Y Goleudy
Bydd y Goleudy’n parhau i fod ar agor i unigolion ei ddefnyddio cyhyd â bod adeiladau eraill y Brifysgol ar agor. Ni fydd grwpiau sydd wedi cadw’r Goleudy am gyfarfodydd yn gallu ei ddefnyddio yn y dyfodol agos er mwyn diogelu eu hiechyd eu hunain.
Os ydych chi am gyrchu’r Gwasanaeth Gwrando, cymorth profedigaeth neu gysylltu â’r Caplan, e-bostiwch Ffydd@BywydCampws ar Gwasanaeth gwrando.
Mae'r Goleudy, (ar ochr dde Tŷ Fulton) ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm.
Mae gennym ardal ymlacio â dwy soffa a bwrdd coffi lle gall pawb ddod i ddianc rhag bwrlwm y dydd. Mae gennym gegin fach hefyd, lle mae croeso i bawb ddod am baned o de neu goffi.