Gofalwr oedolyn ifanc yw rhywun dan 25 oed sy’n darparu cefnogaeth ddi-dâl i deuluoedd a chyfeillion na fyddai’n gallu ymdopi heb yr help hwn. Gallai hyn fod yn gofalu am berthynas, partner neu gyfaill sy’n sâl, gwan, anabl neu sydd â phroblem iechyd meddwl neu broblem cam-drin sylweddau.

Events:

Ysgol Haf

Ysgol haf breswyl dau ddiwrnod i ofalwyr ifanc. Mae hwn yn gyfle i ofalwyr ifanc gyfarfod â myfyrwyr o gefndiroedd cyffelyb iddynt hwy a chael profiad o fywyd myfyriwr mewn amgylchedd cefnogol. Bydd cyfle i droi eich llaw at ystod o wahanol bynciau yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol

I gael gwybod mwy ynghylch y digwyddiadau hyn neu i archebu llefydd, cysylltwch â ni:

Rhif Ffôn: 01792 602 128

E-bost