Mae'r Gwasanaeth Lles ac Anabledd yma i dy gefnogi gydag addasiadau y gallai fod eu hangen arnat oherwydd anabledd a/neu gyflwr meddygol tymor hir. Rydym yn ystyried anghenion ar sail unigol ac yn gweithio gydag adrannau ledled y Brifysgol i hyrwyddo cynwysoldeb a dulliau addysgu ac asesu hygyrch.

Hefyd, gallwn ni:

  • Dy gynorthwyo â'r broses cyflwyno cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA). Mae cymorth tymor hir ar gyfer dy astudiaethau dim ond ar gael drwy'r pecyn cymorth hwn i fyfyrwyr y DU nad yw'n seiliedig ar brawf modd.
  • Cynghori/cysylltu ag adrannau academaidd ynghylch Addasiadau Rhesymol, os oes angen. Gallai addasiadau gynnwys amser ychwanegol mewn arholiadau, ystafelloedd llai mewn arholiadau neu ddulliau asesu amgen ar gyfer gwaith cwrs etc.
  • Cynghori/cysylltu â gwasanaethau proffesiynol eraill ledled y Brifysgol, megis y Tîm Llety, y Ganolfan Drawsgrifio a Gwasanaeth y Llyfrgell, er mwyn cefnogi dy anghenion unigol. Gweler tudalen ein Gwasanaethau Cymorth Ehangach am ragor o wybodaeth am y gwasanaethau ym Mhrifysgol Abertawe.
  • Rhoi cyngor i ti ar dy opsiynau cymorth os yw dy amgylchiadau a dy iechyd presennol yn gwneud astudio'n anodd i ti.