Pa gyllid sydd ar gael?
Os oes gennych anabledd, cyflwr meddygol neu anhawster dysgu penodol, mae'n bosib y byddwch yn gymwys i gael arian gan y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (LMA).
Diben y lwfans hwn yw talu am unrhyw gostau neu dreuliau sy'n codi wrth i chi astudio oherwydd eich anabledd. Nid yw'n talu am y canlynol:
- Costau sy'n gysylltiedig ag anabledd y byddai rhaid i chi eu talu os oeddech chi'n fyfyriwr neu beidio;
- Costau astudio y gallai pob myfyriwr eu hwynebu;
- Gofal personol. Cysylltwch ag un o'n Gweithwyr Achos Anabledd os oes angen cyngor arnoch ar dalu am ofal personol.
Mae pedair adran yn y lwfans i ymdrin â meysydd angen gwahanol:
- Lwfans offer arbenigol;
- Lwfans cynorthwywyr anfeddygol;
- Lwfans gwariant cyffredinol/arall;
- Costau teithio.