Myfyrwyr gyda'n Casgliad Milne gwych

– Ein Casgliad Milne yw un o'r casgliadau mwyaf o'i fath!


Llyfr Casgliad Milne

Mae gan Lyfrgell Prifysgol Abertawe gasgliad mawr o lyfrau am Ryfel Cartref America, sy'n cynnig help llaw o ran astudio ac ymchwil. Mae oddeutu 4,000 o lyfrau yng Nghasgliad Milne, sy'n ymwneud â'r gwrthdaro yn ogystal â'r argyfwng trychiadol a'r oes ailadeiladu. Fe'i cyflwynwyd fel rhodd i'r rhaglen Astudiaethau Americanaidd ym Mhrifysgol Abertawe yn 2010 gan yr addysgwr brwdfrydig, Mr. Allan Milne, o Gaerdydd, ac mae'n parhau i dyfu.

Mae Casgliad Milne, sef un o'r casgliadau mwyaf o'i fath yn y Deyrnas Unedig, yn cynnwys casgliad o ddeunyddiau ffynhonnell cynradd ac eilaidd sy'n creu argraff. Maen nhw'n cofnodi llawer o agweddau cymdeithasol, gwleidyddol, economaidd a milwrol ar hanes America yng nghanol ac ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.