Beth yw Anhawster Dysgu Penodol (SpLD)?

Anhawsterau Dysgu Penodol yw'r term cyffredinol sy'n cynnwys yr amrywiaeth o anawsterau sydd yn aml yn digwydd ar yr un pryd, a adnabyddir yn gyffredin fel:

  • Dyslecsia
  • Dyspracsia neu Anhwylder Cydsymud Datblygiadol
  • Dyscalcwlia
  • Dysgraffia
  • Anhwylder Diffyg Canolbwyntio neu Anhwylder Diffyg Canolbwyntio Gorfywiogrwydd (ADD neu AD(H)D) 

Gall yr anawsterau hyn effeithio ar ddysgu a phrosesu gwybodaeth, ac felly gallant effeithio'n sylweddol ar addysg. Felly, efallai bydd angen cymorth arbenigol ac addasiadau rhesymol er mwyn sicrhau na fydd myfyrwyr sydd â'r anawsterau hyn dan anfantais yn eu hastudiaethau.   

Fel gydag unrhyw anabledd, ni fydd dau unigolyn yn cael yr un cyfuniad o anawsterau. Bydd y Gwasanaeth Lles ac Anabledd yn ystyried dy anghenion unigol er mwyn sicrhau y byddi di'n cael cynnig y cymorth mwyaf priodol.

Mae Cymdeithas Dyslecsia Prydain (y BDA) yn cynnig gwybodaeth arbenigol am arwyddion dyslecsia a niwroamrywiaeth yn ehangach, ar y tudalennau canlynol:

 

Darparu tystiolaeth a chael mynediad at gymorth 

Er mwyn cael mynediad at gymorth ar gyfer Anhawster Dysgu Penodol, bydd angen darparu tystiolaeth ar ffurf adroddiad asesu diagnostig llawn gan naill ai Seicolegydd Addysgol neu Athro Arbenigol sydd â thystysgrif ymarfer.  Os wyt ti eisoes yn meddu ar dystiolaeth o Anhawster Dysgu Penodol, dylet ti gwblhau Ffurflen Cymorth Myfyrwyr er mwyn rhoi gwybod i ni am dy anghenion a chymorth blaenorol rwyt ti wedi'i dderbyn yn ystod dy addysg.

Os nad oes adroddiad asesu diagnostig llawn gennyt ti ar hyn o bryd, gallwn ni roi cyngor ar dy opsiynau ar gyfer cael gafael ar y dystiolaeth hon. Cysyllta â'r Gwasanaeth Lles ac Anabledd er mwyn rhoi gwybod i ni yr hoffet ti gael rhagor o wybodaeth am yr opsiynau i'w hasesu ar gyfer Anawsterau Dysgu Penodol.  

Gweler ein tudalen Gwasanaethau Cymorth Ehangach am wybodaeth am wasanaethau cymorth sydd eisoes ar gael i fyfyrwyr, ni waeth am ddiagnosis o Anhawster Dysgu Penodol. 

 

Archwilio diagnosis