Canllawiau i reolwyr a gweithwyr eraill sy'n gweithio gyda Mwslimiaid a allai fod yn ymprydio yn ystod mis Ramadan
Canllawiau Ramadan i Reolwyr
Ein darpariaeth ar gyfer staff a myfyrwyr Mwslimaidd
Mannau gweddi ar y campws
Campws Singleton
Mosg Singleton - Ystafell gweddïo gwrywaidd ac ystafell gweddïo benywaidd.
Wedi'i lleoli ar ochr ddwyreiniol y llyfrgell a chanolfan gwybodaeth, adeilad 6.
Cliciwch YMA ar gyfer cyfarwyddiadau i'r mosg
Cliciwch YMA i weld yr ystafell gweddïo gwrywaidd. Cliciwch YMA i weld yr ystafell gweddïo benywaidd.
Campws y Bae
Yr Hafan - Ystafell gweddïo gwrywaidd a chyfleusterau ymolchi ar y llawr gwaelod. Ystafell gweddïo benywaidd a chyfleusterau ymolchi ar y llawr cyntaf.
Wedi'i lleoli ger y canolfan chwaraeon.
Cliciwch YMA ar gyfer cyfarwyddiadau i'r Hafan
Mae'r mannau gweddi ar Gampws Singleton AR AGOR o hyn o bryd. Mae'r mannau gweddi ar Gampws y Bae AR AGOR.
Bydd amser gweddi Jumu'ah (Dydd Gwener) ar y ddau safle am 01:15pm. Ar Gampws y Bae, bydd Gweddi Jumu'ah (Dydd Gwener) yn y Neuadd Chwaraeon.
Diogelwch pawb sy'n mynychu yw ein blaenoriaeth uchaf. Cofiwch gadw at holl reolau a chanllawiau prifysgol Abertawe er mwyn amddiffyn eich hun ac eraill. (gwiriwch y Canllawiau Diogelwch cyn i chi ddod i mewn i'r gofodau)
-------------------------------------------
Gwybodaeth i fyfyrwyr sy'n ymgymryd ag Ympryd Crefyddol ym Mhrifysgol Abertawe yn ystod cyfnodau arholiadau
Ymprydio Crefyddol yn ystod Cyfnodau Arholiadau