Ydych chi'n ystyried astudio trwy gyfrwng y Gymraeg?
Mae cynllun Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau cyfrwng Cymraeg Academi Hywel Teifi yn gynllun sy’n cael ei ariannu’n flynyddol gan gyllideb Pwyllgor Strategaeth yr Iaith Gymraeg ac yn cael ei weinyddu gan yr Academi. Mae’r cynllun yn agored i fyfyrwyr sydd eisoes wedi dewis dod i Brifysgol Abertawe ac sydd yn dewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg lle bo cyfle, yn hytrach na thrwy’r Saesneg.
Gwelwyd cynnydd sylweddol yn y nifer o geisiadau a dderbyniwyd dros y ddwy flynedd ddiwethaf gan osod safon uchel i’r gystadleuaeth. O ganlyniad, anogir ymgeiswyr i dreulio amser yn cwblhau ceisiadau cryf i’w cyflwyno er mwyn sicrhau’r cyfle gorau i ennill Ysgoloriaeth.
Mae dau gynllun yn bodoli:
Ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg
Dyma gynllun ysgoloriaethau ar gyfer myfyrwyr sydd eisoes wedi dewis dod i Brifysgol Abertawe ac sydd yn dewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg lle bo cyfle, yn hytrach na thrwy’r Saesneg. Mae’r cynllun hwn yn agored i fyfyrwyr lefelau Sylfaen, 4, 5, 6, a 7 ac mae 55 o ysgoloriaethau o £300 yr un ar gael i’r rhai sy’n dewis astudio 40 credyd neu fwy drwy gyfrwng y Gymraeg.
I wneud cais ar gyfer Ysgoloriaeth mae angen i chi ddychwelyd y ffurflen hon wedi ei chwblhau yn llawn at Lois Wyn Griffiths trwy'r manylion isod erbyn 5pm ar ddydd Sul 18 Hydref 2020.
- Ffurflen gais Ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg (PDF)
- Ffurflen gais Ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg (WORD)
Mae’r ysgoloriaethau hyn yn agored i fyfyrwyr sy’n astudio’r meysydd isod:
- Addysg
- Astudiaethau Busnes
- Astudiaethau'r Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus
- Biocemeg
- Biowyddorau
- Bydwreigiaeth
- Cemeg
- Daearyddiaeth
- Ffiseg
- Geneteg
- Gwaith Cymdeithasol
- Hanes
- Ieithoedd Modern Tramor
- Meddygaeth
- Nyrsio
- Parafeddygaeth
- Seicoleg
- Y Gyfraith
Bwrsariaethau cyfrwng Cymraeg
Mae’r gystadleuaeth hon yn cynnig 8 bwrsari o £100 yr un i fyfyrwyr lefelau Sylfaen, 4, 5, 6, a 7 sydd yn astudio o leiaf 5 credyd o fodiwl trwy gyfrwng y Gymraeg mewn un semester. Mae’r bwrsariaethau hyn yn agored i fyfyrwyr sy’n astudio'r meysydd isod;
- Addysg
- Astudiaethau Busnes
- Cemeg
- Parafeddygaeth
- Peirianneg
- Mathemateg
- Seicoleg
I wneud cais ar gyfer Bwrsariaeth mae angen i chi ddychwelyd y ffurflen hon wedi ei chwblhau yn llawn at Lois Wyn Griffiths trwy'r manylion isod erbyn 5pm ar ddydd Sul 18 Hydref 2020.
- Ffurflen gais Bwrsariaethau cyfrwng Cymraeg (PDF)
- Ffurflen gais Bwrsariaethau cyfrwng Cymraeg (WORD)
Telerau ac Amodau
Darllenwch y Telerau ac Amodau cyn cwblhau cais. Mae'r dyddiad cau am 5pm ar ddydd Sul 18 Hydref 2020.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, cysylltwch â
Lois Wyn Griffiths - l.w.griffiths@abertawe.ac.uk