Cyllid i Fyfyrwyr y DU

Mae'r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA) yn grant i dy helpu gyda chostau ychwanegol y gallet eu hwynebu oherwydd anabledd. Gall helpu i dalu am bethau fel meddalwedd gyfrifiadurol, tiwtoriaid sgiliau astudio arbenigol, rhywun i gymryd nodiadau, mentoriaid a chostau teithio.

Cofia ddechrau dy gais am DSA mor gynnar â phosibl oherwydd gall y broses gymryd hyd at 14 wythnos. Am ragor o wybodaeth am DSA, cer i'r Hyb DSA

Os ydych chi’n ansicr a ddylech chi wneud cais am DSA, cysylltwch â’ch corff cyllido cyn gynted â phosib:

Cyrff cyllido eraill

Gall y broses ymgeisio fod yn wahanol ar gyfer cyrsiau a chyrff cyllido penodol. Dylech chi gysylltu â'r Gwasanaeth Lles ac Anabledd am ragor o gyngor ar gyflwyno cais am DSA os yw’r amgylchiadau canlynol yn berthnasol:

  • Rydych chi'n byw yng Ngweriniaeth Iwerddon
  • Byddwch yn astudio am MSc mewn Gwaith Cymdeithasol
  • Byddwch yn derbyn bwrsariaeth gan gyngor ymchwil (e.e. yr EPSRC)
  • Mae eich cwrs yn denu cyllid gan GIG Cymru (e.e. Nyrsio, Gwyddor Barafeddygol)

 

Cyllid i fyfyrwyr rhyngwladol a myfyrwyr yr UE

Mae Prifysgol Abertawe'n croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr rhyngwladol ag anableddau. Mae’n bwysig i chi ddweud wrthym am eich anghenion cymorth cyn gynted â phosib fel y gallwn siarad â chi am opsiynau.

Er na all myfyrwyr rhyngwladol hawlio DSA, efallai y gallwch gael cyllid drwy eich llywodraeth gartref, noddwyr neu ysgoloriaethau. Mae'n bosib y bydd ymddiriedolaethau a sefydliadau elusennol y gallwch gyflwyno cais am gyllid iddynt, megis  Cynllun Dyfarniadau'r Snowdon Trust sy’n cynnig grantiau i gefnogi myfyrwyr â chyflyrau corfforol neu synhwyraidd.

Mae’r British Council yn darparu rhagor o wybodaeth.