnwys ar Canvas yn barod am y flwyddyn academaidd newydd.
Pa ganllawiau sydd ar gael ar gyfer MYFYRWYR ar Canvas?
Pasbort i Canvas – Canllaw Myfyrwyr
“Canvas” fydd platfform dysgu digidol newydd y Brifysgol o 31/07/20 ac ni fydd Blackboard bellach ar gael o’r dyddiad hwn.
Er mwyn cefnogi myfyrwyr â llywio a defnyddio platfform Canvas rydyn ni wedi llunio canllaw cynhwysfawr o’r enw “Pasbort i Canvas” a gallwch chi ei gyrchu trwy ddilyn y ddolen ganlynol: https://canvas.swansea.ac.uk/courses/19536 a bydd ar gael i chi pryd bynnag y bydd angen i chi gyfeirio ato.
Cyrchwch Canvas drwy’r ddolen hon https://canvas.swansea.ac.uk/ neu drwy apiau’r Brifysgol a thudalennau gwe MyUni.
Beth fydd yn digwydd i'm hadnoddau yn system Blackboard?
Mae ffrwd waith benodol wedi cael ei chreu i drefnu sut gellir archifo adnoddau o'r platfform presennol a sicrhau eu bod ar gael pan fydd trwydded Blackboard wedi dod i ben. Mae'r ffrwd waith hefyd yn ystyried sut caiff cyfnod ailsefyll ac ailgyflwyno'r haf ei reoli. Ar ôl i ni gytuno ar yr ymagwedd, byddwn yn cysylltu â'r holl ddefnyddwyr perthnasol i roi gwybod iddynt.
Pryd bydd Blackboard yn cael ei derfynu?
31 Gorffennaf 2020 - ar ôl y dyddiad hwn, ni fyddwch yn gallu cael mynediad i Blackboard.
Fodd bynnag, rydym wrthi ar hyn o bryd yn ystyried rhoi cynnwys cyrsiau blynyddoedd blaenorol mewn archif ar-lein.
Pa gymorth ac arweiniad Canvas sydd ar gael i STAFF yn ystod y cyfnod asesu?
Gallwch gael cymorth yn y ffyrdd canlynol:
• Sgwrs Canvas
• Rhoi gwybod am broblem
Pa gymorth ac arweiniad Canvas sydd ar gael i FYFYRWYR yn ystod y cyfnod asesu?
Gallwch gael mynediad at y Canllaw yng nghwrs Canvas drwy’r ddolen ganlynol: https://canvas.swansea.ac.uk/courses/20041
Os oes angen help neu gymorth arnoch gyda’r system ei hun, mae Cymorth Canvas ar gael 24/7 365 niwrnod y flwyddyn drwy’r ffyrdd canlynol:
• Llinell Gymorth Canvas
• Sgwrs Canvas
• Rhoi gwybod am broblem
Gall y canllawiau a’r gymuned ar-lein drwy’r dolenni isod fod o gymorth hefyd:
Canllawiau Canvas: https://community.canvaslms.com/community/answers/guides/
Cymuned Ar-lein Canvas: https://community.canvaslms.com/community/answers
Beth yw'r amserlen?
Darllenwch amserlen y prosiect ar brif dudalen hafan y prosiect.
Pa hyfforddiant sydd ar gael?
I staff - bwriedir darparu hyfforddiant i'r holl staff o fis Chwefror 2020.
Mae wyth datblygwr academaidd amser llawn yn canolbwyntio ar hyfforddiant addysgeg a thechnegol ar gyfer Canvas. Byddwn yn cynnig ymagwedd aml-ddull; cyrsiau ffurfiol, wyneb yn wyneb/gweminarau/cyrsiau astudio annibynnol, ynghyd â sesiynau agored sy'n rhoi cyfle i staff gydweithio a rhwydweithio.
Cofrestrwch drwy Eventbrite.
I fyfyrwyr - un o brif fanteision Canvas yw ei bod hi'n hawdd cael mynediad iddo, mae'n hawdd dod o hyd i bethau ac mae ganddo ryngwyneb greddfol.
Sut gallaf gael mwy o wybodaeth am Canvas?
Gallwch ddod o hyd i'r Canllawiau i Canvas drwy'r ddolen hon - Canllawiau i Canvas
I gael y newyddion diweddaraf am ddatblygiadau Canvas - cliciwch ar y ddolen ganlynol i weld nodiadau ar Canvas - https://community.canvaslms.com/community/answers/releases/release-notes-canvas
Sut gallaf ofyn am gymorth gyda Canvas?
Mae Canvas yn cynnwys cymorth Haen 1 cynhwysfawr sy'n cynnig arweiniad a chymorth technegol 24/7 bob diwrnod o'r flwyddyn, dros y ffôn, drwy sgwrs fyw a thrwy e-bost, i bob defnyddiwr.
Yn system Canvas, cliciwch ar y botwm "Canvas Help", drwy'r rhyngwyneb defnyddiwr Canvas ar y ddewislen gwe-lywio am fanylion am sut i gael y cymorth hwn.
Pa borwyr sy'n addas i'w defnyddio gyda Canvas?
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf, darllenwch y dudalen we yn Canvas am y porwyr a argymhellir:
https://community.canvaslms.com/docs/DOC-10720-which-browsers-does-canvas-support
Sut bydd fy nghwrs a'm cofrestriadau'n cael eu rheoli?
Bydd amlinelliadau cwrs yn cael eu creu'n awtomatig, gan ddefnyddio'r data a gedwir yn system cynnal a chadw/catalog modiwlau'r Brifysgol ar gyfer modiwlau academaidd. Bydd staff yn gyfrifol am greu deunyddiau dysgu a chynnwys priodol, ac am drosglwyddo cynnwys rhwng blynyddoedd academaidd.
Trefnir mynediad i gyrsiau ar gyfer staff a myfyrwyr ar sail y data cofrestru a gedwir ar systemau'r Brifysgol, yn yr un modd ag y mae'n cael ei reoli ar hyn o bryd ar Blackboard.
A fydd fy nghyrsiau'n cael eu cario drosodd yn awtomatig bob blwyddyn?
O hyn ymlaen, staff addysgu fydd yn gyfrifol am gopïo cynnwys o un flwyddyn i'r flwyddyn nesaf. Yn hanesyddol, byddai staff TG yn cychwyn y broses awtomatig hon, ond ni fydd hyn yn digwydd bellach, er mwyn osgoi cronni data archifol a data nad yw'n berthnasol bellach. Ni fydd cyrsiau academaidd yn dangos unrhyw gynnwys ar ddechrau'r flwyddyn academaidd nesaf nes bod perchennog y cynnwys yn cyflawni’r broses hon.
Gellir mewnforio cynnwys o un cwrs i un arall drwy ychydig o gliciedau syml. Mae'r ddolen hon yn darparu cyngor ar y broses:
A fydd modd canfod llên-ladrad o hyd yn Canvas?
Defnyddir Turnitin yn helaeth yn Abertawe a bydd ar gael o hyd pan symudwn i Canvas gan ganiatáu i staff a myfyrwyr barhau i ddefnyddio'r rhaglen at y diben hwn.
Ni allaf weld fy nghwrs, beth dylwn i ei wneud?
Staff - mae'r wybodaeth y gallwch ei gweld yn seiliedig ar eich cysylltiad â chyrsiau yn y catalog o fodiwlau. Gwiriwch gyda Swyddfa Weinyddol eich Coleg yn y lle cyntaf eich bod wedi'ch cysylltu'n gywir.
Myfyrwyr - mae mynediad yn seiliedig ar eich statws cofrestru. Os ydych yn meddwl bod cyrsiau ar goll, gofynnwch i'r athrawon sy'n eu cyflwyno yn y lle cyntaf. Mae'n bosib na fyddant yn cael eu cyhoeddi cyn dechrau'r cyfnod addysgu.
Pa ieithoedd gellir eu defnyddio yn Canvas?
Gellir defnyddio nifer o ieithoedd yn Canvas, gan gynnwys y Gymraeg, a gellir dewis iaith ar lefel defnyddiwr a chwrs. Mae rhestr lawn ar gael drwy'r ddolen ganlynol:
 phwy dylwn i gysylltu os oes gennyf ymholiad am brosiect Canvas?
E-bostiwch y tîm prosiect yn: salt@abertawe.ac.uk