Gweithio gydag Ymestyn yn Ehangach

Caiff Arweinwyr Myfyrwyr eu recriwtio i gynorthwyo'r Tîm Ymestyn yn Ehangach a’r Tîm Camu i Fyny i gyflwyno ystod o weithgareddau a digwyddiadau ar gyfer plant a phobl ifanc o'r ysgol gynradd i'r chweched dosbarth. Mae nifer o brosiectau a digwyddiadau a gynigir drwy’r Cynllun Arweinydd Myfyrwyr Ymestyn yn Ehangach y gallwch gymryd rhan ynddynt. Mae'r digwyddiadau'n cynnwys: ymweliadau ysgolion cynradd, uwchradd a chweched dosbarthiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb ar y campws ac mewn ysgolion; gweithdai sgiliau astudio, clybiau ar ôl ysgol, ysgolion haf, dosbarthiadau meistr pwnc penodol a sesiynau rhagflas a chystadlaethau a gweithdai llythrennedd a rhifedd.

Manteision gweithio fel arweinydd myfyrwyr

  • Tâl hael yn cychwyn ar £11.66
  • Cyfle i gyflawni Gwobr Cyflogadwyedd ar lefel Efydd, Arian neu Aur ar gyfer eich HEAR.
  • Cyfle i gael profiad cyflogaeth gwerthfawr
  • Gwaith sy’n ffitio i’ch amserlen
  • Datblygu sgiliau a nodweddion sy’n gallu gwella eich CV, eich ffurflen gais a’ch ymateb i gyfweliad
  • Hyfforddiant am ddim

Prif Ddyletswyddau Arweinydd Myfyrwyr

1.Bod yn fodel rôl cadarnhaol ac yn llysgennad ar gyfer Addysg Uwch a Phrifysgol Abertawe.

2.Goruchwylio a chefnogi grwpiau o blant ysgol a myfyrwyr coleg wrth iddynt ymweld â'r Brifysgol

3.Cymryd rhan weithgar a chynorthwyo gyda chyflwyno gweithgareddau a chyflwyniadau ar-lein ac ar y campws i gynyddu ymwybyddiaeth cyfranogwyr am fywyd Prifysgol.

4. Cynorthwyo wrth gynnal ymddygiad da yn ystod ymweliadau â'r campws ac oddi arno a rhoi gwybod am feysydd pryder, gan gynnwys pryderon am ddiogelu.

5. Datblygu ymwybyddiaeth o fanteision addysg Brifysgol, llwybrau i Addysg Uwch ac ymwybyddiaeth gyffredinol am yr ystod eang o gyrsiau sydd ar gael a materion cyffredinol am fywyd myfyrwyr.

Meini Prawf Hanfodol

Yn ogystal â gweithio oddi mewn i werthoedd craidd y brifysgol rhaid i arweinwyr myfyrwyr fodloni’r canlynol:

  • Bod yn fyfyrwyr israddedig neu ôl-raddedig cyfredol, neu wedi graddio’n ddiweddar o Brifysgol Abertawe neu PCYDDS.
  • Meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol.
  • Bod yn wybodus am fywyd yn y Brifysgol.
  • Medru gweithio fel rhan o dîm.
  • Gallu dilyn cyfarwyddiadau, ochr yn ochr â defnyddio menter.
  • Medru deall unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd a theimlo empathi tuag atynt.
  • Gallu ysbrydoli a chodi lefel dyheadau.
  • Gallu ymddwyn mewn modd sy’n groesawgar, bod yn hawdd mynd atynt, a bod yn gyfeillgar i blant a phobl ifanc.
  • Bod yn amyneddgar, yn gadarnhaol, yn hyblyg ac yn ddigynnwrf mewn sefyllfaoedd heriol megis gweithio gyda grwpiau o bobl ifanc sydd wedi colli diddordeb.
  • Meddu ar sgiliau rheoli amser da.
  • Bod yn amlwg frwd ynghylch Addysg Uwch.

Nid ydym yn recriwtio ar hyn o bryd, ond llenwch y ffurflen isod i fynegi eich diddordeb ar gyfer y cylch recriwtio nesaf:

Llenwch yr arolwg i gofrestru am y gylch recriwtio nesaf