Mae Gwasanaethau Cymorth Cynhwysol i Fyfyrwyr yn darparu amrywiaeth eang o gymorth, gan gynnwys:
- Cymorth gyda cheisiadau am arian
- Gwneud trefniadau ar gyfer darpariaeth arholi amgen, e.e. mwy o amser, gallu defnyddio cyfrifiadur ac ati.
- Mynediad at ein cynlluniau cymorth ar gyfer myfyrwyr sydd wedi cael argymhelliad y dylent gael cymorth pobl i gymryd nodiadau neu ddarllenwyr.
- Cysylltu â’ch adran academaidd, Gwasanaethau Preswyl, y Ganolfan Drawsgrifio a’r Gofrestrfa Academaidd
- Cysylltu ag asiantaethau allanol fel eich Awdurdod Addysg Lleol, y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, RNIB ac RNID, i hwyluso’r cymorth angenrheidiol
- Asesu anghenion, gan nodi’r dechnoleg a’r cymorth dynol gorau sydd ar gael
- Cymorth i fyfyrwyr sydd â chyflyrau iechyd meddwl gan y Gwasanaeth Lles
- Gwasanaethau i fyfyrwyr gydag amhariadau a chyflyrau tymor hir yn y Llyfrgell
- Llety wedi'i addasu - Mae nifer o ystafelloedd yn neuadddau'r campws wedi'u haddasu mewn gwahanol ffyrdd er mwyn diwallu anghenion myfyrwyr ag anableddau. I gael rhogor o wybodaeth am neuaddau preswyl, gan gynnwys eu costau a'u lleoliadau, edrychwch ar dudalennau'r Gwasanaethau Preswyl
- Gwasanaeth Teleofal - Mae'r gwasanaeth wedi'i creu er mwyn cynorthwyo myfyrwyr gyda chyflyrau meddygol y gallai affeithio'u gallu i fyw'n annibynnol yn llety'r Brifysgol. Cyflawnir hyn trwy gyfuniad o wasanaeth ffôn 24-awr i'r ganolfan fonitro, a thechnoleg flaengar.