Yr ardal hon yw’r ganolfan aml-ffydd a chymunedol ar gyfer Campws y Bae (wedi’i lleoli wrth ochr y Neuadd Chwaraeon, adeilad Undeb y Myfyrwyr gynt). Mae’r ardal hon yn cynnwys:
- Ardaloedd cymdeithasol er mwyn cwrdd â hen ffrindiau a ffrindiau newydd
- Cegin sy’n cynnwys meicrodonnau a chyfleusterau i wneud te a choffi
- Ystafell fawr dawel ar gyfer myfyrdod, gweddïo a myfyrdod personol
- Gwasanaeth gwrando cyfrinachol
- Ardaloedd er mwyn i Foslemiaid weddïo
- Tair ystafell y gellir eu harchebu ar gyfer cymdeithasau myfyrwyr a grwpiau staff
- A…staff croesawgar er mwyn eich cyfarch a’ch tywys chi.