Mae cydlynwyr anabledd yn eich Cyfadran sy’n sicrhau bod cymorth ac addasiadau ar gael i’ch cynorthwyo chi gyda’ch anableddau, eich anawsterau iechyd meddwl a/neu’ch cyflyrau meddygol cysylltiedig. 

  • Maent yn ffynhonnell gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i fyfyrwyr
  • Maent yn annog myfyrwyr i ddatgelu anabledd a/neu gyflwr meddygol cyn gynted â phosib
  • Maent yn dosbarthu gwybodaeth am addasiadau rhesymol i aelodau priodol o'r staff academaidd a gweinyddol y mae angen yr wybodaeth hon arnynt, gan gynnwys tiwtor personol., cyfarwyddwyr rhaglenni, cydlynwyr modiwlau a'r swyddfa arholiadau
  • Cysylltu â’r Gwasanaeth Lles ac Anabledd i gefnogi anghenion myfyrwyr. 
  • Maent yn hyrwyddo dysgu ac addysgu cynhwysol a hygyrch
  • Rhoi cyngor ac arweiniad neu gysylltu â chydweithwyr gan ddarparu gwybodaeth berthnasol am yr effaith y gall gofynion rhaglenni penodol yn y Gyfadran ei chael ar fyfyriwr ag anabledd e.e. taith faes, gwaith mewn labordy.

E-bostia dy gydlynydd anabledd: