Mae Ysgol Addysg Prifysgol Abertawe (SUSE) yn benderfynol o gael ei chydnabod yn ganolfan ymchwil addysgol o safon uchel yn rhyngwladol ac yng Nghymru. Mae Ysgol Addysg Prifysgol Abertawe eisoes yn cymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau ymchwil, gan gynnwys prosiectau cydweithredol ar lefel ryngwladol a chenedlaethol.
Yn 2019/20, cwblhaodd staff gynigion am grantiau ymchwil gan nifer o arianwyr:
- Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC)
- Yr Academi Addysg Uwch
- ERASMUS PLUS
- Llywodraeth Cymru
- Y Cyngor Gweithlu Addysgu
- Yr Academi Brydeinig
Mae gan Ysgol Addysg Prifysgol Abertawe ddyheadau i fod yn ganolfan ymchwil flaenllaw sydd â phwyslais cryf ar bolisi ac ymarfer. Mae ganddi gysylltiadau rhyngwladol ac mae'n sefydlu ei hun yn ganolfan ragoriaeth yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.