Er mwyn gwneud cais am ysgoloriaeth mae angen i chi fod yn astudio cwrs cymwys, diwallu amodau a thelerau’r ysgoloriaeth a dychwelyd y ffurflen hon wedi ei chwblhau yn llawn, at Lois Wyn Griffiths, l.w.griffiths@abertawe.ac.uk  erbyn 12:00yp,16 Hydref 2019. 

Noder: Nifer cyfyngedig o ysgoloriaethau sydd ar gael. Mae hon yn broses cystadleuol.

Cyn gwneud cais am ysgoloriaeth, sicrhewch eich bod wedi darllen amodau a thelerau’r Ysgoloriaeth hon a’ch bod yn astudio o leiaf 40 credyd trwy gyfrwng y Gymraeg. Sicrhewch eich bod yn ateb pob adran yn fanwl ac yn gywir a theipiwch eich datganiad, os gwelwch yn dda. Ni chaiff unrhyw geisiadau hwyr eu hystyried. Cedwir yr holl wybodaeth isod yn gyfrinachol, ni chaiff ei drosglwyddo y tu allan i’r adran.

Dyddiad cau: 5pm ar 16 Hydref 2020

Adran 1: Manylion personol
Adran 2: Manylion eich cwrs
Adran 3: Cymwysterau
Adran 4: Datganiad Personol

Seilir dyfarniadau’r ysgoloriaethau ar allu a theilyngdod academaidd ond hefyd ar eich gweithgarwch ynghlwm wrth y Gymraeg o fewn cyd-destun addysgol neu gymdeithasol. Byddai’n dda deall hefyd beth yw eich bwriadau i’r dyfodol wrth ddefnyddio’r Gymraeg. Os ydych eisoes wedi derbyn ysgoloriaeth gan yr Academi mewn blwyddyn flaenorol, gallwch esbonio sut y defnyddioch yr ysgoloriaeth honno.

Lluniwch ddatganiad isod (dim yn hwy na 500 gair) yn esbonio eich rhesymau dros wneud cais, a pham yn eich barn chi, y dylech dderbyn ysgoloriaeth.

Diogelu Data

Drwy gyflwyno eich ymholiad, bydd yr wybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei defnyddio i greu cofnod o fewn ein system ymholiadau. Darllenwch ein Datganiad Preifatrwydd Ymgeiswyr sy’n rhoi mwy o wybodaeth ynglŷn â sut y byddwn yn prosesu eich data personol.

Bydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn defnyddio’r manylion uchod ar gyfer ei buddiant hanfodol o dalu eich ysgoloriaeth, yn unol gyda’r amodau a amlinellir yn Neddf Diogelu Data 2018.  Bydd y wybodaeth uchod yn cael ei gadw ar system y Coleg a’i rannu gyda banc y Coleg yn unig ar gyfer hwyluso’r taliad.  Gellir gweld Rhybudd Preifatrwydd y Coleg sy’n esbonio’n llawn y defnydd a wneir o’ch manylion personol ar wefan y Coleg (http://colegcymraeg.ac.uk/data)