Ar y dudalen hon cewch awgrymiadau defnyddiol ynghylch sut i sicrhau bod eich cais i'n Cronfeydd Caledi yn haws i'n haseswyr brosesu ar ôl ei dderbyn. Gall ymddangos yn haws darparu cyn lleied o wybodaeth a thystiolaeth â phosibl, ond bydd hyn yn debygol o achosi oedi wrth brosesu eich cais - mae'n hynod o bwysig eich bod yn cynnig yr holl wybodaeth angenrheidiol a bod y dystiolaeth yn eich cais yn ddigonol i alluogi'n haseswyr i wneud asesiad manwl o'ch amgylchiadau ariannol. Nid ydym yn gallu prosesu ceisiadau nad ydynt yn cynnwys yr wybodaeth angenrheidiol a thystiolaeth ddigonol i gadarnhau eich sefyllfa, ac mae'n bosibl y caiff ceisiadau eu canslo neu eu gwrthod os nad yw'r wybodaeth angenrheidiol a ofynnwyd amdani wedi'i darparu. Os oes gennych gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni trwy anfon e-bost at; hardshipfunds@abertawe.ac.uk 


Felly beth yw tystiolaeth ddigonol? Gwyliwch y fideos esboniadol isod i weld enghreifftiau o'r dystiolaeth sydd ei hangen ar eich cais, a'r wybodaeth y mae angen inni ei gweld er mwyn i ni allu derbyn y dystiolaeth.

AILGYFLWYNO CAIS

Pan fydd cais yn cael ei gyflwyno, mae'n bosib y bydd rhai myfyrwyr yn derbyn e-bost yn gofyn am ragor o wybodaeth/tystiolaeth er mwyn prosesu'r cais. Os oes angen i chi ddarparu rhagor o wybodaeth ac ailgyflwyno’ch cais gyda thystiolaeth bellach, gwyliwch y fideos esboniadol uchod os hoffech chi weld enghreifftiau o dystiolaeth ddigonol, a pheidiwch â thynnu na dileu gwybodaeth/tystiolaeth yr ydych eisoes wedi’i chynnwys yn eich cais.

SYLWER – Erbyn i chi ailgyflwyno eich cais, efallai y bydd eich cyfriflenni banc yn hen. Rhaid i’r cyfriflenni banc fod wedi dyddio o fewn 7 niwrnod o'r dyddiad ailgyflwyno. Er enghraifft, efallai y byddwch chi wedi cyflwyno eich cais cychwynnol ar 07/10/22 ond dyddiad yr eitem olaf ar eich cyfriflen yw 03/10/22. Os byddwch chi'n ailgyflwyno eich cais ar 20/10/22, bydd angen i chi ychwanegu cyfriflen wedi'i diweddaru sy'n dangos eich trafodion rhwng 03/10/22 hyd at 20/10/22 neu o fewn 7 niwrnod o'r dyddiad presennol/y dyddiad ailgyflwyno.