Mae myfyrwyr yn cyrraedd Prifysgol Abertawe ar adegau gwahanol yn y flwyddyn ac, fel sefydliad, mae angen i ni ystyried sut rydym yn croesawu myfyrwyr newydd a myfyrwyr sy’n dychwelyd ar bob adeg. Un o’r adegau prysuraf o ran myfyrwyr yn cyrraedd yw mis Medi ar gyfer dechrau’r flwyddyn academaidd newydd ac rydyn ni’n recriwtio gwirfoddolwyr am y cyfnod Dydd Mercher 23fed Medi i ddydd Sul 25eg Medi gyda’r cyfnod prysuraf fydd dydd Gwener 23eg Medi, dydd Sadwrn 24fed Medi a dydd Sul y 25ain.
I sicrhau croeso da, mae angen i staff a myfyrwyr o ledled y Brifysgol roi o’u hamser i helpu i gynnal ystod o weithgarwch; o gyfeirio myfyrwyr newydd wrth iddynt gyrraedd a sicrhau eu bod yn derbyn croeso cyfeillgar i Abertawe i gyfarfod a chyfarch myfyrwyr rhyngwladol yn y maes awyr.
SUT GALLAF WIRFODDOLI?
Llenwch y ffurflen i gofrestru eich diddordeb.
Datganiad Cenhadaeth Cyrraedd a Chroeso
Cynllunio proses gyrraedd sy'n ddiogel, yn broffesiynol ac yn arloesol sy'n helpu myfyrwyr i integreiddio yng nghymuned Prifysgol Abertawe a gwneud iddynt deimlo'n gartrefol. Cyflwynir y gweithgareddau ar y safle pan fo'n ddiogel gwneud hynny, yn unol â chanllawiau'r Llywodraeth. Trefnir gweithgarwch cyfathrebu yn brydlon ac yn gyson, a bydd yr holl randdeiliaid yn deall yr hyn rydym yn disgwyl ganddynt.