Cefnogaeth ar gyfer Myfyrwyr sydd wedi’u Dieithrio

Caiff myfyrwyr eu hystyried i fod wedi'u dieithrio o'u teuluoedd os yw perthnasoedd â'u rhieni wedi dirywio mewn ffordd na ellir eu cymodi ac nid oes modd rhagweld sut y gallai hyn wella. Bydd rhai myfyrwyr yn cofrestru yn y brifysgol sydd eisoes wedi'u dieithrio o'u rhieni, tra bydd eraill yn dod i fod wedi'u dieithrio yn ystod eu hastudiaethau.

P'un ai eich bod chi'n dechrau'r brifysgol wedi'ch dieithrio eisoes o'ch rhieni, neu yn cael eich dieithrio yn ystod eich astudiaethau, mae gennym becyn cymorth ar waith i'ch helpu chi i bontio i'r brifysgol, canolbwyntio ar eich astudiaethau a graddio'n llwyddiannus.

Rydym yn cynnig gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar bopeth o wneud cais i'r brifysgol neu lety, cymorth academaidd a mwy, felly gallwch chi wneud penderfyniadau gwybodus am eich dyfodol ym Mhrifysgol Abertawe a'r tu hwnt iddi.

Hysbysu’r Brifysgol am eich statws

Ar hyn o bryd, does dim ffordd ffurfiol o nodi myfyrwyr sydd wedi'u dieithrio drwy broses gwneud cais UCAS. I hysbysu’r Brifysgol am eich statws myfyriwr a ddieithriwyd, bydd angen cysylltu â’n Swyddog Mynediad neu ddewis y blwch ticio myfyriwr a ddieithriwyd ar ffurflenni cofrestru’r Brifysgol. I gadarnhau eich statws fel myfyriwr wedi'ch dieithrio a chyrchu'r pecyn cymorth, bydd angen i chi ddarparu'r llythyr sy'n cadarnhau eich dieithriad a roddwyd i chi gan eich darparwr cyllid. Pan fyddwn ni’n ymwybodol o’ch sefyllfa ymddieithrio, byddwn ni’n cysylltu â chi i drafod y cymorth sydd ar gael. 

Ni fydd nodi eich hun fel myfyriwr sydd wedi'i ddieithrio yn effeithio ar eich cais mewn ffordd andwyol a bydd eich statws yn parhau i fod yn gyfrinachol. Bydd y Brifysgol dim ond yn defnyddio'r wybodaeth hon i sicrhau eich bod chi'n derbyn y cymorth priodol. Ni fyddwn yn dweud wrth eich adran am eich statws fel myfyriwr wedi'i ddieithrio. 

Yn aml iawn, mae'r brifysgol yn bennod newydd ac rydym ni'n deall efallai y byddwch chi am symud ymlaen o'ch profiadau yn y gorffennol. Bydd rhoi gwybod i ni eich bod chi wedi'ch dieithrio yn ein helpu ni i'ch hysbysu am y cymorth sydd ar gael. Fodd bynnag, eich penderfyniad chi'n gyfan gwbl yw dewis i gyrchu'r cymorth ai peidio. Os byddwch chi'n dewis i beidio â'i gyrchu, bydd ein drws bob amser ar agor i chi os byddwch chi'n newid eich meddwl. 

I gynnig cymorth i chi, ni fydd yn rhaid i ni wybod pam eich bod chi wedi'ch dieithrio o'ch rhieni, felly ni fyddwn ni byth yn gofyn am fanylion.

Sut ydw i'n gymwys am gymorth? Pwynt Cyswllt Penodol

Pa gymorth sydd ar gael?

Pa gymorth sydd ar gael cyn i mi ddechrau yn y brifysgol?

Cymorth Ariannol i Fynd i Gyfweliadau a Diwrnodau Agored Gall
Gall ein Swyddog Mynediad helpu i drefnu eich ymweliad a threfnu cwrdd â chi. Mae modd ad-dalu costau teithio (bydd hyn, fel arfer, yn cynnwys cost tocyn rheilffordd ail ddosbarth a chostau cludiant cyhoeddus eraill).

Cyngor am Flaendaliadau Llety
Pan fyddwch yn derbyn cynnig am lety yn y brifysgol, bydd angen i chi dalu blaendal i gadw eich lle yn y llety. Os ydych yn poeni am y costau hyn, cysylltwch â ni i drafod eich opsiynau.  

Pa gymorth fydd ar gael i mi wrth astudio? Pa gymorth sydd ar gael cyn graddio?

Gwybodaeth i Gweithwyr Proffesiynol

Os ydych chi'n gweithio gyda myfyriwr sydd wedi'i ddieithrio o'i deulu ac sy'n ystyried gwneud cais i Brifysgol Abertawe ac mae gennych gwestiynau am y broses gwneud cais, cyllid neu'r pecyn cymorth sydd ar gael, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Cyfrinachedd

Ymdrinnir â holl wybodaeth gan yr Swyddog Mynediad yn gwbl gyfrinachol. Ar yr achlysuron y bydd angen i ni ymgynghori â staff o adran arall neu o sefydliad allanol gwneir hyn ar ôl derbyn caniatâd gennych chi yn gyntaf. 

Cysylltwch â Ni

Os hoffet ti gysylltu â ni, e-bostia accessofficer.campuslife@abertawe.ac.uk.

Mae’n rhaid i fyfyrwyr presennol ddefnyddio eu cyfeiriad e-bost myfyriwr wrth gysylltu â Cyfranogiad@BywydCampws a’r Swyddog Mynediad.