Ymweliadau Campws i Ysgolion Cynradd 

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Ymestyn yn Ehangach wedi datblygu gweithgareddau newydd a chyffrous i ysgolion cynradd lleol mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf. Mae'r rhain wedi targedu disgyblion ym Mlynyddoedd 4, 5 a 6 yn bennaf. Mae llawer o'r gweithgareddau hyn wedi ymwneud â phynciau penodol, gyda disgyblion yn ymweld â'r campws ac yn gweithio gyda'n harweinwyr-myfyrwyr. Mae'r gweithgareddau wedi cynnwys ymweliadau â gorsaf radio'r brifysgol, cyfweld â myfyrwyr ar y campws, dilyn llwybr natur y brifysgol ac adeiladu/rasio ceir roced. Gobeithiwn y bydd y diwrnodau hyn yn ysbrydoli'r disgyblion hyn gan roi cyflwyniad cynnar i addysg uwch iddynt.

"Mae'r diwrnod yn darparu cipolwg ar fywyd prifysgol nad yw'r disgyblion erioed wedi'i gael o'r blaen ac mae'n rhoi cyfle iddyn nhw gael blas ar fywyd sydd ymhell o brofiad llawer o'r disgyblion." Athro o Ysgol Gynradd Cymer Afan

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:

Rhif Ffôn: 01792 602 128

E-bost