Mae gan bobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal y cyfle i ymweld â’r brifysgol i gymryd rhan mewn gweithgareddau sydd â’r nod o godi dyheadau addysgol a’u hymwybyddiaeth o fywyd prifysgol. Gall gweithgareddau gynnwys gweithdai, teithiau prifysgol, ymweliadau 1:1, profiadau preswyl a gweithio gyda phobl ifanc a myfyrwyr eraill sydd wedi bod mewn gofal.   

“Mae mynd i’r brifysgol wedi gwella pethau i mi ac wedi fy ngwneud i deimlo y gallaf gael dyfodol gwell. Mae wedi fy ngwneud i deimlo’n dda amdanaf i fy hun. Rwy’n teimlo’n gyfforddus yn y Brifysgol”. Person ifanc

"Mae’r adborth gan ein pobl ifanc wastad yn gadarnhaol ac mae manteision y profiad yn amlwg, maent wastad eisiau mynd yn ôl“ LACES Abertawe”

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:

Rhif Ffôn: 01792 602 128

E-bost